Agor y brif ddewislen

Ffurfir y cywydd deuair hirion o gwpledi sy'n odli, saith sillaf i bob llinell, a phob llinell mewn cynghanedd. Dyma'r ffurf fwyaf cyffredin o lawer ar y cywydd. Rhaid i un brifodl fod yn acennog a'r llall yn ddiacen, er nad oes ots ym mha drefn y gwneir hynny.

Y pedwar mesur ar hugain
Sion Cent
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Dyma enghraifft gan Waldo Williams:

Pa eisiau dim hapusach,
Na byd yr aderyn bach?
Byd o hedfan a chanu
A hwylio toc i gael tŷ.

Un o'r mesurau pwysicaf, os nad y pwysicaf oll, yw'r cywydd deuair hirion.[1]

O'r traethodl y datblygodd y cywydd, mesur a fu'n boblogaidd gan y beirdd israddol a elwir yn Glêr. Ystyrir Dafydd ap Gwilym, bardd a ganai yn y 14g, yn ffigwr canolog a phwysig yn natblygiad y cywydd ac yn rhannol gyfrifol am ddyrchafu ei statws.[2]

Os oes mwy neu lai o sillafau mewn llinell, dywedir fod tor mesur ynddo a chaiff ei gyfrif yn fai. Ni chaniateir cynghanedd lusg yn ail linell y cwpled, a gelwir y bai hwn yn "llysiant llusg". Fel arfer ceir amrywiaeth yn y brifodl, ond mae llawer o feirdd yn dewis canu cywyddau unodl.

CyfeiriadauGolygu

  1. Anghenion y Gynghanedd, Alan Llwyd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1973.
  2. Gwaith Dafydd ap Gwilym, Thomas Parry, Gwasg Prifysgol Cymru, Ail argraffiad, 1963.

Gweler hefydGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.