Cadel Evans
Seiclwr proffesiynol o Awstralia ydy Cadel Lee Evans (ganed 14 Chwefror 1977), sydd yn cynyrchioli tîm UCI ProTeam BMC ar y hyn o bryd. Ef oedd enillydd Awstralaidd cyntaf erioed y UCI ProTour yn 2007, enillydd Awstralaidd cyntaf erioed Pencampwriaeth Rasio Ffordd y Byd, UCI yn 2009, ac enillydd Awstralaidd cyntaf erioed y Tour de France yn 2011. Cyn dechrau rasio ar y ffordd yn 2001, roedd Evans yn bencampwr beicio mynydd.[1]
Evans ar y llwyfan yng nghyflwyniad Tour de France 2010 | |
Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Cadel Lee Evans |
Llysenw | Cuddles |
Dyddiad geni | 14 Chwefror 1977 |
Taldra | 1.74 m |
Pwysau | 67 kg |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Ffordd |
Rôl | Reidiwr |
Math seiclwr | Cyffredinol |
Tîm(au) Amatur | |
Tîm(au) Proffesiynol | |
2001 2002 2003–2004 2005–2009 2010– |
Volvo-Cannondale (MTB) Saeco Macchine per Caffè Mapei-Quick Step Team Telekom Davitamon-Lotto BMC Racing Team |
Prif gampau | |
Grand Tours
Cymalau
Clasuron un dydd
| |
Golygwyd ddiwethaf ar 25 Gorffennaf 2011 |
Ar hyn o bryd mae'n byw yn Barwon Heads, ger Melbourne yn Victoria, Awstralia, ac yn ystod y tymor rasio yn Stabio, y Swistir.
Bywgraffiad
golyguBywyd cynnar
golyguGaned Cadel ar 14 Chwefror 1977 yn Ysbyty Katherine, Katherine, yn Nhiriogaeth Gogleddol Awstralia, yn fab i Helen Cocks, rheolwraig banc, a Paul Evans, fforman y cyngor. Roedd hen daid Evans yn Gymro, a chafodd yr "Cadel" ar ôl tri o Frenhinoedd Cymru o'r enw Cadell.[2]
Bu'n byw yn Upper Corindi, (i'r gogledd o Coffs Harbour) Armidale, De Cymru Newydd ac yn ddiweddarach yn Plenty-Kangaroo Ground-Arthurs Creek, Victoria. Tra'n byw yn Armidale, mynychodd Newling Public School. Symudodd i Victoria pan oedd yn ei arddegau cynnar. Derbyniodd ei addysg VCE (Tystysgrif blwyddyn 12) yn Ysgol Uwchradd Eltham, Melbourne.[3]
Roedd ganddo ddiddordeb mewn nofio, pêl-droed a chriced pan oedd yn ifanc, ond mae Evans ei hun yn credu ei fod yn rhyfedd iddo ddarfod i fyny yn athletwr proffesiynol gan nad oedd siap ei gorff yn gweddu gyda'r rhan helaeth o chwaraeon ysgol Awstralia a oedd yn galw am gryn faint neu gryfder. Dechreuodd seiclo yn gystadleuol ym 1991, gan gystadlu mewn cyclo-cross a beicio mynydd. Dywedodd Evans mai ei fywyd cynnar yn tyfy i fyny yn Armidale, De Cymru Newydd, a'r ysbrydoliaeth ar gyfer ei yrfa seiclo. Rhoddodd uchder y ddinas fantais cynnar i Evans wrth gystadlu.
Yn 1994, ar awgrym ei hyfforddwr Damian Grundy, dechreuodd gystadlu mewn rasus cylchffordd a rasus ffordd er mwyn helpu gwella ei feicio mynydd. Dechreuodd ei yrfa seiclo rhyngwladol fel aelod o dîm beicio mynydd yr Australian Institute of Sport, odan arweiniaeth y hyfforddwr Heiko Salzwedel a Damien Grundy. Enillodd Evans fedalau efydd ym Mhencampwriaeth Treial Amser Iau a Beicio Mynydd Iau y Byd ym 1995, a medalau arian ym Mhencampwriaeth Beicio Mynydd Odan-23 y Byd yn 1997 ac 1999.
Wedi ymgynghori gyda Michele Ferrari ac odan reolaeth Tony Rominger, newidiodd Evans i gystadlu ar y ffordd yn llawn amser yn ystod haf 2000.[4]
2001–2005
golyguErs troi aty ffordd yn llawn amser, mae Evans wedi reidio dros dimau Saeco (2001), Mapei (2002) a Team Telekom (2003–2004). Yn 2005 ymunodd â Davitamon-Lotto a daeth yn wythfed ar ei dro cyntaf yn cystadlu yn y Tour de France, y reidiwr Awstralaidd cyntaf i orffen yn y deg uchaf ers Phil Anderson.
Roedd ei fuddugoliaethau cynnar yn cynnwys Tour Awstria yn 2001 a 2004, pumed yn y Deutschland Tour yn 2005, cymal o'r Tour Down Under yn 2002, dosbarthiad y mynyddoedd y Tour Down Under yn 2006, 14ydd yn Giro d'Italia 2002, a gwisgodd crys yr arweinydd, y Maglia Rosa mewn un cymal, a threial amser Gemau'r Gymanwlad yn 2002.
2006
golyguEnillodd Evans y Tour de Romandie, gan guro'r Sbaenwyr Alberto Contador ac Alejandro Valverde ar y gymal olaf, sef treial amser 20 km o amgylch Lausanne.
2007
golyguYn Tour de France 2007, gorffenodd Evans yn ail i Contador. Enillodd dreial amser cymal 13 ac yn ail yn nhreial amser cymal 19. Bu'n bedwerydd yn Vuelta a España 2007, pumed ym Mhencampwriaethau'r Byd a chweched yn ras derfynol y gyfres UCI ProTour, sef y Giro di Lombardia, gan gipio'r fuddugoliaeth yn yr UCI ProTour 247 o bwyntiau o flaen Davide Rebellin ac Alberto Contador.
Yn 2006 a 2007, enwyd yn Seiclwr Awstralaidd y Flwyddyn.
2008
golyguEvans oedd y ffefryn i ennill Tour de France 2008, gan nad oedd tîm Contador, sef Team Astanawedi cae leu gwahodd i'r ras. Deliodd Evans y crys melyn o gymal 10 hyd 14. Ond, yn ystod esgyniad Alpe d'Huez ar gymal 17, cymerodd Carlos Sastre o Team CSC y blaen gan gipio 2 munud a 15 eiliad oddiar Evans. Erbyn y treial amser, roedd angen i Evans reidio 1 munud a 34 eiliad yn gynt na Sastre. Curodd Sastre a neidiodd i'r ail safle, ond roedd dal 58 eiliad tu ôl iddo erbyn diwedd y Tour.
Dioddefodd rwyg iw tennyn cruciate blaen,[5] ond wedi gwella, cystadlodd Evans yn ras ffordd 245 km Gemau Olympaidd yr Haf 2008 yn Beijing, gan orffen yn 15fed safle, 22 eiliad tu ôl i Samuel Sánchez.[6] Daeth yn bumed yn y treial amser Olympaidd pedair diwrnod yn ddiweddarach.
2009
golyguAmharwyd ar ymdrechion Evans yn Tour de France 2009 gan ddiffyg cefnogaeth gan ei dîm a diffyg siap da, a llwyddodd ond i orffen yn y 30fed safle, 45 munud tu ôl i'r enillydd, Alberto Contador. Er y siomedigaeth hyn, cafodd fuddugoliaethau yn y Critérium du Dauphiné Libéré a'r Settimana Internazionale Coppi e Bartali.
Daeth yn drydydd yn y Vuelta a España, lle gwisgodd crys aur yr arweinydd yn ystod un cymal, ond fe ddioddefodd trafferthon mecanegol yn ystod esgyniad i ddiwedd cymal ar fynydd Sierra Nevada. Gyda hyn, daeth Evans yn un o'r seiclwyr Awstralaidd mwyaf llwyddiannus, wedi iddo gael dau safle ar y podiwm yn y Tour de France. Daeth yn un o ychydig reidwyr sydd wedi dal y tri crys; y Maglia Rosa, crys arweinydd y Giro d'Italia yn 2002, crys melyn Tour de France am 4 diwrnod yn 2008, a chrys aur arweinydd y Vuelta a España yn 2009.
Enillodd Evans Bencampwriaeth Ras Ffordd y Byd yn Mendrisio, y Swistir ar 27 Medi. Wedi iddo dod yn bencampwr y byd, edrychai fel petai wedi taflu ei hun i mewn i gefnogi ei gyd-aelod tîm, Philippe Gilbert. Credai nifer fod hyn yn arwydd fod y berthynas rhwng ef a Silence-Lotto wedi gwella. Ond, ar ôl diwedd tymor rasio 2009, roedd llawer o ddyfalu yn y wasg, y byddai Evans yn chwilio am dîm newydd i'w gefnogi ar gyfer Tour 2010. Datganwyd ar 31 Hydref ei fod yn gadael y tîm i ganfod sialensau newydd.[7]
Cyhoeddwyd bywgraffiad, Cadel Evans: Close To Flying, gan Hardie Grant Books ym mis Tachwedd 2009.[8]
2010
golyguSymudodd Evans i dîm BMC yn 2010.[9] Dilynodd llwyddiant yn fuan wedyn, gyda buddugoliaeth yn y 2010 Flèche Wallonne, a deliodd y Maglia Rosa wedi cymal 2 Giro d'Italia 2010. Enillodd Evans gymal 7 y Giro d'Italia gan sbrintio oddiar blaen grŵp bach o reidwyr. Gorffennodd yn 5ed yn y dosbarthiad cyffredinol, gan ennill dosbarthiad pwytiau'r Maglia Rosso Passione a dosbarthiad Azzurri d'Italia. Deliodd Evans hefyd y crys melyn yn ystod cymal 9 Tour de France 2010, a hynnu wrth reidio gyda toriad trwch blewyn yn ei benelin chwith, a gafodd yn ystod damwain yn y cymal gynt. Collodd llawer o amser i'r arweinwyr yn ystod cymal 9, a collodd y crys melyn a'r cyfle i gystadlu o ddifrif am y fuddugoliaeth cyffredinol. Gorffennoff yn y 26ed safle, 50 munud a 27 eiliad tu ôl i Alberto Contador.[10]
2011
golyguCafodd Evans gychwyn gwell i dymor rasio 2011, gan ennill cymal 6 a dosbarhiad cyffredinol y Tirreno–Adriatico, a dosbarthiad cyffredinol Tour de Romandie, mae'r ddau yn ffurfio rhan o gyfres UCI World Tour 2011. Ni gystadlodd yn y Giro d'Italia, gan ddewis yn hytrach i baratoi ar gyfer Tour de France 2011 drwy gystadlu yn y Criterium du Dauphine lle gorffennodd yn ail. Daeth Evans yn drydydd yng nghymal cyntaf y Tour, ac enillodd gymal 4, yr ail ffuddugoliaeth mewn cymal o'r Tour de France yn ei yrfa.[11] Arweiniodd gystadleuaeth brenin y mynyddoedd am un diwrnod wedi cymal 4, a gwisgodd y crys melyn wedi cymal 20 a 21. gan ddod y reidiwr Awstralaidd cyntaf erioed i ennill y Tour de France.[12]
Bywyd personol
golyguMae'n briod i Chiara Passerini, pianydd ac athrawes cerdd Eidalaidd. Cyfarfont ar ddiwedd 2002, wedi iddi gael ei chyflwyno iddo gan ffrind i'w thad.
Yn 2008, gwisgodd Evans grys isaf gyda Baner Tibet i gefnogi rhyddid dros Tibet.[13][14] Dywedodd:
- "Trying to bring awareness of the Tibet movement is something someone in my position can do. I just feel really sorry for them. They don't harm anyone and they are getting their culture taken away from them. I don't want to see a repeat of what happened to Aboriginal culture [in Australia] happen to another culture."[14]
Canlyniadau
golygu- 1993
- 1af Pencampwr Beicio Mynydd Traws Gwlad Awstralia – Odan 17
- 1994
- 1af Pencampwr Beicio Mynydd Traws Gwlad Awstralia – Odan 19
- 2il Pencampwr Beicio Mynydd Traws Gwlad y Byd – Odan 19
- 1995
- 3ydd Pencampwr Beicio Mynydd Traws Gwlad y Byd – Odan 19
- 3ydd Pencampwr Treial Amser y Byd – Iau
- 1996
- 1af Pencampwr Beicio Mynydd Traws Gwlad Awstralia
- 3ydd Pencampwr Beicio Mynydd Traws Gwlad y Byd – Odan 23
- 9fed Ras Beicio Mynydd Gemau Olympaidd yr Haf 1996
- 1997
- 1af Pencampwr Beicio Mynydd Traws Gwlad Awstralia
- 2il Pencampwr Beicio Mynydd Traws Gwlad y Byd – Odan 23
- 1998
- 1af Cyfres Cwpan y Byd Beicio Mynydd
- 1999
- 1af Tour Tasmania
- 1af Cymal 3
- 1af Cystadleuaeth reidiwr ifanc Tour Down Under
- 1af Cyfres Cwpan y Byd Beicio Mynydd
- 2il Pencampwr Beicio Mynydd Traws Gwlad y Byd – Odan 23
- 2000
- 7fed Ras Beicio Mynydd Gemau Olympaidd yr Haf 2000
- 2001
- 1af Tour Awstria
- 2il Pencampwriaethau Ras Gyfnewid Beicio Mynydd y Byd
- 2002
- 1af Treial amser unigol Gemau'r Gymanwlad 2002
- 1af Cymal 5 Tour Down Under
- 1af Stage 1 Settimana Ciclistica Internazionale
- 1af Stage 4 International UNIQA Classic
- 2il Ras ffordd Gemau'r Gymanwlad 2002
- 3ydd Tour de Romandie
- 14ydd Giro d'Italia
- 2003
- 1af Brenin y Mynyddoedd, Tour Down Under
- 2004
- 1af Tour Awstria
- 1af Cymal 2
- 2005
- 1af Cymal 7 Deutschland Tour
- 8fed Tour de France
- 4ydd Cymal 16
- 2006
- 1af Tour de Romandie
- 1af Cymal 5
- 1af Brenin y Mynyddoedd, Tour Down Under
- 4ydd Tour de France
- 7fed Tour of California
- 2007
- 1af Cyfres UCI ProTour
- 1af Cymal 2, Treial Amser Unigol, Ras Brawf Beijing 2008
- 1af Cymal 1b, Treial Amser Tîm Settimana Ciclistica Internazionale Coppi-Bartali
- 2il Tour de France
- 1af Cymal 13
- 2il Critérium du Dauphiné Libéré
- 4ydd Vuelta a España
- 4ydd Tour de Romandie
- 6ed Giro di Lombardia
- 2008
- 1af Settimana internazionale di Coppi e Bartali
- 1af Cymal 3
- 1af Cymal 4 Paris–Nice
- 2il Tour de France
- 2il La Flèche Wallonne
- 2il Critérium du Dauphiné Libéré
- 3ydd Vuelta a Andalucía
- 1af Cymal 2
- 7fed Liège–Bastogne–Liège
- 2009
- 1af Pencampwr Ras Ffordd y Byd, UCI
- 2il Settimana internazionale di Coppi e Bartali
- 1af Cymal 5
- 2il Critérium du Dauphiné Libéré
- 3ydd Vuelta a España
- Dal Jersey Oro Cymal 8
- Dal Maillot Combinada o gymal 8–11
- 4ydd Vuelta al País Vasco
- 5ed La Flèche Wallonne
- 2010
- 1af La Flèche Wallonne
- 3ydd Tirreno–Adriatico
- 5ed Giro d'Italia
- 1af Cymal 7
- 1af Dosbarthiad bwyntiau
- 1af Dosbarthiad bwyntiau Azzurri d'Italia
- Dal Maglia Rosa Cymal 2
- 4ydd Liège–Bastogne–Liège
- 6ed Tour Down Under
- Tour de France
- 2011
- 1af Tour de France
- 1af Cymal 4
- Dal y Crys dot polca o gymal 4–5
- 1af Tirreno–Adriatico
- 1af Cymal 6
- 1af Tour de Romandie
- 2il Critérium du Dauphiné
- 8fed Volta a Catalunya
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Aussie Evans wins road race title. BBC Sport (27 Medi 2009). Adalwyd ar 28 Medi 2009.
- ↑ (10 Gorffennaf 2009) Golwg, Cyfrol 21, Rhifyn 43
- ↑ About Cadel. Cadel Evans. Adalwyd ar 7 Mai 2011.
- ↑ Evans first meets Ferrari. Michele Ferrari (23 Gorffennaf 2011).
- ↑ Robert Lusetich (14 Awst 2008). Fearless Cadel Evans fails to stand the test of time. The Australian.
- ↑ Leo Schlink (9 Awst 2008). Australian cyclist Michael Rogers narrowly misses medal in Olympic road race. The Australian.
- ↑ Evans To Leave Silence-Lotto. Cycling News (31 Hydref 2009).
- ↑ (2009) Cadel Evans: Close To Flying (clawr caled), Hardie Grant Books, tud. 272. ISBN 978-1740666671
- ↑ Cyclingnews.com (1 Hydref 2009). BMC confirms Evans signing. Cycling News. Adalwyd ar 1 Hydref 2009.
- ↑ www.letour.fr. Tour de France – 2010. AMAURY SPORT ORGANISATION. Adalwyd ar 17 Medi 2010.
- ↑ Cadel Evans denies Alberto Contador on stage four. The Guardian (5 Gorffennaf 2011). Adalwyd ar 5 Gorffennaf 2011.
- ↑ Rupert Guinness (24 Gorffennaf 2011). Awesome Evans destroys rivals to claim tour. The Sydney Morning Herald. Adalwyd ar 24 Gorffennaf 2011.
- ↑ Cadel Evans support Free Tibet (2008).
- ↑ 14.0 14.1 Photo of Cadel Evans with Flag of Tibet. Phayul.com (22 Gorffennaf 2008).
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol cadelevans.com.au Archifwyd 2015-02-27 yn y Peiriant Wayback
- Proffil ar wefan Cycling Federation Archifwyd 2012-11-28 yn archive.today
- Cyfweliad Cyclingnews.com 2005
- Proffil reidiwr ar wefan swyddogol Tour de France 2006
- Cyfweliad VeloNews.com, Evans regains maglia rosa, eight years later[dolen farw]