Ellis Wynne

Llenor crefyddol a chyfieithydd ac awdur Gweledigaethau y Bardd Cwsc (1671 - 1734)
(Ailgyfeiriad o Ellis Wyn)

Llenor crefyddol a chyfieithydd o Gymru oedd Ellis Wynne (7 Mawrth 1671 - 13 Gorffennaf 1734). Mae'n adnabyddus fel awdur Gweledigaethau y Bardd Cwsc, a ystyrir yn un o glasuron rhyddiaith Gymraeg.

Ellis Wynne
FfugenwY Bardd Cwsc Edit this on Wikidata
Ganwyd7 Mawrth 1671 Edit this on Wikidata
Y Lasynys Fawr Edit this on Wikidata
Bu farw13 Gorffennaf 1734 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad, bardd Edit this on Wikidata
PlantWilliam Wynn Edit this on Wikidata
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Wikiquote
Wikiquote
Mae gan Wiciddyfynu gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i:

Bywgraffiad

golygu

Ganed Ellis Wynne yn y Lasynys (neu'r Lasynys Fawr), ffermdy sylweddol rhwng Talsarnau a Harlech, yn yr hen Sir Feirionnydd (de Gwynedd), yn fab i Edward Wynne o blasdy Glyn Cywarch (heb fod ymhell o'r Lasynys). Roedd yn deulu o fan uchelwyr gyda chysylltiad â theulu Brogyntyn, ger Croesoswallt. Trwy ei daid Elis Wyn roedd Ellis Wynne yn perthyn i John Jones, Maesygarnedd, un o'r rhai a lofnododd warant dienyddio'r brenin Siarl I o Loegr.

Yn wahanol i John Jones o Faesygarnedd, yr oedd Ellis Wynne yn frenhinwr pybyr. Mae manylion ei yrfa yn ansicr, ond ymddengys iddo dreulio cyfnod yn Ysgol Ramadeg Amwythig. Mae cerdd Ladin gan Wynne yn awgrymu cysylltiad ag Ysgol Ramadeg Biwmares yn ogystal. Aeth i Rydychen lle graddiodd ar y 1af o Fawrth 1692, yn 21 oed. Mae'n bosibl ei fod wedi cwrdd â'r athrylith amlddawn Edward Lhuyd tra oedd yno. Ym Medi 1698 priododd â'i wraig gyntaf, Lowri Wynne o Foel-y-glo, Meirionnydd.

Cafodd ei ordeinio'n offeiriad a diacon yn eglwys gadeiriol Bangor yn Rhagfyr 1704. Daeth yn rheithor plwyfi Llanbedr a Llandanwg yn 1705 ac wedyn cafodd ofalaeth Llanfair, ger Harlech, yn 1710. Yn 1711 priododd â'i ail wraig, Lowri Lloyd o Hafod Lwyfog (ger Aberglaslyn) a symudodd i'r Lasynys eto lle bu fyw am weddill ei oes. Bu farw y 13 Gorffenanf 1734 a'i claddu yn eglwys Llanfair.

Gwaith llenyddol

golygu

Cyfieithodd Ellis Wynne Rheol Buchedd Sanctaidd (o waith Saesneg Jeremy Taylor) yn 1701 ac argraffiad o'r Llyfr Gweddi Gyffredin yn 1710.

Fodd bynnag, ei brif waith llenyddol yw'r testun rhyddiaith Gweledigaethau y Bardd Cwsc (Gweledigaethau'r Bardd Cwsg) (1703), sy'n seiledig yn fras ar gyfieithiadau Saesneg Roger L'Estrange a John Stevens o'r llyfr Los Sueños ('Y Breuddwydion') gan y Sbaenwr Don Francisco de Quevedo (1580-1645). Mae'r bardd yn gweld tair gweledigaeth fel mae'n mordwyo drwy'r byd (Gweledigaeth cwrs y Byd), drwy angau (Gweledigaeth Angeu yn ei Frenhinllys isa) a thrwy uffern (Gweledigaeth Uffern). Fe'i hebryngir gan angel ar y ddaear ac mewn uffern a chan Meistr Cwsc ym Mrenhinllys isa Angau. Mae'r gwaith yn darlunio taith pechadur o'r byd hwn drwy angau at uffern. Llyfr bwrlesg a ysgrifennwyd mewn Cymraeg naturiol a choeth sy'n mynegi safbwynt brenhinwr ac eglwyswr ar gyflwr y wlad yn ei oes yw'r Gweledigaethau. Mae'n dangos meistrolaeth yr awdur ar Gymraeg clasurol yn ogystal â Chymraeg llafar y cyfnod ar ei mwyaf rhywiog. Gweledigaeth o Lys Angau a geir yno, ac mae'n bosibl fod Wynne wedi bwriadu ail gyfrol ar Lys Paradwys yn olyniant iddo. Yn ogystal â disgrifiadau llawn dychymyg o Uffern a dychan deifiol, ceir fel gwrthgyferbyniad trawiadol ddarnau o ryddiaith swynol iawn, yn arbennig yr agoriad enwog sy'n disgrifio'r wlad o gwmpas Harlech trwy sbienddrych yr awdur.

Roedd Ellis yn gasglwr a chopïydd llawysgrifau Cymreig yn ogystal. Un o'r llawysgrifau a gafodd oedd un yn cynnwys nifer o gerddi darogan, gan gynnwys rhai a dadogwyd ar "Y Bardd Cwsg" a Rhys Fardd, mae traddodiad o gysylltu'r ddau gyda'i gilydd, ond yn y llawysgrifau a welodd Wynne, maent yn ymddangos fel dau bersona, os nad dau berson gwahanol, felly y maent yn nisgrifiadau ei gyfoedion o'u cynnwys. Nid oes tystiolaeth o blaid cred Gwyn Thomas mai Rhys Fardd yw'r 'Bardd Cwsg' yn nhyb Wynne.

Nid ysgrifennodd lawer o farddoniaeth ond mae un o'i gerddi, 'Gadel Tir', a geir ar ddiwedd ail ran Gweledigaethau'r Bardd Cwsg yn glasur bach sydd wedi ennill ei lle mewn sawl blodeugerdd Gymraeg. Ysgrifennodd y beirdd Siôn Rhydderch a Robert Humphrey gywyddau iddo. Cyfansoddodd sawl emyn yn ogystal. Yr enwocaf yw'r un sy'n cychwyn gyda'r llinell 'Myfi yw'r Adgyfodiad Mawr.'

Llyfryddiaeth

golygu

Gwaith Ellis Wynne

golygu

Cafwyd sawl argraffiad o'r Gweledigaethau, e.e. gan D. Silvan Evans (Caerfyrddin, 1842, 1865)[1] a Syr John Morris-Jones (Bangor, 1898). Y diweddaraf yw:

  • Gweledigaethau y Bardd Cwsc, gol. Aneirin Lewis (Gwasg Prifysgol Cymru, 1960)
  • Rheol Buchedd Sanctaidd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1928)
  • Ceir testun hwylus o'r gerdd "Gadel Tir" yn Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg gol. Thomas Parry.

Llyfryddiaeth

golygu
  • R. M. Jones, Angau Ellis Wynne (Aberystwyth, 1968)
  • Gwyn Thomas, 'Ellis Wynne, y Lasynys' yn Gwŷr Llên y Ddeunawfed Ganrif (Llandybïe, 1966)
  • Gwyn Thomas, Y Bardd Cwsg a'i Gefndir (Caerdydd, 1971). Astudiaeth gynhwysfawr.
  • Gwyn Thomas, Ellis Wynne (Cyfres Writers of Wales, 1984)
  • Gwyn Thomas, 'Gweledigaethau y Bardd Cwsg: The Visions of the Sleeping Bard (1703)'. Zeitschrift für celtische Philologie 52 (2001): 200–10.

Cyfeiriadau

golygu