Rhydymain

pentref yng Ngwynedd
(Ailgyfeiriad o Rhyd-y-main)

Pentref yn ne Gwynedd yw Rhydymain ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif i'r gogledd-ddwyrain o dref Dolgellau ac i'r dwyrain o bentref Llanfachreth, ar y briffordd A494 ym Meirionnydd. Mae afon Wnion yn llifo heibio'r pentref a bryn uchel Rhobell Fawr i'r gogledd. I'r dwyrain o'r pentref mae copaon Aran Fawddwy ac Aran Benllyn.

Rhydymain
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBrithdir a Llanfachreth Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.786803°N 3.773396°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Ceir ysgol gynradd, Ysgol Ieuan Gwynedd, yma, wedi ei henwi ar ôl Ieuan Gwynedd (1820 - 1852), oedd yn frodor o'r ardal.

Yr afon ger llaw

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato