Wiliam Llŷn

bardd

Bardd Cymraeg proffesiynol a ganai yn ail hanner yr 16g oedd Wiliam Llŷn (1534 neu 1535 - 1580). Fel mae ei enw yn awgrymu, roedd yn frodor o Lŷn. Roedd ei frawd Huw Llŷn yn fardd hefyd.

Wiliam Llŷn
FfugenwWilliam Llŷn Edit this on Wikidata
Ganwydc. 1534 Edit this on Wikidata
Bu farw31 Awst 1580 Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaLewys Dwnn Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Roedd Wiliam Llŷn yn un o'r to olaf o'r beirdd proffesiynol a ganai yn nhai'r uchelwyr i ennill eu tamaid. Bu'n ddisgybl barddol i Gruffudd Hiraethog (m. 1564), a chafodd ei radd fel pencerdd yn ail Eisteddfod Caerwys yn 1567. Mae nodyn mewn llawysgrif o hanner olaf yr 17g yn dweud ei fod yn glerigwr, ond amheuir hyn.

Ymddengys ei fod yn byw yn nhref Croesoswallt yn rhan olaf ei oes, a chadwyd ei ewyllys, sy'n gadael ei dŷ yno i'w wraig. Gadawodd ei lyfrau i Rhys Cain, oedd yn ddisgybl iddo; roedd Morris Kyffin hefyd yn ddisgybl iddo.

Cerddi

golygu

Cadwyd llawer o'i gerddi mewn llawysgrif y credir ei bod yn ei law ei hun, sy'n cynnwys ei eirlyfr barddol. Ei gerddi enwocaf yw ei farwnadau i'w gyd-feirdd, Gruffudd Hiraethog, Siôn Brwynog ac Owain ap Gwilym. Ymddengys mai ef a ddyfeisiodd y cywydd marwnad ar ffurf ymddiddan rhwng y bardd a'r person marw.

Gweler hefyd

golygu
  • Gruffydd Dwnn, Uchelwr Cymreig ac un o noddwyr Beirdd yr Uchelwyr

Llyfryddiaeth

golygu
  • Barddoniaeth Wiliam Llŷn a'i eirlyfr, gyda nodiadau gan y Parch. J. C. Morrice (Bangor: Jarvis a Foster, 1908).
  • Roy Stephens, Wiliam Llŷn (Cymdeithas Cerdd Dafod Cymru, 1980). Detholiad bychan o waith y bardd gyda rhagymadrodd.



  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.