Estrys

rhywogaeth o adar
Estrys
Amrediad amseryddol: Pleistosen–presennol
Ceiliog (chwith) a iâr (de), Penrhyn Gobaith Da, De Affrica.
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Struthioniformes
Teulu: Struthionidae
Genws: Struthio
Rhywogaeth: S. camelus
Enw deuenwol
Struthio camelus
Linnaeus, 1758
Dosbarthiad yr is-rywogaethau

Aderyn dihediad, buandroed a mwyaf y byd yw'r estrys (Struthio camelus), sy'n perthyn i urdd o adar a elwir yn Struthioniformes. Mae'r oedolyn yn 2.5 medr o daldra ac mae'n pwyso 115 cilogram.[1] Mae ganddo wddf noeth hir a choesau hir ac mae gan ei draed ddau fys. Mae'n methu hedfan ond mae'n gallu rhedeg yn gyflym iawn.[1] Mae'r gwryw'n ddu gydag esgyll gwyn a chynffon wen; mae plu'r fenyw'n llwydfrown.[2]

Mae'r estrys yn bwydo ar weiriau, hadau, ffrwythau a dail.[1] Fe'i ceir mewn safana a lled-anialwch yn Affrica.[1] Ystyrir yr is-rywogaeth S. c. molybdophanes (estrys Somalia) o Gorn Affrica yn rhywogaeth wahanol gan rai dacsonomyddion.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Christopher Perrins, gol., The New Encyclopedia of Birds (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2004).
  2. Ian Sinclair a Peter Ryan, Birds of Africa South of the Sahara (Tref y Penrhyn: Struik, 2003).
  3. Kathryn Hennessey a Victoria Wiggins, gol., The Natural History Book (Llundain: Dorling Kindersley, 2010).
  Safonwyd yr enw Estrys gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.


Dolenni allanol golygu

 
Ŵy estrys
  Eginyn erthygl sydd uchod am aderyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.