Elisabeth Schwarzkopf

Roedd Y Fonesig Olga Maria Elisabeth Friederike Schwarzkopf, DBE (9 Rhagfyr 1915- 3 Awst 2006) yn Soprano Austro-Brydeinig a anwyd yn yr Almaen.[1] Roedd hi ymhlith cantorion mwyaf blaenllaw o ganeuon Lieder,[2] ac roedd hi'n enwog am ei pherfformiadau o operetâu arddull Fienna, yn ogystal ag operâu Mozart, Wagner a Richard Strauss. [3] [4] Ar ôl ymddeol o'r llwyfan, roedd hi'n athrawes lais rhyngwladol. Mae hi'n cael ei hystyried yn un o sopranos mwyaf yr 20fed ganrif. [5]

Elisabeth Schwarzkopf
Ganwyd9 Rhagfyr 1915 Edit this on Wikidata
Jarocin Edit this on Wikidata
Bu farw3 Awst 2006 Edit this on Wikidata
Schruns Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen Baner Prydain Fawr Prydain Fawr
Alma mater
  • Prifysgol Gelf yr Almaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr opera, athro cerdd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Ysgol Juilliard, Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laissoprano Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol Edit this on Wikidata
PriodWalter Legge Edit this on Wikidata
PartnerHugo Jury Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Commandeur des Arts et des Lettres‎, Pour le Mérite, Urdd y Dannebrog Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Ganwyd Schwarzkopf yn Jarotschin yn Nhalaith Posen ym Mhrwsia, yr Almaen (Gwlad Pwyl bellach) yn blentyn i Friedrich Schwarzkopf a'i wraig, Elisabeth (née. Fröhlich). Perfformiodd Schwarzkopf yn ei opera gyntaf ym 1928, yn rôl Euridice mewn cynhyrchiad ysgol o Orfeo ed Euridice gan Gluck yn Magdeburg, yr Almaen. Ym 1934, cychwynnodd Schwarzkopf ei hastudiaethau cerddorol yn y Berlin Hochschule fur Musik (Ysgol Uwchradd Cerddoriaeth Berlin),[6] lle ceisiodd ei thiwtor canu, Lula Mysz-Gmeiner, ei hyfforddi i fod yn fezzo-soprano. Yn ddiweddarach hyfforddodd Schwarzkopf o dan Maria Ivogün, ac ym 1938 ymunodd â'r Deutsche Oper. [7]

Gyrfa gynnar

golygu

Ym 1933, yn fuan ar ôl i'r Natsïaid ddod i rym, cafodd tad Elisabeth Schwarzkopf, prifathro ysgol leol, ei ddiswyddo gan yr awdurdodau newydd am iddo wrthod caniatáu cyfarfod o'r blaid Natsïaidd yn ei ysgol. Cafodd hefyd ei wahardd rhag cymryd unrhyw swydd addysgu amgen. Hyd diswyddiad Friedrich Schwarzkopf, y disgwyl oedd y byddai Elisabeth, 17 oed, yn mynd i astudio meddygaeth ar ôl pasio ei Abitur (arholiad yn yr Almaen cyfwerth â lefel A). Gan ei fod yn ferch i athro ysgol waharddedig, ni chaniatawyd iddi fynd i'r brifysgol a dechreuodd astudiaethau cerdd yn Hochschule Berlin fur Musik. Gwnaeth Schwarzkopf ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf yn y Deutsche Oper Berlin (a elwid ar y pryd yn Deutsches Opernhaus) ar 15 Ebrill 1938, fel yr Ail Forwyn Flodau yn act 2 o Parsifal gan Richard Wagner.[8] Ym 1940 dyfarnwyd contract llawn i Schwarzkopf gyda'r Deutsches Opernhaus, ar yr amod ei bod hi'n ymuno â'r blaid Natsïaidd. [9]

Ym 1942, cafodd ei wahodd i ganu gydag Opera Taleithiol Fienna, lle'r oedd ei rolau yn cynnwys Konstanze yn Die Entführung aus dem Serail gan Mozart; Musetta ac yn ddiweddarach Mimì yn La bohème Puccini a Violetta yn La traviata, Verdi.

Serennodd Schwarzkopf mewn pum ffilm nodwedd ar gyfer Gweinidog Propaganda'r Reich, Joseph Goebbels, [9] [10] lle bu'n actio, canu a chwarae'r piano. [7]

Gyrfa ar ôl y rhyfel

golygu

Ym 1945, rhoddwyd dinasyddiaeth Awstria i Schwarzkopf i'w galluogi i ganu yn Opera Taleithiol Fienna (Wiener Staatsoper). Ym 1947 a 1948, ymddangosodd Schwarzkopf ar daith gyda'r cwmni yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden, Llundain, ar 16 Medi 1947 fel Donna Elvira yn Don Giovanni gan Mozart ac yn La Scala ar 28 Rhagfyr 1948, fel yr Iarlles yn Le nozze di Figaro gan Mozart. Ddaeth yr Iarlles yn un o'i rolau llofnod.

Gwnaeth Schwarzkopf ei ymddangosiad cyntaf fel cantores gwadd yn y Tŷ Opera Brenhinol ar 16 Ionawr 1948, fel Pamina yn Y Ffliwt Hud gan Mozart, mewn perfformiadau a ganwyd yn Saesneg, ac yn La Scala ar 29 Mehefin 1950 yn canu Missa solemnis Beethoven. Rhoddodd ei chysylltiad â La Scala yn y 1950au cynnar cyfle iddi ganu rolau penodol ar y llwyfan am yr unig dro yn ei gyrfa: Mélisande yn Pelléas et Mélisande Debussy, Iole yn Hercules Handel, Marguerite yn opera Gounod Faust, Elsa yn opera Wagner Lohengrin, yn ogystal â chware Marschallin am y tro cyntaf yn Der Rosenkavalier Richard Strauss a Fiordiligi am y tro cyntaf yn Così fan tutte Mozart yn y Piccola Scala. Ar 11 Medi 1951, ymddangosodd fel Anne Trulove ym première y byd oThe Rake's Progress gan Stravinsky. Gwnaeth Schwarzkopf ei ymddangosiad cyntaf mewn cyngerdd Americanaidd gyda Cherddorfa Symffoni Chicago ar Hydref 28 a 29, 1954, yn Vier letzte Lieder Strauss a’r olygfa olaf o Capriccio gyda Fritz Reiner yn arwain; roedd ei ymddangosiad cyntaf yn Neuadd Carnegie yn ddatganiad Lieder ar 25 Tachwedd 1956; [11] ei ymddangosiad cyntaf mewn opera yn yr Unol Daleithiau oedd fel y Marschallin gydag Opera San Francisco ar 20 Medi 1955 , ac roedd ei hymddangosiad cyntaf yn yr Opera Metropolitan ar 13 Hydref 1964, hefyd yn rôl y Marschallin. [12]

Ym mis Mawrth 1946, gwahoddwyd Schwarzkopf i glyweliad gan Walter Legge, cynhyrchydd recordiau clasurol dylanwadol ym Mhrydain a sylfaenydd y Gerddorfa Philharmonia. Gofynnodd Legge iddi ganu'r Lied Wer rief dich denn? gan Hugo Wolf ac, wedi creu argraff, llofnododd hi i gontract cyfyngol gyda chwmni recordiau EMI. Dechreuodd partneriaeth agos rhyngddynt. Wedi hynny daeth Legge yn rheolwr proffesiynol a chydymaith personol Schwarzkopf. Priodwyd y ddau ar 19 Hydref 1953 yn Epsom, Surrey. Felly cafodd Schwarzkopf ddinasyddiaeth Brydeinig trwy briodas. Byddai Schwarzkopf yn rhannu ei hamser rhwng datganiadau Lieder a pherfformiadau opera am weddill ei gyrfa. Pan wahoddwyd hi ym 1958 i ddewis ei wyth hoff record ar gyfer y rhaglen radio Desert Island Discs i'r BBC, dewisodd Schwarzkopf saith o’i recordiadau ei hun, [13] ac wythfed o Karajan yn arwain y rhagarweiniad i Rosenkavalier, gan eu bod yn dwyn atgofion melys i gof am y bobl bu'n gweithio a hwy. [14] [15]

Yn y 1960au, bu Schwarzkopf yn canolbwyntio bron yn gyfan gwbl ar bum rôl operatig: Donna Elvira yn Don Giovanni, Iarlles Almaviva yn Le nozze di Figaro, Fiordiligi yn Così fan tutte, Iarlles Madeleine yn Capriccio Strauss, a'r Marschallin. Cafodd dderbyniad da hefyd fel Alice Ford yn Falstaff Verdi. Fodd bynnag, ar label EMI gwnaeth sawl recordiad "champagne opereta" fel Die lustige Witwe (y weddw lon)[16] gan Franz Lehár a Der Zigeunerbaron (barwn y sipswn) gan Johann Strauss II.

Roedd perfformiad operatig olaf Schwarzkopf fel y Marschallin ar 31 Rhagfyr 1971, yn theatr La Monnaie ym Mrwsel. Am y blynyddoedd nesaf, fe ymrwymodd yn llwyr i ddatganiadau Lieder. Ar 17 Mawrth 1979, dioddefodd Walter Legge drawiad difrifol ar y galon. Diystyrodd orchmynion meddyg i orffwys a mynychodd ddatganiad olaf Schwarzkopf ddeuddydd yn ddiweddarach yn Zurich. Tridiau yn ddiweddarach, bu farw.

Ymddeoliad a marwolaeth

golygu
 
Bedd yn Zumikon

Ar ôl ymddeol (bron yn syth ar ôl marwolaeth ei gŵr), bu Schwarzkopf yn dysgu ac yn rhoi dosbarthiadau meistr ledled y byd, yn arbennig yn Ysgol Juilliard yn Ninas Efrog Newydd. Ar ôl byw yn y Swistir am nifer o flynyddoedd, cymerodd breswylfa yn Awstria. Cafodd doethuriaeth Cerdd gan Brifysgol Caergrawnt ym 1976, a daeth yn Fonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (DBE) ym 1992. [17]

Bu farw Schwarzkopf yn ei chwsg yn ystod noson 2–3 Awst 2006 yn ei chartref yn Schruns, Vorarlberg, Awstria, yn 90 oed. Claddwyd ei lludw hi a Walter Legge, wrth ymyl ei rhieni yn Zumikon ger Zürich, lle bu’n byw rhwng 1982 a 2003.[18]

Gweler hefyd

golygu

Disgyddiaeth Elisabeth Schwarzkopf


Cyfeiriadau

golygu
  1. Holden, Raymond. "Schwarzkopf, Dame (Olga Maria) Elisabeth Friederike (1915–2006), singer". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/97389. Cyrchwyd 2021-04-11.
  2. "Remembering Soprano Elisabeth Schwarzkopf". NPR.org. Cyrchwyd 2021-04-11.
  3. Laura Williams Macy (2008). The Grove Book of Opera Singers. Oxford University Press. tt. 442–. ISBN 978-0-19-533765-5.
  4. Lol Henderson; Lee Stacey (27 January 2014). Encyclopedia of Music in the 20th Century. Routledge. tt. 565–. ISBN 978-1-135-92946-6.
  5. see eg Opera World Best Sopranos of the 20th Century
  6. "Dame Elisabeth Schwarzkopf | German singer". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2021-04-11.
  7. 7.0 7.1 "Dame Elisabeth Schwarzkopf". www.telegraph.co.uk. Cyrchwyd 2021-04-11.
  8. "Elisabeth Schwarzkopf (Soprano) - Short Biography". www.bach-cantatas.com. Cyrchwyd 2021-04-11.
  9. 9.0 9.1 "Alan Jefferson". www.telegraph.co.uk. Cyrchwyd 2021-04-11.
  10. "BOOK REVIEW / Her Masters' voice". The Independent (yn Saesneg). 2011-10-23. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-08. Cyrchwyd 2021-04-11.
  11. Tommasini, Anthony (2006-08-04). "Elisabeth Schwarzkopf, Opera Singer, Dies at 90 (angen cofrestru)". The New York Times. ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2021-04-11.
  12. "BiblioTech PRO V3.2b". archives.metoperafamily.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-10-22. Cyrchwyd 2021-04-11.
  13. "BBC Radio 4 - Desert Island Discs, Elisabeth Schwarzkopf". Bbc.co.uk. 1958-07-28. Cyrchwyd 2012-11-06.
  14. "Desert Island Discs, Roy Plomley's castaway is soprano Elisabeth Schwarzkopf". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2021-04-11.
  15. Prima donna: a history, Rupert Christiansen (1995). "It made Schwarzkopf into a uniquely self-conscious interpreter: it was perfectly natural to her that when asked on the BBC radio programme Desert Island Discs to select eight recordings to be shipwrecked with, she should choose only her ..."
  16. Operadmin. "Elisabeth Schwarzkopf - Sopran | ♪ Opera guide". Cyrchwyd 2021-04-11.
  17. "Page 7 | Supplement 52767, 30 December 1991 | London Gazette | The Gazette". www.thegazette.co.uk. Cyrchwyd 2021-04-11.
  18. "Elisabeth Schwarzkopf (1915-2006) - Find A Grave..." www.findagrave.com. Cyrchwyd 2021-04-11.