Arfon Is Gwyrfai
Cwmwd yng ngogledd Teyrnas Gwynedd yng Nghymru'r Oesoedd Canol oedd Arfon Is Gwyrfai (ffurf amgen: Arfon Is-Gwyrfai). Gyda'i gymydog Arfon Uwch Gwyrfai, roedd yn un o ddau gwmwd cantref Arfon.
Llanfaglan | |
Math | cwmwd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Yn ffinio gyda | Arfon Uwch Gwyrfai |
Cyfesurynnau | 53.1166°N 4.1142°W |
Dynodai afon Gwyrfai y ffin rhwng y ddau gwmwd. Rhed yr afon honno o'i tharddle yn Llyn y Gadair ger Rhyd Ddu i'r gogledd i aberu yn Afon Menai rhwng plwyfi Llanwnda a Llanfaglan. Gorweddai Uwch Gwyrfai i'r gorllewin. Rhedai'r ffin i'r de o Lyn y Gadair i lawr y cwm i Feddgelert ac Aberglaslyn, gyda chantref Eifionydd i'r gorllewin. O Aberglaslyn i'r gogledd ffiniai'r cwmwd a chymydau Nant Conwy ac Arllechwedd Uchaf i'r dwyrain, gyda'r Glyderau dwyreiniol ac afon Ogwen yn dynodi'r ffin (yn fras). Wynebai'r cantref ar Ynys Môn dros y Fenai yn y gogledd. Roedd y cwmwd yn cynnwys calon Eryri. Roedd cryn gyferbyniaeth rhwng yr arfodir ffrwythlon a'r cymoedd uchel yn y mynyddoedd.
Ym mhen gogledd-ddwyreiniol Arfon Is Gwyrfai roedd Maenor Bangor yn ardal yn perthyn i esgobion Bangor, ond nid yw ei statws fel uned weinyddol seciwlar yn eglur.
Prif ganolfan filwrol y cwmwd oedd Castell Dolbadarn, a amddiffynai Nant Peris wrth droed Yr Wyddfa. Yn Nant Gwynant yn y de-ddwyrain safai hen amddiffynfa Dinas Emrys a gysylltir â Myrddin, y brenin Gwrtheyrn a hanes y Ddraig Goch a'r Ddraig Wen. Roedd gan y tywysogion lys yng Nghaernarfon (Caer yn Arfon), ger safle hen gaer Rufeinig Segontium. Gorweddai'r "trefi" canoloesol pwysicaf ar y tir ar lan Afon Menai, e.e. Castellmai, Rhug, Dinorwig, a Rhuddallt.
Y canolfannau crefyddol pwysicaf yn Is Gwyrfai oedd Beddgelert, safle Priordy Beddgelert a noddid gan dywysogion Gwynedd, ac eglwysi hynafol Llanbeblig ger Segontiwm, Betws Garmon, Llanfaglan, a Llanfair Is Gaer. Yn rhan o Faenol Bangor, dinas Bangor (Bangor Fawr yn Arfon) oedd canolfan Esgobaeth Bangor.
Plwyfi
golyguGweler hefyd
golyguFfynonellau
golygu- A. D. Carr, 'Medieval Administrative Units', yn Atlas of Caernarvonshire (Caernarfon, 1974)