Eifion (etholaeth seneddol)

etholaeth seneddol

Cyn etholaeth seneddol yn yr hen Sir Gaernarfon oedd Eifion, a oedd yn cael ei adnabod weithiau fel De Sir Gaernarfon / South Carnarvonshire. Roedd yn dychwelyd un Aelod i Dŷ'r Cyffredin.

Eifion
Etholaeth Sir
Creu: 1885
Diddymwyd: 1918
Math: Tŷ'r Cyffredin
Aelodau:Un

Crëwyd yr etholaeth gan Ddeddf Ailddosbarthu Seddau 1885 ar gyfer Etholiad Cyffredinol 1885. Cafodd yr etholaeth ei dileu ar gyfer Etholiad Cyffredinol 1918.

Ei ffiniau, yn fras, oedd cantrefi Llŷn,Eifionydd ac Uwchgwyrfai, ynghyd â rhannau gorllewinol o Is Gwyrfai. Ni chynhwysai'r trefi a etholai aelod seneddol dros Bwrdeistrefi Caernarfon (etholaeth seneddol), sef Porthmadog, Cricieth, Pwllheli, Nefyn a Chaernarfon.

Aelodau Seneddol

golygu
Etholiad Aelod Plaid
1885 John Bryn Roberts Rhyddfrydwr
1906 Ellis William Davies Rhyddfrydwr
1918 Dileu'r etholaeth

Canlyniadau

golygu
 
Poster etholiadol H Ellis Nanney 1885
Etholiad cyffredinol 1885: Eifion

nifer yr etholwyr 8,978

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol John Bryn Roberts 4,535 63.8
Ceidwadwyr H Ellis Nanney 2,573 36.2
Mwyafrif 1,962
Y nifer a bleidleisiodd 7,108 79.2
Etholiad cyffredinol 1886: Eifion

nifer yr etholwyr 8,978

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol John Bryn Roberts 4,244 77.0
Unoliaethwr G Farren 1,267 23
Mwyafrif 2,977
Y nifer a bleidleisiodd 5,511 76.9
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1892: Eifion

nifer yr etholwyr 9,630

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol John Bryn Roberts 4,567 69.8
Ceidwadwyr W Humphreys 1,973 30.2
Mwyafrif 2,594
Y nifer a bleidleisiodd 6,540 67.9
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Etholiad cyffredinol 1895 John Bryn Roberts Rhyddfrydol yn cadw'r sedd yn ddiwrthwynebiad

Etholiad cyffredinol 1900 John Bryn Roberts Rhyddfrydol yn cadw'r sedd yn ddiwrthwynebiad

Etholiad cyffredinol 1906 John Bryn Roberts Rhyddfrydol yn cadw'r sedd yn ddiwrthwynebiad

Cafodd Roberts ei benodi yn farnwr ac ymddiswyddodd o'r senedd gan achosi isetholiad ar 5 Mehefin 1906:

Is etholiad Eifion 1906 Ellis William Davies Rhyddfrydol yn cadw'r sedd yn ddiwrthwynebiad

Etholiad cyffredinol Ionawr 1910: Eifion

nifer yr etholwyr 9,455

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Ellis William Davies 6,118 78.2
Ceidwadwyr F J L Priestley 1,700 21.8
Mwyafrif 1,962
Y nifer a bleidleisiodd 7,818 82.7
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Etholiad cyffredinol Rhagfyr 1910Ellis William Davies Rhyddfrydol yn cadw'r sedd yn ddiwrthwynebiad

1918 Diddymu'r sedd