Hawliau LHDT yn y Deyrnas Unedig

Mae hawliau lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDT) yn y Deyrnas Unedig wedi esblygu'n sylweddol dros amser er bod ychydig bach o wahaniaeth rhwng pedair cenedl gwledydd y Deyrnas Unedig.

Cyn ac yn ystod creadigaeth y DU, gwelwyd gwrthdaro rhwng Cristnogaeth a chyfunrywioldeb. Ystyriwyd gweithgarwch rhywiol cyfunryw yn bechadurus, ac fe'i gwnaed yn anghyfreithlon â chosb marwolaeth iddo o dan Ddeddf Sodomiaeth 1533. Daeth hawliau LHDT i'r amlwg yn gyntaf pan wnaed gweithgarwch rhywiol cyfunryw yn gyfreithlon yng ngwledydd Prydain rhwng 1967 ac 1982.

Ers dechreuad yr 21g, mae cefnogaeth i hawliau LHDT wedi cynyddu. Bodolai rhai deddfau ar gyfer pobl LHDT ers 1999, ond cawsant eu hymestyn i bob agwedd o fywyd gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Yn 2000, diddymwyd gwaharddiad Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi ar unigolion LHDT yn gweithio'n agored iddynt. Cafwyd oed cydsynio cyfartal yn 2001, beth bynnag fo cyfeiriadedd rhywiol yr unigolyn. Mae gan bobl drawsrywiol yr hawl i newid eu rhyw yn gyfreithlon ers 2005. Yn yr un flwyddyn, rhoddwyd yr hawl i gyplau cyfunryw i gael partneriaeth sifil, gyda strwythur cyfreithiol tebyg i briodas a'r hawl i fabwysiadu yn Lloegr a Chymru. Cyflwynodd yr Alban hawliau mabwysiadu i gyplau cyfunryw yn hwyrach yn 2009, a Gogledd Iwerddon yn 2013. Cyfreithlonwyd priodas gyfunryw yn y Deyrnas Unedig yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn 2014,[1] ond parha i fod yn anghyfreithlon yng Ngogledd Iwerddon lle caiff ei ystyried yn bartneriaeth sifil.

Erbyn heddiw, mae gan ddinasyddion LHDT y mwyafrif o'r un hawliau a dinasyddion na sydd yn LHDT ac mae'r DU yn darparu un o'r cymdeithasau mwyaf rhydd yn y byd ar gyfer ei chymunedau LHDT. Mewn adolygiad gan IGLA-Europe yn 2014 ar hawliau LHDT, derbyniodd y DU y sgôr uchaf yn Ewrop, gyda chynnydd o 82% tuag at "barch at hawliau dynol a chydraddoldeb lawn."[2] Yn ogystal â hyn, yng ngwledydd Prydain y ceir yn nifer fwyaf o Aelodau Seneddol LHDT yn y byd.[3]

Amcangyfrifodd Arolwg An Integrated Household fod 1.5% o bobl y DU yn ystyried eu hunain yn hoyw, lesbiad neu'n gyfunrywiol, sy'n llawer is nag amcangyfrifon blaenorol o 5–7%.[4] Wrth ddadansoddi'r ystadegau hyn, dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa'r Ystadegau Gwladol, "Gall berson ymgymryd mewn gweithgarwch rhywiol a rhywun o'r un rhyw ond heb ystyried eu hunain yn hoyw."[5] Mae cymunedau LHDT wedi eu sefydlu ar draws y DU, ond yn fwyaf amlwg ym Mirmingham, Blackpool, Brighton, Leeds, Lerpwl, Llundain, Manceinion a Newcastle, gyda phob un ohonynt yn cynnal gwyliau balchder hoyw.

Gweithgarwch rhywiol cyfunrywiol golygu

Cyfunrywioldeb fel trosedd golygu

Flynyddoedd cyn i'r Deyrnas Unedig fodern gael ei sefydlu yn 1707, ystyriai cyfreithiau Lloegr rhyw rhefrol a söoffilia yn droseddau a ellid eu cosbi drwy grogi o ganlyniad i Ddeddf Sodomiaeth 1533, a gyflwynwyd gan Henry VIII. Dyma oedd cyfraith sodomiaeth sifil cyntaf y wlad; cyn hyn deliwyd gyda'r achosion gan y llysoedd eglwysig. Er y diddymwyd y ddeddf yn 1553 pan esgynnodd Mari I i bŵer, ailgyflwynodd Elizabeth I y ddeddf yn 1563. James Pratt a John Smith oedd y ddau olaf i'w dienyddio am sodomiaeth yn 1835.[6]

Er i Adran 61 o'r Ddeddf Troseddau Corfforol 1861 ddileu'r gosb eithaf am gyfunrywioldeb, parhaodd gweithgarwch rhywiol rhwng dynion yn anghyfreithlon a gellid carcharu troseddwyr. Ymestynnodd Diwygiad Labouchere, adran 11 o'r Ddeddf Diwygio Cyfreithiau Troseddol 1885, fel bod unrhyw fath o weithgarwch rhywiol rhwng dynion yn cael eu cynnwys o dan y gyfraith. Euogfarnwyd Oscar Wilde o dan y gyfraith hon ac fe'i dedfrydwyd i 2 flynedd o lafur penydiol. I'r gwrthwyneb, ni chydnabuwyd lesbiaid ac ni chawsant eu targedu gan ddeddfwriaeth o'r math hwn.

Yn yr Alban, ni chafwyd deddfwriaeth yn gwneud rhyw rhwng dau ddyn yn anghyfreithlon rhwng 1424 a 1707,[7] ond roedd modd cosbi gweithgarwch rhywiol cyfunrywiol. Esiampl o hyn oedd achos llys Gavin Bell.[8]

Ar ddechrau'r 1950au, bu'r heddlu'n gweithredu'r cyfreithiau hyn yn gwahardd ymddygiad rhywiol rhwng dynion. Erbyn diwedd 1954, roedd 1,069 o ddynion hoyw mewn carchardai yng Nghymru a Lloegr, gydag oedran cyfartalog o 37 oed.[9] Cafwyd nifer o arestiadau ac achosion llys cyhoeddus, yn cynnwys achos y gwyddonydd, mathemategwr a chod-ddatryswr, Alan Turing, a gafwyd yn euog yn 1952 o "anwedduster difrifol". Derbyniodd driniaeth gydag hormonau benywaidd, (disbaddiad cemegol, yn hytrach na chael ei garcharu. Cyflawnodd hunanladdiad yn 1954. Fel ymateb i hyn, ar ran Llywodraeth Prydain, ymddiheuriodd cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Gordon Brown yn 2009 am "y ffordd ofnadwy y cafodd ei drin".[10][11] Yn 1953, achosodd achos llys a charchariad Edward Montagu (3ydd Barwn Montagu o Beaulieu), Michael Pitt-Rivers a Peter Wildeblood am weithredoedd o "anweddustra gwrywgydiol", sgandal a arweiniodd at bwyllgor yn cael ei sefydlu i archwilio ac adrodd yn ôl ar y gyfraith a oedd yn ymdrin â "throseddau cyfunrywiol". Sur David Maxwell Fyfe a Syr Hugh Lucas-Tooth.

Wolfenden golygu

Sefydlwyd Pwyllgor Wolfenden ar 24 Awst 1954 er mwyn ystyried cyfreithiau a oedd yn ymwneud â "throseddau cyfunrywiol" yn y DU; cyhoeddwyd yr Adroddiad Wolfenden ar 3 Medi 1957. Argymhellodd "na ddylai ymddygiad cyfunrywiol mewn mannau preifat rhwng oedolion cydsyniol fod yn drosedd", gan nodi "na ellir ystyried cyfunrywioldeb yn gyfreithlon fel afiechyd, oherwydd mewn nifer o achosion dyma'r unig symptom ac mae'n gydnaws ac iechyd meddyliol cyflawn mewn agweddau eraill."

Yn Hydref 1957, siaradodd Archesgob Caergaint, Geoffrey Fisher, yn gyhoeddus o blaid Adroddiad Wolfenden, gan ddatgan "There is a sacred realm of privacy... into which the law, generally speaking, must not intrude. This is a principle of the utmost importance for the preservation of human freedom, self-respect, and responsibility." Cafwyd y drafodaeth seneddol cyntaf am Adroddiad Wolfenden ar 4 Rhagfyr 1957 gan yr Arglwydd Pakenham. O'r ddau ar bymtheg a gyfrannodd at y drafodaeth, roedd wyth mwy neu lai o blaid argymhellion Adroddiad Wolfenden. Amheuai Maxwell Fyfe, yr Arglwydd Ganghellor ar y pryd, y byddai llawer o gefnogaeth gan y cyhoedd i wireddu'r argymhellion a nododd fod angen mwy o waith ymchwil. Sefydlwyd Cymdeithas Diwygio Cyfreithiau Cyfunrywiol ar 12 Mai 1958, yn bennaf er mwyn ymgyrchu dros weithredu argymhellion Pwyllgor Wolfenden.

Dad-droseddoli gweithredoedd cyfunrywiol golygu

Ym 1965, cynigiodd yr Arglwydd Arran ddad-droseddoli gweithredoedd cyfunrywiol rhwng dynion (bu gweithredoedd lesbiaidd erioed yn anghyfreithlon) yn Nhŷ'r Arglwyddi. Dilynwyd hyn gan Humphry Berkeley yn Nhŷ'r Cyffredin flwyddyn yn ddiweddarach, er i Berkeley briodoli ei drechiad yn etholiad cyffredinol 1966 i amhoblogrwydd y weithred hon. Fodd bynnag, yn y Senedd newydd, datblygwyd y mater ymhellach gan yr AS Llafur Leo Abse a chyflwynwyd y Mesur Troseddau Rhywiol gerbron y Senedd er mwyn ceisio cyflwyno rhai o argymhellion Pwyllgor Wolfenden ar ôl bron deng mlynedd o ymgyrchu.

Pasiwyd Deddf Troseddau Rhywiol 1967 a derbyniodd Cydsyniad Brenhinol ar 27 Gorffennaf 1967 ar ôl dadl danllyd yn Nhŷ'r Cyffredin. Parhaodd gwaharddiadau cyffredinol ar sodomiaeth ac anweddustra rhwng dynion, ond cyflwynodd elfen o ddad-droseddoli o weithredoedd rhywiol ar dair amod: 1) roedd y weithred yn gorfod bod yn gydsyniol, 2) rhaid oedd cyflawni'r weithred yn breifat ac 3) roedd y weithred yn gorfod bod rhwng pobl 21 oed neu'n hŷn. Roedd yr oed cydsynio hwn yn uwch nag ar gyfer gweithredoedd heterorywiol sef 16 oed. Yn ychwanegol, roedd "yn breifat" yn cyfyngu'r gweithgarwch rhywiol i ddau berson. Gweithredodd y llysoedd ar hyn, a gymrodd hyn i feddwl nad oedd gweithredoedd mewn ystafell mewn gwesty er enghraifft, yn breifat. Byddai cartref preifat lle bo trydydd person yn bresennol (hyd yn oed os oedd y trydydd person mewn ystafell ar wahân) hefyd yn cael ei ystyried i beidio bod "yn breifat". Diddymwyd y cyfyngiadau hyn gan Lys Hawliau Dynol Ewrop yn 2000.[9]

Roedd Deddf 1967 yn berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig. O ganlyniad ymgyrchodd mudiadau fel y Campaign for Homosexual Equality a'r Gay Liberation Front i gael cydraddoldeb lawn yn yr Alban a Gogledd Iwerddon lle'r oedd gweithgarwch cyfunrywiol yn parhau i fod yn anghyfreithlon. Cyfreithlonwyd gweithredoedd rhywiol cyfunrywiol yn yr Alban ar yr un sail â Deddf 1967, gan Adran 80 o'r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol, a ddaeth i rym ar 1 Chwefror 1981. Gwnaed diwygiad tebyg i gyfraith Gogledd Iwerddon, yn dilyn penderfyniad gan Lys Hawliau Dynol Ewrop (gweler Dudgeon v. United Kingdom) a daeth i rym ar 8 Rhagfyr 1982.

Crynodeb yn ôl tiriogaeth golygu

Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon golygu

Hawliau LHDT yn: Gweithgarwch rhywiol cyfunryw Cydnabyddiaeth rywedd Uniad sifil cyfunryw Priodas gyfunryw Mabwysiadu cyfunryw Gwasanaeth milwrol Gwrth-wahaniaethu (cyfeiriadedd rhywiol) Gwrth-wahaniaethu (hunaniaeth o ran rhywedd) Arall
   Cymru a Lloegr   Cyfreithiol ers 1967; oed cydsynio cyfartal ers 2001   Deddf Cydnabod Rhyw 2004   Partneriaeth sifil ers 2005   Cyfreithiol ers 2014   Cyfreithiol ers 2005   Ers 1990   Yn gwahardd pob gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol[12] Diddymwyd Adran 28 a oedd yn gwahardd "hyrwyddo perthynas cyfunryw fel perthynas deuluol ffug" yn 2003
  Alban   Cyfreithiol ers 1981; oed cydsynio cyfartal ers 2001   Deddf Cydnabod Rhyw 2004   Partneriaeth sifil ers 2005   Cyfreithiol ers 2014   Cyfreithiol ers 2009   Ers 1990   Yn gwahardd peth gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol, ond yn caniatau rhyddid mynegiant ar gyfer grwpiau crefyddol[13] Diddymwyd Adran 2A a oedd yn gwahardd "hyrwyddo perthynas cyfunryw fel perthynas deuluol ffug" yn 2003
  Gogledd Iwerddon   Cyfreithiol ers 1982; oed cydsynio cyfartal ers 2009   Deddf Cydnabod Rhyw 2004   Partneriaeth sifil ers 2005   Cyfreithiol ers 2020   Cyfreithlon ers 2013   Ers 1990   Yn gwahardd pob gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol[14]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu