Dan Davies (Alaw Glan Morlais)

Arweinydd côr

Roedd Daniel (Dan) Davies (27 Mai 185915 Chwefror 1930) yn arweinydd côr o Gymru.

Dan Davies
Ganwyd27 Mai 1859 Edit this on Wikidata
Dowlais Edit this on Wikidata
Bu farw15 Chwefror 1930 Edit this on Wikidata
Penydarren Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Davies yn 39 Berry Square, Dowlais, yn blentyn i David Davies, cigydd, ac Elizabeth ei wraig, roedd Mr a Mrs Davies a'u gwreiddiau yn Sir Gaerfyrddin aethant i Ddowlais ym 1850. Roedd Dan yn un o saith o blant, pob un yn hoff o gerddoriaeth.[1] Bu ddau ohonynt hefyd yn amlwg yn y maes. Roedd John Davies yn unawdydd llwyddiannus a enillodd llawer o wobrau eisteddfodol a bu Morlais (Y Parch W Morlais Davies, Abergwaun wedyn) yn arweinydd côr Aberhonddu tra yn efrydwyr yn yr athrofa yno.[2]

O ran ei gwaith pob dydd bu Davies yn gweithio yn siop cigydd ei dad cyn caffael ar y busnes ei hun, bu hefyd yn ddeliwr da byw.

Gyrfa Gerddorol

golygu

Dechreuodd Davies ar ei yrfa gerddorol yn ifanc iawn. Yn 6 mlwydd oed bu'n canu deuawd mewn eisteddfodau lleol efo John, ei frawd. Yn wyth oed bu'n arwain côr plant capel Moriah, Dowlais. Derbyniodd gwersi cerddorol gan Thomas Davies Treforys. Ym 1880 pasiodd arholiadau cerddor yr Eisteddfod Genedlaethol gan gael ei urddo gyda'r enw yn orsedd Alaw Glan Morlais. Y flwyddyn ganlynol enillodd gradd AC (Advanced Certificate) y Coleg Tonic Sol-ffa, Llundain.[3]

Erbyn 1880, bu hefyd yn ennill cryn enw iddo'i hyn fel arweinydd y Dowlais Glee Party.[4] Ym 1881 ehangodd ei barti i greu'r Dowlais Harmonic Society. Daeth ei gôr newydd yn llwyddiannus iawn mewn eisteddfodau lleol. Ym 1885 enillodd côr Dowlais y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr gan guro'r ffefrynnau côr Llanelli.[5] Yn ystod ei ddeng mlynedd gyntaf enillodd côr Dowlais gwobrau ariannol gwerth £1355. (O gymharu y gwerth incwm £1,755 miliwn yn 2020 [6])

Yn dilyn ei lwyddiannau ysgubol dechreuodd côr Dowlais i baratoi ar gyfer ymweld ag Eisteddfod Ffair y Byd yn Chicago ym 1893, ond bu'n rhaid dod a'r cynlluniau i ben pan benderfynodd Davies, ym 1892, yn gwbl di rybudd, i ymadael a'r côr i fod yn arweinydd ei brif wrthwynebwyr lleol Côr Ffilharmonig Merthyr. Cafodd ei gyhuddo o frad gan ei gyn côr, ac wrth iddo ddathlu buddugoliaeth ei gôr newydd taflwyd cerrig ato yn y stryd gan un o aelodau côr Dowlais.

Bu llwyddiant Davies gyda chôr Merthyr hyd yn oed yn fwy na'i lwyddiant efo côr Dowlais. Rhwng 1893 a 1897 enillodd gwobrau ariannol o dros £3,000. Er bod Davies yn ennill yn rheolaidd ni chafodd y wobr pob tro ac roedd y cythraul canu yn ei feddiannu pan fyddai ei gôr yn colli.[7]

Rhybuddiodd Frederic Cowen, a fethodd â dyfarnu'r wobr i Ferthyr yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno ym 1896, pe bai'n "gwerthfawrogi ei enw da, na fyddai byth yn troedio yng Nghymru eto". Gwahoddwyd beirniaid Llandudno i feirniadu yn Eisteddfod Arddangosfa Caerdydd y mis Hydref canlynol. Gwrthododd Davies i gystadlu yn yr eisteddfod gan ei fod ef a'r côr wedi penderfynu "byth i gystadlu eto o dan ddyfarnwyr Llandudno, Mr Cowen a Mr Jenkins. Trwy gystadlu yng Nghaerdydd byddent yn derbyn canlyniad Llandudno fel un cyfiawn, ac na allent wneud hynny".[8]

Yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 1897, pan wrthodwyd y wobr gyntaf ddisgwyliedig i gôr Merthyr. Nododd y prif ddyfarnwr, Syr Alexander Mackenzie, pennaeth yr Academi Gerdd Frenhinol, nad oedd y beirniaid wedi caniatáu eu hunain i gael eu "cario i ffwrdd gan ddim ond grym cryfder, nid oedd pŵer sain yn unig, o natur Côr Merthyr, yn ddigonol". Cyfarchwyd y canlyniad ag anghrediniaeth yn y pafiliwn a oedd dan ei sang ac ar ddiwedd y gystadlu cynghorwyd Mackenzie i osgoi'r brif allanfa lle'r oedd grŵp o ddynion yn loetran gyda bwriad bygythiol. Dihangodd trwy ddrws cefn a chafodd ei hebrwng yn ôl i'w westy. .[7]

Wedi'r feirniadaeth o'i arddull o arwain ag arweiniodd at golli dwy eisteddfod Genedlaethol yn olynol, rhoddodd Davies y gorau i arwain corau cystadleuol. Am weddill ei yrfa bu'n arwain corau cyngerdd, cymanfaoedd canu ac yn beirniadu.

Ym 1904 cafodd gwahoddiad i'r Tŷ Gwyn gan yr Arlywydd Theodore Roosevelt, a fynegodd ei hyfrydwch o groesawu arweinydd mwyaf llwyddiannus Cymru a oedd wedi ennill mwy o wobrau nag unrhyw arweinydd arall.[9]

Ym 1884 priododd Davies â Mary Ann, merch John Prosser, arolygydd rheilffyrdd. Bu iddynt bedwar o blant ond dim ond ei fab Hayden a oroesodd. Bu Hayden hefyd yn gerddor medrus gan wasanaethu fel organydd Capel Bedyddwyr y Parc am nifer o flynyddoedd.

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn ei gartref ym Mhenydarren yn 70 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent y Pant. Gadawodd yr holl gwpanau, medalau ac eitemau eraill a enillodd i amgueddfa Castell Cyfarthfa lle maent i'w gweld gan ymwelwyr o hyd. Mae'r Castell hefyd yn cynnwys darluniau o Dan Davies a pheintiwyd gan Frank Harris tad y diddanwr a throseddwr rhyw Rolf Harris [10]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Yr Athraw Ionawr 1899 ORIEL EIN CERDDORION. Mr. Dan Davies, A.C., Merthyr adalwyd 22 Tachwedd 2020
  2. Y Tyst a'r Dydd 28 Mawrth 1873. Aberhonddu adalwyd 22 Tachwedd 2020
  3. Cyf. VIII rhif. 91 - Gorffennaf 1 1896 EIN CERDDORION. (RHIF 7. ) Mr. DAN DAVIES, Merthyr adalwyd 22 Tachwedd 2020
  4. "Hanesion Crefyddol - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1880-08-20. Cyrchwyd 2020-11-22.
  5. "EISTEDDFOD ABERDAR - Y Drych". Mather Jones. 1885-09-10. Cyrchwyd 2020-11-22.
  6. Measuring Worth adalwyd 22 Tachwedd 2020
  7. 7.0 7.1 "Davies, Daniel [Dan] (1859-1930), choral conductor". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/101146. Cyrchwyd 2020-11-22.
  8. "MERTHYR CHOIR AND THELLANDUDNO EISTEDDFOD - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1896-10-14. Cyrchwyd 2020-11-22.
  9. "MR DAN DAVIES HONOURED - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1904-08-22. Cyrchwyd 2020-11-22.
  10. WalesOnline (2006-11-16). "Rolf hits the right note during Merthyr visit". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-23.