De-Orllewin Clwyd (etholaeth seneddol)

Cyn etholaeth sirol yng Nghlwyd oedd De Orllewin Clwyd. Roedd yn dychwelyd un Aelod Seneddol i Dŷ'r Cyffredin yn Senedd y Deyrnas Unedig.

De-Orllewin Clwyd
Etholaeth Sir
Creu: 1983
Diddymwyd: 1997
Math: Tŷ'r Cyffredin
Aelodau:Un

Cafodd yr etholaeth ei chreu ar gyfer etholiad cyffredinol 1983, a'i ddiddymu ar gyfer etholiad cyffredinol 1997. Roedd yn sedd ymylol drwy gydol ei bodolaeth.

Roedd yr etholaeth yn un wledig ar y cyfan, ei brif ganolfannau poblog oedd tref Llangollen a phentref Rhosllannerchrugog. Crëwyd yr etholaeth allan o rannau o gyn-etholaethau Sir Ddinbych a Wrecsam; ar ôl ei ddiddymu rhannwyd yr etholaeth rhwng etholaethau De Clwyd, Gorllewin Clwyd a Dyffryn Clwyd.[1]

Aelodau Seneddol

golygu
Etholiad Aelod Plaid
1983 Robert Harvey Ceidwadol
1987 Martyn Jones Llafur
1997 Diddymu'r etholaeth gweler De Clwyd, Gorllewin Clwyd a Dyffryn Clwyd

Etholiadau

golygu

Canlyniadau Etholiad 1983

golygu
Etholiad cyffredinol 1983: De Orllewin Clwyd
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Robert Harvey 14,575 33.8
Y Democratiaid Cymdeithasol Tom Ellis 13,024 33.2
Llafur D.B. Carter 11,829 27.4
Plaid Cymru Toni Schiavone 3,684 8.6
Mwyafrif 1,551 3.6
Y nifer a bleidleisiodd 44,663 77.3

Canlyniadau Etholiad 1987

golygu
Etholiad cyffredinol 1987: De Orllewin Clwyd
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Martyn Jones 16,701 35.4
Ceidwadwyr Robert Harvey 15,673 33.2
Y Democratiaid Cymdeithasol Tom Ellis 10,778 22.9
Plaid Cymru Eifion Lloyd Jones 3,987 8.5
Mwyafrif 1,028 2.2
Y nifer a bleidleisiodd 47,139 81.1
Llafur yn disodli Ceidwadwyr Gogwydd

Canlyniadau Etholiad 1992

golygu
Etholiad cyffredinol 1992: De Orllewin Clwyd

[2]

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Martyn Jones 21,490 43.5 +8.1
Ceidwadwyr Gwilym G.V. Owen 16,549 33.5 +0.2
Democratiaid Rhyddfrydol W. Gwyn Williams 6,027 12.2 −10.7
Plaid Cymru Eifion Lloyd Jones 4,835 9.8 +1.3
Gwyrdd Nigel C. Worth 351 0.7 +0.7
Deddf Naturiol Mrs Jean B. Leadbetter 155 0.3 +0.3
Mwyafrif 4,941 10.0 +7.8
Y nifer a bleidleisiodd 49,407 81.5 +0.4
Llafur yn cadw Gogwydd +3.9

Cyfeiriadau

golygu
  1. C. Rallings & M. Thrasher, The Media Guide to the New Parliamentary Constituencies, pp.12,205 (Plymouth: LGC Elections Centre, 1995)
  2. "Politics Resources". Election 1992. Politics Resources. 9 April 1992. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-12-15. Cyrchwyd 27 Tach 2013.