Defnyddiwr:Twm Elias/Llên Gwerin

Afonydd golygu

Bu afonydd yn bwysig i fywydau a chredoau pobl ar hyd a lled y byd ers cychwyn gwareiddiad. A pha ryfedd o ystyried yr hyn sydd gan afon i'w gynnig – yn ddŵr bywiol, pysgod a'r gwiail a hesg defnyddiol ar ei glannau? Onid yn aberoedd neu diroedd gorlif afonydd mawrion y byd, e.e. Tigris, Ewffrates, Nîl, Ganges, Indws a Hwang Ho ("Afon Felen" yn Tsieina) y datblygodd y gwareiddiadau amaethyddol mawr cyntaf?

Yma, cysylltid llif tymhorol yr afonydd mawrion â bywyd a ffrwythlondeb y cnydau. Dyma rodd duwiau'r afon a gallasai'r wobr fod yn fawr o drin y tir yn amserol ac yn briodol. Ond, roedd pobl yn ymwybodol bryd hynny, fel heddiw, nad oes dim i'w gael yn y byd 'ma am ddim! Felly, roedd rhaid parchu a chydnabod y ddyled i'r duwiau [a bortreadir yn aml ar ffurf dreigiau neu anghenfilod a gynrychiolai beryglon y cerrynt a'r gorlifoedd] drwy ddefodau ac aberthu tymhorol i dalu'n ôl am y ffafr.

Dywed Marie Trevelyan yn ei Folk-lore and Folk Stories of Wales (1909) am anghenfilod afonydd Cymru, gan nodi bod un o'r rhain yn aber afon Tâf yng Nghaerdydd. Dywed y byddai trobwll di-waelod yno, oedd yn un o saith rhyfeddod Morgannwg, lle y llechai sarff anferth. Doedd dim gobaith i neb a dynnid i'r trobwll oherwydd cawsai un ai ei lyncu gan y sarff a diflannu am byth, neu, os oedd o gymeriad da cawsai ei gorff ei olchi i'r lan am nad oedd yr hen sarff yn hoff o gig y cyfiawn. Ceid stori debyg am y trobwll ym Mhontypridd tra mewn ardaloedd eraill fe gymer yr anghenfil ffurfiau eraill, e.e. yr Afanc yn afon Lledr, Betws y Coed, y Ceffyl Dŵr ac Anghenfil Mawddach.

Yn Ewrop a Phrydain ceir tystiolaeth helaeth o aberthu i afonydd ar ffurf yr holl waith metel cain a daflwyd i ddyfroedd sawl afon yn yr Oesoedd Efydd a Haearn. Mewn gwirionedd mae'r mwyafrif o drysorau Celtaidd mwyaf gwerthfawr yr Oes Haearn ym Mhrydain ac Iwerddon wedi eu darganfod mewn safleoeoedd fyddai'n welyau afonydd yn wreiddiol, e.e. tarian Battersea a helmed Waterloo yn afon Tafwys.

Fe barhaodd aberthu i ddyfroedd tan yn ddiweddar iawn a hyd yn oed i'n dyddiau ni - er yn fwy diniwed! Onid yw taflu pin haearn i ffynnon yn fodd i rymuso swyn neu i sicrhau rhinweddau y dyfroedd iachusol? Ac mae llawer o bobl hyd heddiw (2018) yn parhau i daflu darnau arian i ffynnon er mwyn gwireddu dymuniad ac i gael lwc dda?

Roedd ambell afon mor bwysig nes y priodolid duwies arbennig iddi a byddai'n ffocws i gwlt fyddai'n gwasanaethu'r dduwies a chynnal y defodau priodol. Dyma rai ohonynt: afon Marne, yng Ngâl, a enwid ar ôl Matrona oedd yn brif dduwies y Celtiaid; Hafren – a gysylltir â'r dduwies Sabrina; Afon Boyne yn Iwerddon ar ôl y dduwies Boann, a Braint (ym Môn) ar ôl Brigantia neu Brigid. Dywedir fod yr elfen 'dwy' yn enwau afonydd Dwyfach, Dwyfor a Dyfrdwy yn tarddu o'r un gwreiddyn a 'dwyfol'.

Yn aml ystyrid tarddiad afon yn sanctaidd – yn enwedig os codai o ffynnon, e.e. Sequana oedd duwies y ffynnon o'r hon y ffrydiai afon Seine ym Mwrgwyn (Burgundy). Yno parhaodd adeiladwaith helaeth yn dyddio o'r cyfnodau Celtaidd a Rhufeinig a chanfyddwyd llawer o fodelau pren a aberthwyd iddi yn cynrychioli anifeiliaid a phobl y dymunid i'r dduwies eu hiachau.

Ystyrid llif yr afon yn gyfrwng i olchi ymaith bechodau a dyma, efalli'r sail i fedyddio pobl mewn afon. Mae'r Ganges yn aruthrol bwysig i'r Hindwiaid i gario llwch y meirwon i fyd gwell. Ymddengys mai syniad tebyg oedd y tu ôl i'r arfer o grogi pen dafad a ddioddefai o'r 'bendro' ar gangen uwchben yr afon yng Nghwm Pennant rai blynyddoedd yn ôl – er mwyn i'r afon waredu'r afiechyd o'r cwm a'i gario i rywle arall!

Gall afonydd fod yn ffiniau pwysig yn ogystal, e.e. yn ddaearyddol rhwng dau lwyth; rhwng dwy elfen sef aer a dŵr, a rhwng dau fyd sef y byd daearol ac Annwfn – yr arall-fyd.

Yn naturiol, os oedd afon yn ffin diriogaethol, yna roedd y mannau croesi yn llefydd pwysig yn ogystal. Yn y Mabinogi, mewn rhyd yn afon Cynfal y lladdodd Gronw Pebr Lleu Llaw Gyffes, ac yno hefyd yr atgyfododd Lleu a lladd Gronw - yn yr un lle. Nepell oddi yno y bu'r frwydr, yn y Felenrhyd, pan laddwyd Pwyll Pendefig Dyfed gan Gwydion y lleidr moch. Yn Llyfr Du Caerfyrddin a'r Triawdau sonnir am Cynon, oedd yn un o'r fintai yrrwyd i ddial am ladd Elidir Mwynfawr o'r Hen Ogledd gan wŷr Arfon ger afon Rheon. Chafodd Cynon fawr o hwyl arni chwaith ac fe'i lladdwyd ac fe'i claddwyd yntau ger "Rheon Ryd".

Ar bont y pentre, adeg Ffair Llanllyfni, a llawer pont arall mewn sawl pentre arall, y casglai'r gweision adeg Ffeiriau Glanmai a Glangaea i gyflogi i ffermydd y fro. Ac ar ambell bont hynafol, e.e. Pont Dol-y-moch, ym Mhlwy Ffestiniog, fe welir ôl troed wedi ei gerfio ar un o lechi canllaw'r bont. Arferai rhywun a oedd ar fin ymfudo wneud hyn, er mwyn sicrhau lwc dda i'w gamre ar y daith.

Delwedd adnabyddus o afon fel y ffin rhwng y byd hwn a'r nesa yw honno yn chwedloniaeth Groeg, o ddyn y fferi yn rhwyfo eneidiau'r meirwon ar draws afon Styx i'r byd nesa. Yn chwedloniaeth y Celtiaid mae'r rhwyfwr yn fwy tebygol o rwyfo'r eneidiau i ynys hudol yn y gorllewin (ynys y meirw, Afallon neu Tir na Nog). Yn y gorllewin, wrth gwrs, y machluda'r haul – sydd hefyd yn arwyddo machludiad bywyd yr ymadawedig.

Corsydd golygu

Roedd corsydd, fel afonydd, llynnoedd a ffynhonnau yn bwysig iawn yn nychymyg ac yn nefodau'r hen Geltaidd. Byddai eu hoffeiriaid yn aberthu i'r lleoedd dyfrllyd hyn, a ystyrid yn byrth i Annwfn (y byd arall) er mwyn sicrhau atgyfodiad yr haf yn flynyddol yn y frwydr ddiderfyn rhwng pwerau'r tywyllwch a'r goleuni.

Cawn adlais o hynny yn chwedl Lleu yn y Mabinogion. Ymgorfforiad o dduw'r haul oedd Lleu ac yn ôl y stori cafodd yr arwr ei ladd pan gyflawnwyd tri amod arbennig yn y rhyd yn yr afon Cynfal. Yna, mae'n troi'n eryr (roedd aderyn yn symbol o daith yr enaid i'r byd nesa) cyn cael ei atgyfodi yn ddiweddarach, ar ffurf dyn unwaith eto, gan y dewin Gwydion. Un o'r tri amod oedd bod raid i Lleu sefyll mewn lle nad oedd yn dir nac yn ddŵr. Tybed be arall allai hynny fod heblaw cors ynde?

Mae'n debyg bod cors neu donnen (y fignen ddyfrllyd honno sy'n siglo dan draed), fel heddiw, yn cael ei hystyried yn lle peryglus a thwyllodrus – yn ymddangos yn gadarn ond yn gallu traflyncu'r anghyfarwydd. Hawdd credu y byddai'r hen bobl yn ystyried cors yn drigfan i bwerau mileinig a drygnaws oedd angen eu tawelu ag aberth. Hyd yn oed yn nes i'n dyddiau ni credid bod pwerau'r fall yn trigo mewn corsydd. Onid cannwyll gorff oedd un o'r enwau ar y fflamau rhyfedd, achosid gan y nwy methan, a welid ar fawnogydd weithiau? Yn Nyfed, yr enw ar y dwymyn dridiau (teiffws neu 'ague') oedd yn plagio pobl oedd yn byw gerllaw corsydd oedd Yr Hen Wrach. Ac, wrth gwrs, croesi Cors Anobaith oedd un o'r profion wynebai Cristion yn 'Nhaith y Pererin', John Bunyan.

Canfyddwyd rhai o drysorau amlycaf y gwareiddiad Celtaidd mewn corsydd, e.e. sawl crochan efydd, offer metal addurniedig, a hyd yn oed wagenni seremonïol mewn mawnogydd yn ynysoedd Prydain a rhannau o'r Cyfandir, e.e., yn Jutland yn Nenmarc y cafwyd crochan arian enwog Gundestrup.

Ond yn fwy trawiadol fyth yw'r dystiolaeth o aberth dynol. Daethpwyd ar draws dros 200 o gyrff hynafol mewn mawnogydd yn ystod y tair canrif ddiwethaf ym Mhrydain ac Iwerddon. Trueni ynde, mai dim ond yn ddiweddar y dysgwyd sut i gadw'r cyrff hyn rhag pydru'n gyflym unwaith y daethant i gysylltiad ag aer. Cafwyd nifer dda ohonynt yn Nenmarc hefyd – darllenwch lyfr yr Athro PV Glob “The Bog People” (1969) am fwy o'u hanes. Yna, yn 1984, darganfyddwyd corff Dyn Lindow (neu 'Pete Marsh'!) yn Lindow Moss (Lindow yn tarddu o Llyn Du) ger Manceinion. Roedd llawer o'r cyrff hyn, am eu bod wedi eu piclo mewn mawn, mewn cyflwr mor 'berffaith' pan y'u darganfyddwyd nes galwyd yr heddlu'n syth cyn i'r rheiny, yn eu tro, drosglwyddo'r mater i'r archeolegwyr!

Roedd yn amlwg bod llawer o'r cyrff yma, oedd yn dyddio o tua 300 – 500CC, wedi eu haberthu'n seremonïol. Roeddent (bron) yn noeth – Dyn Tollund, yn Nenmarc, yn gwisgo dim ond cap a gwregys lledr a Dyn Lindow yn gwisgo breichled o flew llwynog, a'i gorff wedi ei baentio'n wyrdd. Mae hyn yn ein hatgoffa o'r ail amod oedd ei angen i ladd Lleu – ddim wedi ei wisgo a ddim yn noeth. Tybed a oedd Lleu wedi ei baentio fel Dyn Lindow?

Ond y peth mwyaf trawiadol am y cyrff corslyd hyn oedd y modd y cawsant eu lladd. Roedd Dyn Lindow, er enghraifft, wedi ei ladd drwy ei daro ar ei ben, ei grogi â chortyn, a'i wddw wedi ei dorri â chyllell cyn iddo gael ei osod â'i wyneb i lawr yn y gors. Mae hyn yn cyfateb yn agos iawn i ddisgrifiadau'r Rhufeiniaid o sut y byddai'r Derwyddon yn dienyddio eu haberth – sef drwy'r farwolaeth driphlyg. Bellach rydym wedi colli'r wybodaeth am y rheswm bod rhaid aberthu yn y modd hwn, drwy ladd mewn tair ffordd. Tri dull i fodloni'r tri prif dduw efallai?

Os chwiliwn yn ofalus fe gawn sawl adlais o'r farwolaeth driphlyg, neu farwolaeth ar ôl cyflawni tri amod, yn britho'r hen chwedlau Cymreig a Gwyddelig. Er enghraifft, yn y straeon am Cú Chulain, arwr Ulster, mae'n rhaid i Cú Chulain brofi ei ddewrder drwy adael i Cú Roi gogio ei daro dair gwaith yn ei wddw â bwyell ac mae'n rhaid i dri amod gael eu cyflawni cyn y gall Gronw Pebr ladd Lleu. Y trydydd amod, gyda llaw, at y ddau grybwyllwyd eisoes, oedd na ddylsai fod mewn adeilad nac yn yr awyr agored.

Yn yr Alban ceir stori Lailoken (y 'Myrddin' Albanaidd) gafodd ei daro â charreg nes iddo ddisgyn i'r afon – lle cafodd ei drywannu gan stanc adawyd yn y dŵr gan bysgotwr, a boddi! A beth am y stori o Eryri am y llanc ymladdodd yr anghenfil triphen ar lan Llyn Gwynant – ond a gafodd ei frathu gan yr anghenfil cyn disgyn i'r dŵr, taro ei ben ar garreg a boddi!

Mewn amgylchiadau eraill dim ond y pen a osodwyd yn y gors ac mae hynny, o bosib, yn dystiolaeth o ddefodau oedd yn gysylltiedig â 'Chwlt y Pen' oedd yn un o gwltau pwysica'r hen Geltiaid. Credai dilynwyr y cwlt bod y pen yn drigfan i enaid ei berchenog gwreiddiol ac y gallasai siarad a rhannu ei ddoethineb â'r byw – fel y gwnâi pen Bendigeidfran ar ei ffordd yn ôl o Iwerddon. Credid y byddai'r offeiriad Celtaidd hyd yn oed yn codi pen o'r fawnog yn achlysurol i ymgynghori ag ef a'r duwiau. Ydi hi'n rhyfedd d'wch bod pobl gyffredin, ar hyd y canrifoedd, yn ofni corsydd ac yn eu hystyried yn drigfannau i bwerau'r fall!?

Dilyw golygu

Rydan ni i gyd yn gyfarwydd â stori Cantre'r Gwaelod a sut y bu i Seithenyn, druan bach, oherwydd ei chwant alcoholaidd, esgeuluso'i ddyletswyddau a gadael i'r môr foddi'r wlad. Stori debyg yw honno am foddi Tyno Helig, a orweddai dan yr hyn sydd yn fôr erbyn hyn rhwng Bangor a'r Gogarth, am i'r duwiau ddial am ddichell y llofrudd Tathal a'i wraig Gwenduddrwy drwy eu boddi nhw a'u gwlad a phedair cenhedlaeth o'u hil.

Yn y Triawdau Cymreig ceir hanes Llyn Llïon a orlifodd gan foddi'r holl ddynoliaeth heblaw am Dwyfan a Dwyfach a ddihangodd mewn cwch di-fast ac a ail-boblodd Ynys Prydain. Ceir fersiwn arall o'r un stori, yn sôn am long Nefydd Naf Neifion a gariai wryw a benyw o bob math o anifeiliaid pan orlifodd y llyn.

Mae rhywbeth yn y straeon hyn o'r Triawdau sy'n ein hatgoffa o Arch Noa onid oes? A'r peth difyr ydy' fod stori Noa yn un o ddosbarth o straeon sydd hefo rhai elfennau yn gyffredin iddynt drwy'r byd. Er enghraifft, wyddoch chi fod 'na stori o Fecsico am orlif mawr yn yr afon a gŵr o'r enw Tezpi a'i deulu ynghyd â hadau ac anifeiliaid yn cael dihangfa mewn cwch mawr hyd nes i'r gorlif ostegu? Bu iddo yrru fwltur i chwilio am dir, yn union fel y gyrrodd Noa ei gigfran.

Ceir o leia 500 o straeon o wahanol rannau o'r byd yn sôn am orlifoedd yn dinistrio'r ddynoliaeth, neu wledydd cyfan, a llawer ohonynt, fel yr uchod, yn rhyfeddol o debyg i'w gilydd. Un thema gyffredin iawn ymysg y straeon hyn, yn enwedig yn Ewrop, yw rhywun yn esgeuluso rhoi caead y ffynnon yn ei ôl, neu yn anghofio'r swyn briodol i'w chau, a'r ffynnon wedyn yn gorlifo'r wlad. Mae 'na hyd yn oed un fersiwn gynnar o stori Cantre'r Gwaelod lle ceir hynny, ac awgryma Syr John Rhys [Celtic Folklore, Cyf. 1, tud. 382] mai anffawd merch o'r enw Mererid hefo caead y ffynnon oedd yn gyfrifol am foddi'r wlad a bod y stori am esgeuluso'r llifddorau yn gam-ddehongliad ieithyddol o'r gwreiddiol.

Ceir sawl enghraifft arall Gymreig o ffynhonnau'n gorlifo – fel arfer yn gysylltiedig â tharddiad rhai o'n llynnoedd, e.e. gorlif Ffynnon Grasi yn creu Llyn Glasfryn yn Eifionydd, Ffynnon Gywer yn creu Llyn Tegid, a stori Llyn Llech Owain, ayyb. Mae'n thema gyffredin yn Iwerddon hefyd, e.e. gwraig yn esgeuluso rhoi'r caead ar ffynnon y Tylwyth Teg oedd gyfrifol am y gorlif ffurfiodd Loch Neagh ayyb.

Ond tybed beth sy' tu ôl i'r straeon 'ma? A pham eu bod nhw i'w cael ar draws y byd - llawer ohonynt o ganolbarth a gogledd America; nifer golew o Ewrop; nifer o Affrica ac Awstralia; llawer iawn o'r dwyrain canol ond y nifer fwyaf o'r dwyrain pell, yn enwedig Indonesia, Polynesia ac arfordiroedd de-ddwyrain Asia?

Dyma rai posibiliadau:

1.) gorlifoedd tymhorol, e.e. yn aberoedd afonydd megis Nïl a Ganges

2.) trychinebau:

- stormydd enbyd yn achosi gorlifiadau .

- folcano - tybia rhai mai ffrwydriad Thera a chwalodd y gwareiddiad Minoaidd tua 3,500CC sydd y tu ôl i'r stori am ddiflaniadAtlantis.s

- tswnami – wyddoch chi fod ton enfawr wedi dinistrio pentre Aber Towi yn Sir Gaerfyrddin yn 1607 a gwyddom am drychineb y tswnamis mawrion ar arfordiroedd cefnfor India ar Ŵyl Steffan 2004.

3.) codiad yn lefel y môr: ar ddiwedd Oes y Rhew, rhwng tua 12 – 5,500CC, cododd lefel y môr 120 – 130 medr gan foddi ardaloedd eang iawn ymhob cwr o'r byd bron. Un o'r ardaloedd lle roedd hyn amlycaf oedd Indonesia a de-ddwyrain Asia lle boddwyd tiroedd oedd rhwng dwy a thair gwaith arwynebedd India heddiw! Sylwer bod yr olion coedwigoedd ddaw i'r golwg ar draethau'r Borth a mannau eraill o gwmpas arfordir Cymru yn ein hatgoffa yn gryf o godiad yn lefel y môr rhwng Cymru ac Iwerddon tua'r un amser. Ond nid codiad graddol a chyson oedd hwn, digwyddodd mewn sawl hyrddiad ac yn aml gyda hcyfnodau o ansefydlogrwydd tywydd enbyd a tswnamis ayyb yn cyd-fynd ag o.

Tystiolaeth Hanesyddol? Yn 1929 cafwyd tystiolaeth, wrth gloddio ym mynwent brenhinoedd Ur ym mhen ucha Gwlff Arabia, bod olion gorlif sylweddol o'r môr wedi digwydd yn yr ardal honno oddeutu 5,500CC. Roedd yr haenau tywod ddangosai hynny yn gwahanu'n glir y diwylliant Oes y Cerrig geid yno cynt oddi ar ddiwylliant Oes Efydd, soffistigedig y Swmeriaid geid ar ei ôl. Yn rhyfeddol iawn cafwyd cyfeiriadau eglur at y gorlif hwn yng nghofnodion ysgrifenedig “Cuneiform” y Sumeriaid, e.e. yn eu Rhestr y Brenhinoedd a ysgrifenwyd tua 2,100CC.

Yn ychwanegol, ac yn dyddio o'r un cyfnod, ceir stori'r Sumeriaid am y brenin-arwr Ziusudra gafodd ei rybuddio gan un o'r duwiau fod dilyw mawr ar fin digwydd. Aeth y brenin ati felly, yn gall iawn, i adeiladu cwch cauedig yn yr hon y bu iddo ef a'i deulu, ac anifeiliaid o bob math, gael eu harbed.

Ond dim ond un fersiwn gynnar yw hon o 11 o straeon tebyg ddarganfyddwyd yn hen ysgrifau'r dwyrain canol – gan gynnwys stori Noa o'r Beibl (a ysgrifenwyd tua 600 CC). Ceir cyfeiriad at y dilyw hefyd yn stori epig Gilgamesh (ceir fersiynnau gan y Swmeriaid, Babyloniaid a'r Asyriaid) ble mae'r arwr yn cael sawl antur wrth chwilio am Utnapishtim – y gŵr a oroesodd y dilyw.

Ai ffaith ynteu ffug yw'r straeon am y dilyw? Wel, anodd iawn credu mewn dilyw sydyn byd-eang yn difa popeth byw (bron) oherwydd ni fyddai digon o ddŵr i orchuddio holl fynyddoedd y byd! Ond yn sicr fe fu gorlifiadau lleol ysbeidiol a chodiad sylweddol yn lefel y môr ar ddiwedd Oes y Rhew. A'r rhain, bron yn sicr, yw sail y straeon a barhaodd cyhyd yng nghof cenhedloedd ledled y byd.


Ffynhonnau golygu

Cafodd ffynhonnau, yn llawer mwy nag unrhyw ryfeddod naturiol arall, barch eithriadol dros y canrifoedd gan bobl ymhob cwr o'r byd. A pha ryfedd – onid o ffynnon y tardda'r dyfroedd bywiol sy'n hanfodol nid yn unig i yfed ac ar gyfer anghenion beunyddiol bywyd ond, mewn rhai achosion, yn ffynhonnell o ddyfroedd rhinweddol sy'n iachau corff ac enaid yn ogystal?

Oherwydd hyn hawdd deall sut y bu i leoliad ffynhonnau ddylanwadu ar batrymau anheddu, masnach a chysylltiadau sawl ardal. Edrychwch ar fap ac fe welwch – yn enwedig yn ardaloedd y garreg galch ac mewn sawl ardal arall hefyd – y rhes o anheddau sy'n dilyn y darddlin ffynhonnau neu “spring line” ar hyd gwaelod allt neu yn wregys ar draws llethr mynydd.

Hefyd, onid dilyn cyfres o ffynhonnau sanctaidd wna llwybrau pererinion ar draws gwlad? Yn sicr, yng ngogledd Affrica a'r dwyrain canol mae lleoliadau ffynhonnau neu werddonnau wedi penodi cyfeiriad sawl llwybr masnach. Roedd hynny'n wir hefyd yn niffeithwch Awstralia a pheithdiroedd Patagonia a gogledd America yn nyddiau'r ceffyl – ond bariau neu lefydd gwasanaetth yw mannau dyfrio neu “watering holes” ein dyddiau ni!

Roedd dŵr ynddo'i hun yn sanctaidd i'r hen Geltiaid, boed yn llyn, pwll neu afon (gw. Llafar Gwlad 88 ag 89). Ond byddai blaen y nant, codiad neu darddiad y dŵr neu 'lygad' y ffynnon yn bwysicach fyth. Yma yr oedd y dyfroedd ar eu puraf, a hefyd, o'u cymharu ag ehangder llyn neu hyd afon (fyddai'n ymestyn ymhell o'r golwg) roedd y ffynnon yn ffocws mwy pendant i ddefod ac yn hwylusach i'w rheoli.

Yn aml, o gwmpas safle o'r fath codid adeiladwaith barhaol a phwrpasol – o gerrig fel arfer – in ai i warchod y ffynnon ei hun neu i bwysleisio ei phwysigrwydd crefyddol neu rinweddol. Os fyddai'n ffynnon gymunedol i dynnu dŵr yfed ohoni byddai yn aml efo caead arni, a byddai'n cael ei haddasu drwy greu pwll neu gronfa hylaw i godi dŵr ohoni yn ogystal. Weithiau pe bai digon o lifeiriant fe adeiledid gofer neu bistyll pwrpasol fel bo'r dŵr yn llifo'n gyfleus i fwced neu lestr. Yn sicr fe fyddai'n ganolbwynt tra phwysig i gymdeithasu wrth gyrchu dŵr, yn enwedig i'r merched, ac yn safle gawsai gryn barch.

Byddai gan ffynhonnau sanctaidd neu rinweddol adeiladwaith dipyn mwy amlwg ac yn aml byddai ceidwad i'w gwarchod. Yn y cyfnod cyn-Gristnogol cysylltid duwiesau â ffynhonnau, a phob un yn ffocws i gwlt fyddai'n gwasanaethu'r dduwies ac yn cynnal defodau ac yn aberthu iddi. Yn y cyswllt hwnnw roedd i'r ffynnon rymoedd a rhinweddau arbennig iawn oherwydd ei bod mor amlwg yn ffïn rhwng uwchlaw ac islaw'r ddaear ac felly'n borth rhwng ein byd ni ac Annwfn – yr arall-fyd.

Ceir llawer o dystiolaeth o aberthu i ffynhonnau yn y cyfnod cyn-Gristnogol – yn offer haearn, addurniadau o aur neu efydd, darnau arian, modelau pren o bobl ac anifeiliaid, a hyd yn oed bobl go iawn (neu eu pennau). Aberthid pobl i gorsydd hefyd a darganfyddwyd ugeiniau o gyrff a phennau wedi eu piclo mewn mawnogydd at hyd a lled gogledd Ewrop. Mae'n ddifyr bod atgof o'r offrymu i ffynhonnau wedi parhau i'n dyddiau ni ar ffurf taflu pinnau haearn i ffynnon a chrogi cadachau uwch ei phen fel rhan o swyn. Ac, wrth gwrs, mae pawb bron wedi taflu darn o arian i ffynnon i gael lwc dda a gwneud dymuniad – heb sylweddoli bod yr arfer 'diniwed' hwn â'i wreiddiau mewn hen hen ddefod offrymol baganaidd.

Un o gwltau grymusaf y Celtiaid oedd cwlt y pen, oedd yn mynegi'r grêd bod enaid dwyfol rhywun yn trigo yn y pen. Byddai arwyr yn torri a meddiannu pennau eu gelynion i gymryd eu nerth iddynt eu hunain, ond, ar y llaw arall, byddai pen arwr neu bennaeth yn parhau yn ffynhonnell nerth a doethineb i'w gyfeillion ymhell wedi marwolaeth y corff. Gwelwn hynny yn achos pen Bendigeidfran, oedd yn sgwrsio'n braf efo'r cwmni yn absenoldeb ei gorff! Ceir sawl stori am bennau byw arwyr yn chwedloniaeth Iwerddon a'r Alban hefyd.

Gallasai pen neu benglog arwr, pennaeth, neu un aeth yn aberth i'r duwiau ar ran y llwyth, fod yn rhinweddol iawn mewn seremonïau cwltaidd. Dyma, o bosib, sydd tu ôl i'r adroddiadau Rhufeinig am benglogau yn cael eu defnyddio i yfed ohonynt. A hyd yn oed ymhell i'r cyfnod Cristnogol ceir adroddiadau am benglogau yn gysylltiedig â ffynhonnau iachusol. Er enghraifft yn Drumcondra yn Nulun byddai yfed o 'benglog y ffynnon' yn gwella'r ddannoedd, tra yn 'Ffynnon y Pen', yn Wester Ross, roedd diod o'r penglog yn gwella'r epilepsy.

Ceir cysylltiad difyr rhwng pen a ffynnon yn stori Gwenfrewi. Pan dorrwyd ei phen gan y treisiwr Caradog ap Alawg yn y 7g tarddodd ffynnon iachusol o'r man y tarrodd y pen y llawr. Wrth lwc, pan welodd Beuno Sant beth oedd wedi digwydd i'w nith, cododd y pen a'i roi yn ôl ar ei hysgwyddau a daeth y ferch yn ôl yn fyw! Daeth y ffynnon – Ffynnon Wenfrewi, yn Nhreffynnon – yn un o ffynhonnau iachusol enwocaf Cymru ac mae'n gyrchfan bwysig i bererinion hyd heddiw. Ceir straeon tebyg yng Nghernyw a Llydaw yn ogystal.

Tybed a oes elfen symbolaidd yn stori Gwenfrewi? Ydi hon y ddelwedd sy'n cynrychioli adfer bywyd drwy'r ffydd Gristnogol yn hytrach na'r hyn a ystyrid fel ei aberthu fel geid dan yr hen drefn baganaidd? Hefyd, am fod y ffynnon arbennig hon wedi ei chreu o'r newydd drwy farwolaeth Gwenfrewi, y ferch Gristnogol, roedd ei dyfroedd yn sanctaidd bûr, ac felly'n rhydd o unrhyw gysylltiadau neu ddefnyddiau paganaidd blaenorol?

Llynnoedd yng Nghymru golygu

Mae llynnoedd yng Nghymru, yn ogystal a'r môr, afonydd a ffynhonnau, yn gyforiog o goelion a straeon gwerin dyfrllyd – lawer ohonynt (efallai?) yn atgof niwlog am hen draddodiadau a defodau cyn-Gristnogol Celtaidd.

Roedd dŵr yn elfen holl bwysig ym mywydau pobol; yn rhan mor hanfodol o drefn natur ac eto'n llawn gwrthgyferbyniadau – yn ffynhonnell bywyd a bwyd, yn iachau a phuro, ond hefyd yn chwalu a lladd. Gallai fod yn dryloyw ac eto'n llawn dirgelwch yn nyfnder anweladwy llyn, môr neu bwll a phan yn llonydd yn adlewyrchu goleuni duw'r haul a llun y sawl a edrychai iddo.

Aberthu golygu

Ystyrid bob corff o ddŵr yn sanctaidd ac yn borth i'r arall-fyd lle preswyliai ac y gellid cysylltu â'r duwiau a bodau goruwchnaturiol eraill. Dyma pam yr aberthid cymaint o drysorau i lynnoedd ar draws y byd Celtaidd. Tystia'r Groegwr Strabo fel y byddai llwyth Celtaidd y Volcae Tectosages yn aberthu ingotiau o aur ac arian i lyn sanctaidd ger Toulouse yn yr ail ganrif CC ac na feiddiai neb amharu â'r safle cyn i'r Rhufeiniaid anwar geisio codi'r cyfoeth o waelod y llyn yn 106CC! Disgrifia Gregory o Tours yn y canol-oesoedd ŵyl baganaidd 3 niwrnod ger llyn Gévaudan yn y Cevennes, ple aberthai'r bobl fwyd, dillad ac anifeiliaid i'r llyn.

Mae'r dystiolaeth archeolegol am aberthu i lynnoedd yn sylweddol. Un o'r safleoedd enwocaf a chyfoethocaf yw La Téne yn y Swisdir lle cafwyd olion llwyfan pren mewn mawnog ar ymyl bae bychan ar lan ddwyreinol Llyn Neuchâtel. Oddiarno, yn y ddwy ganrif CC derbyniodd duw'r llyn gannoedd o dlysau, picellau, cleddyfau a thariannau yn ogystal a chŵn, gwartheg, moch, ceffylau a phobl. Ar sail arbenigrwydd a cheinder yr addurniadau ar lawer o'r ebyrth metal hyn y diffiniwyd teip ag arddull addurniadol un o gyfnodau amlycaf y gelfyddyd glasurol Geltaidd.

Yng Nghymru canfyddwyd celc o waith metel yn Llyn Mawr, Morgannwg, yn dyddio o tua 600CC. Yn eu mysg roedd addurniadau harnais a cherbyd ceffyl; bwyelli, crymannau a dau grochan efydd – rhai ohonynt yn arddull addurniadol Hallstat, oedd yn blaenori'r La Ténne. Yn Llyn Cerrig Bach ym Môn cafwyd casgliad o arfau, crochannau, cadwen gaethweision a darnau o gerbyd rhyfel, oll wedi eu haberthu rhwng yr ail ganrif CC a'r ganrif gynta OC.

Anghenfilod golygu

Parhaodd y cof am aberthu i lynnoedd yn hir iawn ac mae straeon gwerin yn gyffredin am anghenfil sy'n preswylio yn y dyfnder dyfrllyd ac yn mynnu aberth blynyddol – merch ifanc fel arfer – neu bydd yn gadael y llyn ac anrheithio'r wlad oddiamgylch. Ond wrth lwc, fel arfer, fe ddaw arwr i ymladd a difa'r anghenfil ac achub y ferch!

Un o'r enghreifftiau enwocaf o anghenfil o'r fath, pe cai ferch ifanc neu beidio(!), oedd Yr Afanc a cheir sawl fersiwn o'r stori am y peth erchyll hwn. Yn Nyffryn Conwy, lle y llechai mewn pwll mawr yn yr afon Conwy – Llyn yr Afanc ger Betws y Coed – fe achosai orlifoedd enbyd yn y dyffryn bob hyn a hyn. Ond llwyddwyd i'w raffu a'i lusgo gan yr Ychain Bannog i Lyn Cwm Ffynnon yng nghesail y Glyder Fawr, ple na allai wneud cymaint o ddifrod. Yn Llyn Syfaddon ger Aberhonddu, Hu Gadarn a'i haliodd o'r llyn, tra yn Llyn Barfog ger Aberdyfi y Brenin Arthur a'i farch fu'n gyfrifol.

A beth am Tegid – sy'n anghenfil mwy modern, efallai – a driga yn Llyn Tegid? Fel Loch Ness yn yr Alban mae Llyn Tegid angen anghenfil yndoes?!

Gorlifoedd golygu

Priodolir tarddiad amryw o lynoedd i orlif pan esgeuluswyd roi'r caead yn ei ôl ar rhyw ffynnon neu'i gilydd. Enghraifft o hyn yw stori Llyn Llech Owain yn Sir Gaerfyrddin a ffurfwyd pan anghofiodd Owain roi'r llech oedd yn gaead ar ffynnon ar y Mynydd Mawr yn ei hôl. Wrth farchogi ymaith digwyddodd edrych dros ei ysgwydd a gweld bod y ffynnon yn brysur orlifo'r wlad. Onibai iddo lwyddo i garlamu ei geffyl rownd y llyn newydd i'w atal rhag tyfu'n fwy, byddai'r wlad i gyd, a phawb a drigai ynddi, wedi boddi.

Ceir straeon tebyg am Ffynnon Grasi yn gorlifo a chreu Llyn Glasfryn yn Eifionydd; Ffynnon Gywer yn creu Llyn Tegid ac mae fersiwn gynnar o stori Cantre'r Gwaelod yn son am anffawd Mererid, ceidwades y ffynnon, yn methu ail-gaeadu'r ffynnon sanctaidd nes i'r cantref cyfan gael ei foddi.

Os dielid am esgeuluso ail-gaeadu ffynnon ceir hefyd ddial am greulondeb a chamwri. Mae stori Tyno Helig ar lannau'r Fenai, pan glywir y llais ysbrydol yn gwaeddi “Daw dial! Daw dial! Daw dial!” yn rhybudd erchyll y boddir y drwgweithredwr a'i holl ddisgynyddion rhyw ddydd. Cysylltir straeon tebyg hefyd â Llyn Llynclys rhwng Croesoswallt a Llanymynaich, Llyn Syfaddon a Llyn Tegid.

Y Tylwyth Teg golygu

Ond, o'r cyfan, efallai mai straeon am lynnoedd yn breswylfeydd i'r Tylwyth Teg sydd fwyaf adnabyddus ac am fugail yn hudo rhyw Dylwythes Deg i'r tir i'w briodi. Chwedl Llyn y Fan yw'r enghraifft orau o hyn a sut y gosodwyd amodau ar Rhiwallon fyddai'n sicrhau y byddai ei wraig yn aros yn ein byd ni. Pan dorwyd yr amodau aeth y ferch yn ôl i'r llyn gyda'i holl eiddo a'i gwartheg. Ond ni allasi gymeryd eu tri mab, na chwaith yr holl wybodaeth am feddyginiaethau yr oedd wedi ei ddysgu iddynt. Felly, am bod y fferm bellach yn “bancrypt(!)” fe drodd Rhiwallon a'i feibion yn feddygon gan ddod yn adnabyddus o hynny ymlaen fel teulu enwog Meddygon Myddfai.

Ceir straeon tebyg, neu o leia'n cynnwys rhai elfennau o'r stori hon, yn gysylltiedig â Llyn Nelferch neu Lyn y Forwyn ym Morgannwg; a Llynnau Barfog ac Arenig ym Meirionnydd a Llyn y Dywarchen a Llun Dwythwch yn Eryri.

Ond yn ogystal â'r Tylwyth Teg a'u hanifeiliaid yn dod i'n byd ni ceir enghraifft , yn stori Llyn Cwm Llwch ger Aberhonddu am ddrws cyfrin fyddai'n agor bob Calan Mai i wlad y Tylwyth Teg. Gwarchodid y porth a'r llyn gan gorach blïn mewn côt goch, a chawn disgrifiad o breswylfa'r Tylwyth ar ynys hud, fyddai'n anweledig fel arfer – sy'n ein hatgoffa, mewn cyswllt arall, o Ynys y Meirw, Afallon neu Dir Na-nog ym môr y gorllewin. Dyma'r porth i'r arall-fyd yn sicr.

Mynyddoedd golygu

Fe ddywedir bod pobl y mynydd-diroedd yn wahanol mewn sawl ffordd i drigolion llawr gwlad. Dyma safbwynt yr Athro R Alun Roberts yn ei Ddarlith Radio i'r BBC: “Yr Elfen Fugeiliol ym Mywyd Cymru” (1968) ac mae'n werth ei darllen neu ei hail-ddarllen. Ynddi dadleua bod yr economi gydweithredol a symudol oedd yn gysylltiedig â'r hen gyfundrefn Hafod a Hendre, a'r pwyslai oddiar hynny ar fagu a marchnata da byw, wedi dylanwadu ar ein diwylliant a'n ffordd o edrych ar y byd o'n cwmpas. O ganlyniad, rydym yn fwy ysbrydol ein bryd na phobl y tiroedd gwastad, ac yn hynny o beth yn debycach ein diwylliant i drigolion Norwy, Yr Alpau a'r Pyreneau na'r rhannau eraill o Ewrop sydd y tu allan i'r gwledydd Celtaidd.

Boed hynny'n wir neu beidio mae'n amlwg iawn, o edrych ar ein llên gwerin a'n chwedlau ni fel Cymry, a phobloedd eraill yr ucheldiroedd ar draws y byd, fod mynyddoedd wedi chwarae rhan bwysig yn ein datblygiad diwylliannol.

Mynyddoedd Sanctaidd golygu

Yn ôl Sylwedyddion Rhufeinig a Groegaidd roedd ffurfiau'r tir yn bwysig iawn i'r Derwyddon Celtaidd – yn llynnoedd, ffynhonnau a mynyddoedd. Y mynydd oedd gorseddfan duwiau'r awyr a gellid gweld a theimlo eu llid adeg tywydd gerwin, yn enwedig pan geid mellt a tharannau, ond ar adegau eraill rhoddasant weledigaeth, achubiaeth a doethineb. Tebyg mewn gwirionedd i fynydd Olympws y Groegiaid – cartrefle Zeus, tad y duwiau, oedd mor anwadal ei dymer a'r tywydd a reolai!

Gwelwn hyn yn amlycach fyth, wrth reswm, yn y rhannau o Ewrop a'r dwyrain canol lle ceir llosgfynyddoedd – pa amlycach arwydd o lid y duwiau na hynny!? Onid ar fynydd tanllyd Sinai y siaradodd Duw â Moses gan roi iddo'r Deg Gorchymyn? Yn yr un modd gwelwn fod gan Ffwji yn Japan, Kilimanjaro yn Kenya a Mauna Lao yn Hawai, ran hanfodol yng nghrefyddau pobl y rhannau hynny o'r byd.

Yn ne a chanolbarth America arferid aberthu ar gopaon y mynyddoedd – cyrchfan y cymylau – i ennyn ffafr duwiau'r glaw ar gyfer llwyddiant y cnydau. Ar gopa mynydd Tlaloc ym Mecsico cyflwynid hadau'r gwahanol gnydau i ddelw o dduw'r glaw (o'r un enw a'r mynydd) i sicrhau llwyddiant y tymor. Aberthai'r Incaid blentyn ifanc i'r un pwrpas bob blwyddyn ar gopaon rhai o fynyddoedd yr Andes a chanfyddwyd nifer o gyrff bychain yn ddiweddar yn tystio i hyn – wedi eu claddu'n seremoniol a'u mymieiddio.

Parhaodd pwysigrwydd crefyddol rhai mynyddoedd i'n dyddiau ni, e.e. pererindod i gopa Mynydd Ffwji gan tua 20,000 o ddilynwyr y grefydd Shinto yn Japan bob blwyddyn ac onid yw'r pererindodau blynyddol gan Gatholigion Gwyddelig i gopa Croag Patrig ym Mayo a “Phererindod y Pedwar Copa” yn Carinthia, Awstria yn enghreifftiau eraill? Difyr sylwi faint o Gapeli a phentrefi Cymreig gafodd eu henwi yn y 19g ar ôl mynyddoedd sanctaidd lle cafwyd gweledigaeth ddwyfol yn y Beibl, e.e. Sinai, Horeb, Tabor, Carmel, Gerizim a Nebo.

Tybir bod y croesau Cristnogol welir ar rhai copaon ac ar fylchau uchel, yn enwedig mewn gwledydd Catholig, yn adlais o gyfnod pan ystyrid y safleoedd hynny yn sanctaidd gan ddilynwyr y crefyddau blaenorol. Pa well ffordd sydd 'na i ddiddymu grym hen safle baganaidd, ynte, na phlannu croes arni? Ceir sawl Bwlch y Groes yng Nghymru, oni cheir, a charnedd gladdu ar gopa bron bob un o'n mynyddoedd amlycaf?

Ni cheir pererindodau crefyddol i gopaon mynyddoedd Cymru bellach ond ceir yr hen arfer o ddringo i gopa'r Wyddfa adeg lleuad lawn y naw nos olau bob mis Medi. Tybed a dardda hyn o ryw hen ddefod yn ymwneud â thymor medi'r cnydau?

Gwyddfa Rhita Gawr golygu

Ystyr “gwyddfa” yw carnedd gladdu ac enw llawn ein mynydd uchaf yw Gwyddfa Rhita Gawr. Fe'i henwyd ar ôl y bwli haerllyg hwnnw geisiodd gipio barf y Brenin Arthur i'w chynnwys yn y glog farfau a wisgai dros ei ysgwyddau. Fe'i lladdwyd gan Arthur a orchymynodd wedyn y dylsid codi carnedd dros gorff Rhita, oedd braidd yn rhy fawr i'w gladdu. Mor amhoblogaidd oedd yr hen furgyn nes y death cymaint o bobl o bob man efo cymaint o gerrig nes ffurfiodd y garnedd y mynydd a elwir “Yr Wyddfa” hyd heddiw!

Campau Prawf golygu

Ydy arholiadau yn bethau newydd d'eudwch? Na, oherwydd ar un adeg rhaid oedd i filwyr ifanc a phrentisiaid Derwyddon gwblhau campau arbennig i brofi eu hunnain. Yn ôl traddodiad byddai neidio o un i'r llall rhwng y ddau faen a elwir Adda ac Edda ar gopa Tryfan yn un o'r campau osodid i brofi dewrder llanciau ifanc y fro ac roedd aros nos ar gopa mynydd yn un arall.

Dywedir y bydd y sawl a dreulia noson ar gopa Cader Idris un ai yn farw, yn fardd neu yn wallgo erbyn y bore. Mae'n wir hefyd! Hynny yw, mae siawns dda ichi drengi o oerfel ac mae'n rhaid eich bod un ai yn fardd neu'n wirion i hydnoed meddwl am noswylio yn y fath le beth bynnag!

Ogofau golygu

Fel pyrth i'r byd arall ac i gorff y fam ddaear bu ogofau yn bwysig o gyfnod cynnar iawn – yn lloches i'n cymunedau cynharaf un fel yn ogofau Tŷ Newydd yn Nyffryn Clwyd a Paviland ym Mhenfro. O'r Oes Efydd ymlaen, ceid trysor o gloddfeydd tanddaearol megis Mynydd Parys, Y Gogarth a Dolaucothi. Dim rhyfedd bod cymaint o chwedlau am ddreigiau neu eryrod yn gwarchod trysor mewn ogof.

A beth am yr holl enghreiftiau o hen frenhinoedd neu arwyr yn cysgu mewn ogof gudd ac yn aros i ddeffro i amddiffyn y wlad pan fo'u hangen? Yng Nghymru cysga Arthur a'i filwyr yn Ogof Llanciau Eryri ar Lliwedd a cheir chwedlau tebyg am Owain Glyndwr, ac Ifor Bach yn ei ogof dan Castell Coch, Caerdydd. [Deffrwch y diawliaid!]. Ond nid yng Nhgymru yn unig y ceir coelion o'r fath – fe'u ceir hefyd am arwyr cenedlaethol eraill fel y brenin Siarlamaen yn ne Ffrainc a Ffredric y 1af yn Awstria.

Y Môr golygu

Y Weilgi golygu

Gair arall am y môr neu'r cefnfor yw 'weilgi'. Mae hwn yn hen air sydd, yn ôl Geiriadur y Brifysgol, yn dyddio o leia i'r 13g, e.e. “eistedd yd oedynt ar garrec hardlech uch penn y weilgi”. Ystyr gweilgi yw blaidd ac yn ôl y Geiriadur: “math o bersonoliad o'r môr yw gweilgi neu ryw syniad mytholegol amdano fel anifail yn udo, neu…yn delweddu'r môr fel blaidd.” Tybed ai o'r hen goel fod y blaidd yn greadur tywyllodrus a pheryglus y cododd hyn – yn cynrychioli stormydd?

Yn y cyswllt hwn, o bosib, mae'n ddifyr imi ddod ar draws arwydd tywydd o ardal Clynnog yn Arfon yn cyfeirio at y “bwlff” neu “wlff” (woolf) fel enw ar y pytiau bach o enfys welir weithiau y nail ochr i'r haul ac sydd yn aml iawn yn arwydd bod storm ar ei ffordd. Enwau eraill ar y rhain yw ci drycin neu cyw drycin, ac o Glynnog y cyfeiriad arferol i'w gweld yw i'r gorllewin – dros y môr – rhyw ddwy neu dair awr cyn y machlud. Oes rhywrai eraill wedi clywed am gysylltu'r blaidd â stormydd?

Casgliad Marie Trevelyan golygu

Ie, rhywbeth i'w barchu fu'r môr inni'r Cymry erioed ac fel pob cenedl arfordirol arall mae ein llên gwerin morol yn gyfoethog iawn – yn enwedig ym mysg morwyr a physgotwyr. I'r sawl y dibynnai ei fywoliaeth a'i fywyd arno byddai defodau a choelion a pharch tuag at y môr yn yswiriant rhag trychineb!

Mae gan Marie Trevelyan yn ei Folk-lore and Folk Stories of Wales (1909), gasgliad difyr o straeon a choelion o'r fath. Er enghraifft dywed fod y seithfed neu'r nawfed ton yn gryfach na thonnau eraill ac os llwyddith dyn sy'n boddi i ddal un o'r rhain mae siawns dda y caiff ei achub. Ar y llaw arall os yw rhywun yn nofio tua'r lan mae ei fywyd mewn peryg os caiff ei oddiweddyd gan un o't tonnau hyn.

Byddai ymdrochi yn y môr ar naw bore canlynnol yn iachau rhywun sal, a byddai ymdrochi naw gwaith ar yr un bore yn dda i rywun sy'n diode â'i nerfau. Dywed hefyd y byddai rhywun a yfai ychydig o ddŵr y môr bob bore o'i blentyndod yn sicr o fyw i oedran mawr. A bod pobl a aned ger y môr yn naturiol ddewr.

Ar un adeg 'chydig o bysgod a fwyteid yng Nghymru oherwydd credid bod pysgod yn byw ar gyrff pobl a foddwyd.

Byddai tonnau gwynion yn cael eu hystyried â pharchedig ofn a chredid mai ysbrydion rhai a foddwyd oeddent yn codi i'r wyneb ar wynt i gael hwyl yn marchogi eu cesyg gwynion. Gelwid y tonnau gwynion gwylltion oddiar Trwyn yr As ger Sain Dynwyd ym Morgannwg y “merry dancers.”

Daeth cwpwrdd Dafydd Jones neu “Davy Jones' Locker” yn enw adnabyddus am y môr. Dyddia'r enw o tua canol y 18g yn ôl Geiriadur Rhydychen ac mae ei darddiad yn ansicr. O blith morwyr o Gymru y death yn ôl Marie Trevelyan, ond does gan neb glem pwy oedd y Dafydd Jones gwreiddiol chwaith – môrleidr yn ôl rhai.

Weithiau gwelid goleuadau rhyfedd yn dawnsio o gwmpas y mast a'r rigin. Cannwyll yr ysbryd neu Gannwyll yr Ysbryd Glân oedd enwau'r morwyr Cymraeg arnynt (St Elmo's Fire i'r Saeson a morwyr y Cyfandir). Byddai gweld un o'r goleuadau hyn ar ben ei hun yn anlwcus; dau yn arwydd o dywydd braf a mordaith lwyddiannus a llawer ohonynt yn ystod storm yn arwydd fod y gwaetha drosodd ac y deuai hindda'n fuan.

Hen stori o Forgannwg oedd bod y diafol ar un adeg yn hwylio oddiar glannau Cymru mewn llong dri mast i gasglu eneidiau pechaduriaid. Fe'i hadeiladwyd o goed dorrwyd yn Anwfn ac roedd yr aroglau swlffwr ddeuai ohoni yn erchyll! Gorfoleddai'r hen ddiafol bob tro y cawsai gargo newydd o eneidiau ond fe wylltiodd hynny Dewi Sant, yn ôl rhai, neu Sant Dynnwyd yn ôl eraill, nes iddo drywannu'r llong â phicell fawr! Prin y llwyddodd y Diafol i ddianc ac fe ddryllwyd y llong ar greigiau Gŵyr lle gwnaeth rhyw gawr mawr bric dannedd o'i mast a hances boced o'i hwyl!

Lwc ag anlwc golygu

Ceir nifer fawr o ofergoelion yn ymwneud â'r môr – dyma ddyrnaid bychan ohonynt:

  1. Mae clust-dlws aur yn arbed morwr rhag boddi
  2. Plentyn ar fwrdd llong yn dod a lwc dda.
  3. Peidied chwibannu ar fwrdd llong rhag tynnu storm.
  4. Ddylsai neb dorri ei wallt na'i ewinedd ar fwrdd llong.
  5. Mae colli bwced dros yr ochr yn anlwcus iawn.
  6. Hoelio pedol ar y mast yn arbed rhag drwg.
  7. Sticio cyllell yn y mast i gael gwynt têg i hwylio
  8. Ni ddylsid cychwyn mordaith ar ddydd Gwenner oherwydd dyna'r dydd y croeshoiliwyd Crist
  9. Mae hwylio o'r harbwr ar ddydd Sul yn lwcus.
  10. Ddylsai'r gwragedd ar y lan ddim golchi dillad ar y dydd yr hwyliai eu gwŷr – rhag i'r llong gael ei golchi ymaith.
  11. Mae cau cath mewn cwt neu ei rhoi dan dwb yn codi gwynt mawr a byddai rhai merched yn gwneud hyn i gadw eu gwŷr neu gariadon adre!
  12. Taflu cath i'r môr yn tynnu andros o storm.
  13. Anlwcus gweld rhywun â gwallt coch cyn hwylio
  14. Mae penwaig yn casau ffraeo ac os yw rhwydi dau gwch wedi tanglo – peidied a ffraeo neu ni ddelir mwy o benwaig!
  15. Peidiwch a cyfri'r pysgod cyn cyrraedd y lan neu ddelir dim mwy.
  16. Mae priodi yn tynnu stormydd, felly yr amser gorrau i briodi ydi ar ddiwedd y tymor pysgota.


Crefydd y Celtiaid golygu

Roedd y môr yn bwysig iawn yng nghrefydd yr hen Geltiaid ac os edrychwn ar achau duwiau ac arwyr y Mabinogi gwelwn fod Llŷr, duw'r môr yn dad i Bendigeidfran, Branwen a Manawydan. I'r hen Gymry, duw crefft oedd Manawydan yn bennaf ond yn chwedlau Iwerddon roedd ef (Manannán mac Lir), fel ei dad, yn dduw'r môr fyddai'n marchogi'r tonnau ar ei geffyl gwyn. Ef amgylchynodd Iwerddon â môr i'w hamddiffyn ac a roddodd ei enw i Ynys Manaw

Moeswersi golygu

Ceir aml i foeswers yn codi o eigion y môr. Cymerwch yr hen stori gyfarwydd am pam fod y môr yn hallt. Y creadur dwl hwnnw ddwynodd y felin halen hud oedd yn gyfrifol. Roedd yn cofio'n iawn y swyn i gael y felin i gynhyrchu ond anghofiodd y swyn i wneud iddi stopio! Pan suddodd ei long dan bwysau'r holl halen doedd dim modd adfer na rhoi stop ar y felin byth wedyn! Y foeswers, yn naturiol, yw i beidio a bod mor farus yn y lle cyntaf a bod canlyniadau pellgyrhaeddol iawn i esgeulustod syml weithiau.

A beth am stori Sinbad y morwr pan neidiodd hen ddyn y môr ar ei gefn. Ddeuai hwn byth oddiarno wedyn ac roedd yn amhosib ei dynnu na'i ysgwyd i ffwrdd chwaith. Yn y diwedd rhoddodd Sinbad wïn iddo nes i'r hen ddyn feddwi a llacio ei afael fel y gallodd Sinbad ddianc! Mae 'na rybudd yn erbyn effeithiau gor-yfed yn fan'na yn sicr (i'r hen ddyn!) ond am Sinbad mae yn fy atgoffa o ddywediad glywais gan fy mrawd: “Os wyt ti am dynnu stanc neu bolyn ffens waeth iti heb a'i gurro ar ei ben hefo gordd - sigla di o yn ôl ac ymlaen ac fe ddaw o'r ddaear yn ddi-lol”. Os na fydded gryf bydded gyfrwys, mewn geiriau eraill.

Mae 'na stori ddifyr o ardal Clynnog, ac fe glywais fersiynau tebyg o'r un hanes yn Nefyn a Môn, am bysgotwyr penwaig dros ddwy ganrif yn ôl yn cael helfeydd toreithiog iawn am rai blynyddoedd. Roeddent yn dal a dal a dal, lawer mwy na ellid eu gwerthu na'u halltu na'u sychu at y gaeaf. Ond dal i bysgota wnai'r dynion gan wasgaru'r pysgod hyd y caeau fel gwrtaith hydynoed. Wel, yng ngwyneb yr holl wastraff ac am fod drewdod y pysgod pydredig ar y caeau yn chwythu dros dir rhyw hen wrach oedd yn byw gerllaw, dyma honno yn melltithio'r pysgotwyr gan ddweud na ddaliai neb yr un pysgodyn arall oddiar y rhan hwnnw o'r arfordir am ddau can mlynedd! Gwir y gair, oherwydd o hynny ymlaen fe beidiodd yr heigiau penwaig ddod ar gyfyl Clynnog a bu raid i'r pysgotwyr a'u teuluoedd symud oddiyno. Dyma, yn ôl rhai, sy'n cyfrif am y murddynod ar y traeth ger Ty'n y Coed.

Efallai bod elfen o wirionedd hanesyddol yn y stori hon oherwydd mae'n wir bod penwaig yn newid eu llwybrau ymfudo o bryd i'w gilydd ond hefyd roedd diwedd y 18g yn gyfnod o newid yn y diwydiant pysgota. Bryd hynny fe danseilwyd bywoliaeth y pysgotwyr bach bron ymhobman wrth i gychod mwy ddechrau gweithio allan o borthladdoedd cyfagos gan gipio'r farchnad oddiarnynt. Beth bynnag am hynny y wrach yn cosbi'r pysgotwyr am eu gwastraff gaiff y bai, a'r stori wedi goroesi am fod ynddi foeswers a rhybudd am ganlyniadau bod yn wastraffus.

Llên gwerin llongau golygu

Ceir llawer o ddefodau a choelion yn gysylltiedig a llongau:– Adeiladu – ystyrid, ar gychwyn adeiladu, bod gosod y cêl neu gilbren yn iawn yn holl bwysig a rhaid oedd defod briodol i sicrhau hynny. Byddid yn “yfed iechyd” y llong a rhaid oedd taro'r hoelen gyntaf yn gywir. Byddai rhai yn ei tharo drwy bedol ceffyl i sicrhau lwc dda a chlymid ruban coch (lliw gwaed a bywyd) am yr hoelen gynta i arbed rhag melltith a'r llygad ddrwg. Gwae os coda gwreichionyn wrth ei tharo oherwydd byddai'r llong yn siwr o gael ei dinistrio gan dân a byddai pawb yn ofalus rhag brifo a cholli gwaed oherwydd deuai hynny â chanlyniadau difrifol i'r criw rhyw ddydd. Ddylsai neb regi na thyngu chwaith! Enwau – enwau benywaidd fel arfer a byddai'r hen forwyr yn amheus iawn o enwau rhy feiddgar a mawreddog. Dyma pam nad oedd rhai yn gweld llawer o lwc yn enw rhyfygus y Titanic. Pan ddeuai newyddion am anffawd neu longddrylliad byddai cryn ddyfalu am y rhesymau pam a rhai yn sicr o chwilio'n ofalus am rhyw ystyr cudd yn enw'r llong fyddai wedi rhoi arwydd o'i thynged. Lansio – enwir y llong ar ei lansiad ac mae'n arfer erbyn hyn i dori potel o wïn neu siampên ar ei blaen i'w gyrru ar ei ffordd. Tardda hyn o'r hen ddefod o gyflwyno aberth dynol i dduw'r môr drwy glymu carcharor ar y llithr-ffordd y gwthid y llong neu gwch i'r dŵr. Roedd hyn yn hanfodol i long ryfel – er mwyn iddi fagu blas ar waed ar gychwyn ei gyrfa. Roedd y Llychlynwyr a'r Polynesiaid yn enwog am hyn a hydynoed mor ddiweddar a 1784 arferai Llywodraethwr Tripoli lansio ei longau rhyfel hefo caethwas wedi ei glymu ar ei blaen. Y flaen-ddelw – cariai llongau'r Eifftiaid, y Groegiaid, Phoeniciaid a'r Rhufeiniaid allorau neu ddelwau o dduwiau neu dduwiesau gwarcheidiol. Byddai delwedd o lygad, e.e. llygad y duw Horus ar longau'r Eifftiaid, yn amddiffyn rhag stormydd a llongddrylliadau. Roedd hyn i'w weld yn y dwyrain pell yn ogystal ac fe welwch lun llygaid ar flaen pob jync Tsineaidd a chwch Polynesiaidd hyd heddiw. Roedd blaen-ddelw o'r rhan uchaf o gorff merch – hefo'i llygaid yn rhythu ac yn fron-noeth - yn gyffredin iawn ar longau Ewropeaidd ac Americanaidd yn oes yr hwyliau am fod y llygaid a'r bronnau noethion yn tawelu stormydd. Y gloch – ar ôl y flaen-ddelw, y gloch oedd yr eitem bwysica ar y llong ac fe'i cedwid yn barchus ymhell ar ôl i'r llong ei hun orffen ei gyrfa – hynny yw, os nad oedd wedi suddo! Ac os suddodd y llong – bydd y gloch yn dal yn glywadwy dan y tonnau adeg drycin! Ceir stori o Gernyw am forwr glywodd gloch yn canu a'r sŵn yn codi o fedd hen gapten foddwyd yn y môr. Boddwyd y morwr hwnnw ar ei fordaith nesa.