David Howell, (Llawdden)
Offeiriad Anglicanaidd a bardd o Gymru oedd y Mwyaf Barchedig Dr David Howell, (Llawdden) (16 Awst, 1831 – 15 Ionawr, 1903).[1]
David Howell, | |
---|---|
Ffugenw | Llawdden |
Ganwyd | 16 Awst 1831 Llan-gan |
Bu farw | 15 Ionawr 1903, 1903 Tyddewi |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | deon, bardd |
Plant | William Tudor Howell |
Cefndir
golyguGanwyd Howell yn Nhreoes, Llan-gan, Sir Forgannwg, yn fab i John Howell, (Y Bardd Coch) ffarmwr, a Jennet (née Griffith), ei wraig. Roedd ei dad yn flaenor gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, roedd John Howell hefyd yn fardd a chyhoeddwyd cyfrol o'i gerddi, "Colofn y Bardd", ym 1879 [2]. Roedd ei fam yn eiddil ei hiechyd a chafodd ei fagu yn bennaf gan ei rhieni hi Anthony a Mary Griffiths o Dŷ'n y Caeau, Eglwys Fair y Mynydd.[3] Roedd ei fam-gu yn aelod triw o'r eglwysig sefydledig. Yn bymtheg oed dychwelodd at ei dad i weithio'r tir ar ei fferm newydd Bryn Cwtyn, Pen-coed.[4]
Cafodd ei addysgu yn ysgol yr Eryr, Y Bont-faen.
Gyrfa
golyguWedi dychwelyd at ei dad dechreuodd Llawdden mynychu capel y Methodistiaid Calfinaidd a bu awydd ganddo hyfforddi am weinidogaeth yr enwad. Cafodd ei berswadio gan John Griffiths Rheithor Eglwys Fair y Mynydd, yr eglwys bu Howell yn ei fynychu efo'i fam-gu, i geisio am weinidogaeth Eglwys Loegr. Aeth i Ysgol Baratoawl Merthyr ac yna i Sefydliad Esgobaeth Llandaf yn y Fenni i hyfforddi am yr offeiriadaeth.
Fe'i hordeiniwyd yn ddiacon ym 1855 ac yn offeiriad ym 1856. Gwasanaethodd fel curad Castell-nedd ar ôl ei ordeinio. Ym 1857 fe'i penodwyd yn ysgrifennydd Cymru i Gymdeithas Cymorth Fugeiliol Eglwys Loegr. Gwasanaethodd fel ficer Pwllheli rhwng1861 a 1864, ac yn fel Ficer Eglwys Sant Ioan, Caerdydd o 1864 i 1875).[5]
Ym 1875 daeth yn ficer Wrecsam,[6] lle y bu hyd 1891, pan symudodd i blwyf cyfagos Gresffordd. Derbyniodd gradd BD gan Archesgob Caergaint ym 1878. Yn yr un flwyddyn fe'i penodwyd yn brebendari Gallt Melyd. Dyrchafwyd ef yn ganon anrhydeddus Llanelwy ym 1885, a daeth yn archddiacon Wrecsam ym 1889.[7]
O herwydd ei gysylltiad boreol ag Anghydffurfiaeth daeth a llawer o sêl pregethu ac efengylu Anghydffurfiaeth i'w waith bugeiliol. Roedd yn ymwybodol mae un o broblemau Eglwys Loegr, oedd o fantais i'r capeli, oedd ei drefn blwyfol canoloesol. Roedd rhai o'r plwyfi yn enfawr o ran tiriogaeth gyda phrif eglwys y plwyf yn aml yn bell o'r canolfannau poblogaidd diwydiannol newydd.[8] Cododd dros £30,000 i ehangu gwaith yr eglwys trwy agor canolfannau ymestyn a chapeli anwes yn ardaloedd poblog cylch Caerdydd a chylch Wrecsam.
Ym 1897 penodwyd Howell yn ddeon Tyddewi,[9] swydd a ystyriwyd yn fath o ymddeoliad answyddogol. Dangosodd ei waith i adfer capel y forwyn yn yr eglwys gadeiriol nad oedd wedi colli ei afiaith am waith.
Bardd a darlithydd
golyguRoedd Llawdden yn hyddysg iawn yn llenyddiaeth Cymru, yn enwedig ei emynyddiaeth,[10] ac roedd yn cydymdeimlo â mudiadau cenedlaethol Cymru.[11] Nid oedd gwleidyddiaeth plaid o ddiddordeb iddo, ac ar ôl 1875 gwrthododd ymwneud ag unrhyw anghydfod gwleidyddol. Roedd yn areithiwr dawnus, yn bwerus nid yn unig yn y pulpud ond hefyd ar blatfform eisteddfod,[12] lle'r oedd yn enwog am ei englynion a'i areithiau gwladgarol ac o blaid yr iaith. Roedd yn ddarlithydd poblogaidd ar bynciau crefyddol a llenyddol. Mynychwyd ei ddarlithoedd yn frwd gan bobl o bob enwad.
Teulu
golyguPriododd Anne Powell o Ben-coed cawsant bedwar mab. Roedd William Tudor Howell, Aelod Seneddol Ceidwadol Bwrdeistrefi Sir Ddinbych yn un o'r meibion.[13]
Marwolaeth
golyguBu farw yn Nhyddewi yn 71 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion yng Nghapel St Niclas yn y gadeirlan. Bu gweinidogion y Methodistiaid Calfinaidd, Yr Annibynwyr, Y Bedyddwyr a'r Wesleaid yn cynorthwyo Esgob Tyddewi yn y gwasanaeth coffa.[14]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "HOWELL, DAVID ('Llawdden'; 1831 - 1903); | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-02-27.
- ↑ Howell, John (1879). Colofn y bardd, sef awdlau, cwyddau, ac englynion, ar wahanol destynau, moesol a chrefyddol. Wrecsam, Hughes.
- ↑ Yr Archif Genedlaethol Cyfrifiad 1841 ar gyfer Eglwys Fair y Mynydd Dosbarth: HO107/1423; Llyfr: 13; Ardal rhifo: 7; Ffolio: 9; Tudalen: 10
- ↑ "Howell, David (Llawdden, 1831–1903), dean of St David's | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/34024. Cyrchwyd 2020-02-27.
- ↑ Y Diwygiwr; rhifyn Chwefror, 1903 - Y DIWEDDAR DDEON HOWELL (LLÄWDDEN.) Gan Watcyn Wyn adalwyd 27 Chwefror 2020
- ↑ "YMADAWIAD Y PARCH D HOWEL LLAWDDEN O GAERDYDD - Y Gwladgarwr". Abraham Mason. 1875-02-20. Cyrchwyd 2020-02-27.
- ↑ "Y PARCH D HOWELL BD LLAWDDEN - Papur Pawb". Daniel Rees. 1893-08-05. Cyrchwyd 2020-02-27.
- ↑ "LLAWDDEN AR YR EGLWYS YN NGHYMRU - Y Gwyliedydd". Amos Brothers. 1890-02-05. Cyrchwyd 2020-02-27.
- ↑ "LLAWDDEN YN DDEON TY DDEWI - Yr Herald Cymraeg". Daniel Rees. 1897-04-06. Cyrchwyd 2020-02-27.
- ↑ "LLAWDDEN AR EMYNYDDIAETH - The London Kelt". J. G. Grellier. 1899-01-28. Cyrchwyd 2020-02-27.
- ↑ "LLAWDDEN A CHENEDLAETHOLDEB - The London Kelt". J. G. Grellier. 1902-09-27. Cyrchwyd 2020-02-27.
- ↑ "Llawdden y Dyn Hyawdl - Gwalia". Robert Williams. 1903-04-14. Cyrchwyd 2020-02-27.
- ↑ "MR W T HOWELL - Papur Pawb". Daniel Rees. 1894-11-03. Cyrchwyd 2020-02-27.
- ↑ "ANGLADD DEON TYDDEWI - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1903-01-29. Cyrchwyd 2020-02-27.