Actor llwyfan, ffilm a theledu Cymraeg o Ddeiniolen yw Eilian Wyn neu Eilian Wyn-Jones. Bu'n portreadu nifer o gymeriadau ar lwyfannau a'r sgrin yng Nghymru a thu hwnt, ers y 1960au.

Eilian Wyn
GanwydEilian Wyn-Jones
Deiniolen, Gwynedd
Galwedigaethactor

Ef fu'n portreadu'r prif gymeriad Enoc Huws yn addasiad teledu BBC Cymru ym 1974, ac roedd o'n un o'r tri actor a lwyfannodd Y Ffin gan Gwenlyn Parry am y tro cyntaf ym 1973 gyda Chwmni Theatr Cymru [gyda Gaynor Morgan Rees a David Lyn].

Bu'n aelod o Gwmni Theatr Gwynedd a'r grŵp pop Pryderi & His Pigs (1976) [1] Teithiodd drwy'r byd gyda gwahanol gwmnïau theatr.

Yn 2019, roedd Eilian Wyn yn byw yn Belgrade, Serbia.[2]

 
Eilian Wyn, Gaynor Morgan Rees a David Lyn yn y llwyfaniad cyntaf o ddrama Gwenlyn Parry Y Ffin 1973.

detholiad

Theatr

golygu
 
Eilian Wyn yn Un o'r Teulu Cwmni Theatr Gwynedd 1991
  • This World of Wales - sioe-un-dyn a deithiodd yn yr UDA, Canada, Iwerddon a'r Almaen
  • The Life Of Ronald Duncan - Pentameters, Hampstead
  • Branwen gan Anthony Conran, Made in Wales
  • Ghost Train gan Arnold Ridley
  • Verdict gan Agatha Christie
  • Deadly Nightcap gan Francis Durbridge - taith Brydeinig
  • Absent Friends gan Alan Ayckbourne
  • Houseguest gan Francis Durbridge - The Mill at Sonning
  • Laurence Durrel at 75 - Hampstead
  • Comedians gan Trevor Griffiths
  • At Five In The Afternoon gan Don White
  • The Rover gan Aphra Behn - Colchester
  • Henry IV, part one - Billingham
  • When We Dead Awaken gan Ibsen
  • Servant Of Two Masters gan Goldoni - Southampton
  • Vivat! Vivat! Regina gan Robert Bolt, Piccadilly Theatre, Llundain
  • Godspell gan John Michael Tebelack - Wyndhams Theatre, Llundain
  • The Druid's Rest - Cwmni Theatr Gwynedd
  • Un o'r Teulu (1991) - Cwmni Theatr Gwynedd
  • Y Ffin (1973) - Cwmni Theatr Cymru
  • Madam Wen (1975) - Theatr yr Ymylon

Teledu a Ffilm

golygu
  • Seeing and Doing (1969) [3]
  • The Wednesday Play (1970)
  • Mistress of Hardwick (1972)
  • Enoc Huws (1974) cyfres Gymraeg i'r BBC - prif gymeriad
  • Thriller (1975)
  • BBC Play of the Month (1975)
  • The Duchess of Duke Street (1977)
  • Britannia Hospital (1982)
  • The New Statesman (1984-1985) (BBC 2)
  • A Mind to Kill (1997)
  • Human Traffic (1999)
  • Y Mabinogi (2003)
  • Despite the Falling Snow (2016)
  • Mayhem (2017)
  • Intrigo: Samaria (2019)
  • Beleznica profesora Miskovca (2021)
  • The Outpost (2019-2021)
  • Miss Scarlet and the Duke (2022)
  • Lion of the Desert
  • As the Crow Flies
  • Trainspotters
  • A Little Lower Than The Angels (BBC Radio 5)
  • Poetry Corner (cyflwynydd)
  • A New Way To Pay Old Debts (BBC London)

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Discogs".
  2. "Benbaladr - Eilian Wyn Jones - Belgrade - BBC Sounds". www.bbc.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-24.
  3. "Eilian Wyn | Actor". IMDb (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-24.