Front Line Defenders
Mae Front Line Defenders (Amddiffynwyr y Rheng Flaen), neu'r Sefydliad Rhyngwladol er Diogelu Amddiffynwyr Hawliau Dynol, yn sefydliad hawliau dynol o Iwerddon a sefydlwyd yn Nulyn, Iwerddon yn 2001 i amddiffyn y rhai sy'n gweithio'n ddi-drais i gynnal hawliau dynol eraill fel yr amlinellir yn y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol.
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad anllywodraethol, sefydliad di-elw |
---|---|
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon |
Dechrau/Sefydlu | 2001 |
Pencadlys | Blackrock |
Gwladwriaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Rhanbarth | Dulyn |
Gwefan | https://www.frontlinedefenders.org/, http://3g2wfrenve2xcxiotthk4fcsnymzwfbttqbiwveoaox7wxkdh7voouqd.onion/, https://www.frontlinedefenders.org/zh |
Hanes
golyguFe'i sefydlwyd gan Mary Lawlor, cyn gyfarwyddwr Adran Iwerddon o Amnest Rhyngwladol gyda rhodd o US$3 miliwn gan ddyn busnes a dyngarwr Denis O'Brien. Mae gan Amddiffynwyr y Rheng Flaen Statws Ymgynghorol Arbennig gyda Chyngor Economaidd a Chymdeithasol y Cenhedloedd Unedig, ac mae ganddynt Statws Sylwedydd gyda Chomisiwn Affrica ar Hawliau Dynol.
Yn 2006 sefydlodd Amddiffynwyr Rheng Flaen swyddfa Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel.
Derbyniodd Amddiffynwyr y Rheng Flaen Wobr Datblygu Rhyngwladol y Brenin Baudouin yn 2007 a Gwobr y Cenhedloedd Unedig ym Maes Hawliau Dynol yn 2018. Ar 3 Gorffennaf 2014, cyflwynwyd Urdd Chevalier y Lleng er Anrhydedd i Lawlor gan Lysgennad Ffrainc i Iwerddon, Mr Jean-Pierre Thebault, ar ran llywodraeth Ffrainc.
Nod cyffredinol Amddiffynwyr Rheng Flaen yw galluogi amddiffynwyr hawliau dynol, fel asiantau newid cymdeithasol, i barhau â'u gwaith heb y risg o aflonyddu, bygwth neu arestio.
Gwaith nodedig
golyguPalesteina
golyguYn Hydref 2021, canfu Amddiffynwyr y Rheng Flaen dystiolaeth bod dinasyddion Palesteinaidd a oedd yn perthyn i grwpiau hawliau dynol a oedd wedi’u gwahardd gan Israel, wedi’u targedu gan ysbïwyr o gwmni technoleg Israelaidd, NSO Group[1][2]
Ar 18 Awst 2022, ysbeiliodd lluoedd diogelwch Israel swyddfeydd chwe sefydliad cymdeithas sifil Palestina a ddynodwyd yn “grwpiau terfysgol” o dan ei Gyfraith Gwrthderfysgaeth, 2016. Atafaelu eiddo a dogfennau, argraffwyr a chyfrifiaduron a chyhoeddwyd gorchmynion cau yn erbyn y sefydliadau. Roedd hyn yn dilyn symudiad llywodraeth Israel yn 2021.[3] Ar 12 Gorffennaf 2022, cadarnhaodd 10 o wladwriaethau Ewropeaidd eu cefnogaeth i’r sefydliadau a dargedwyd oherwydd y diffyg tystiolaeth gan Israel a fyddai’n cyfiawnhau adolygu eu polisi tuag at y chwe chorff anllywodraethol ym Mhalestina. Yn ôl FLD:
“ | Mae Amddiffynwyr y Rheng Flaen yn condemnio’n gryf y cyrchoedd, y cau a’r dynodiadau o "derfysgaeth" a ddygwyd yn erbyn y sefydliadau hawliau dynol Palesteinaidd hyn a'u gwaith heddychlon dros hawliau dynol. Nid terfysgwyr yw amddiffynwyr hawliau dynol. Mae'r datblygiad hwn yn ddatblygiad difrifol o bolisïau ac arferion systematig Israel gyda'r bwriad o dawelu amddiffynwyr hawliau dynol Palestina, sy'n ceisio cyfiawnder ac atebolrwydd gan i Israel dorri hawliau dynol Palestiniaid. Mae’r ymosodiad hwn (gan Israel) hefyd yn rhoi dyfodol plant, hawliau menywod, hawliau carcharorion a’r hawl i ddogfennu troseddau hawliau dynol mewn perygl sylweddol.[4] | ” |
Ysbïwedd Pegasus
golyguWedi'i ddatblygu gan gwmni ysbïo Israel, sef yr NSO Group, mae ysbïwedd Pegasus yn galluogi mynediad cudd i ddyfais megis ffôn a thynnu data ohoni, gan gynnwys negeseuon testun, e-byst, cyfryngau (fideo, lluniau, sain), meicroffon, camera, cyfrineiriau, galwadau llais ar apiau negeseuon, data lleoliad, log galwadau, a chysylltiadau. Gall yr ysbïwedd hefyd weithio camera'r ffôn a'r meicroffon, i wrando ac edrych ar alwadau a gweithgareddau defnyddiwr y ddyfais.
Datgelodd ymchwiliad gan Front Line Defenders i weithred o hacio hawliau dynol dwy fenyw amddiffynwyr (WHRDs) o Bahrain a Gwlad yr Iorddonen drwy ddefnyddio ysbïwedd Pegasus. Rhwng Tachwedd a Rhagfyr 2021, bu Amddiffynwyr y Rheng Flaen yn gweithio yn Bahrain a Gwlad Iorddonen trwy ei raglen 'Diogelu Digidol', a roddodd gefnogaeth ymarferol i amddiffynwyr hawliau ledled y byd. Bu Amddiffynwyr y Rheng Flaen yn dadansoddi dyfeisiau gyda chymorth gan The Citizen Lab a Labordy Diogelwch Amnest Rhyngwladol ar gyfer dilysu targedu Pegasus.[5] Archwiliodd ymchwilwyr y Front Line Defenders dyfais symudol yr amddiffynnwr hawliau dynol Bahraini Ebtisam Al-Saegh, a chanfod bod ei iPhone wedi cael ei hacio o leiaf wyth gwaith rhwng Awst a Thachwedd 2019 gydag ysbïwedd Pegasus.
Ar 26 Mai 2017, galwodd Asiantaeth Diogelwch Cenedlaethol Bahrain hi i orsaf heddlu Muharraq. Cafodd ei cham-drin yn eiriol, ei churo'n gorfforol ac ymosodwyd arni'n rhywiol; fe'i bygwthwyd y caiff ei threisio os na fyddai'n atal ei hymgyrch dros hawliau dynol. Wedi ei rhyddhau aethpwyd â hi ar unwaith i'r ysbyty agosaf.
Archwiliodd Amddiffynwyr y Rheng Flaen hefyd ffôn cyfreithiwr hawliau dynol yng Ngwlad Iorddonen, sef Hala Ahed Deeb, gan ddarganfod bod ei dyfais wedi’i heintio ag ysbïwedd Pegasus ers mis Mawrth 2021. Cafodd ffôn Hala Deeb ei hacio gan Pegasus ar Fawrth 16, 2021. Cafwyd tystiolaeth o brosesau sy'n gysylltiedig â Phegasus ar ei ffôn, gan gynnwys “bluetoothfs,” “JarvisPluginMgr,” a “launchafd.” Mae Labordy Diogelwch Amnest Rhyngwladol a The Citizen Lab yn priodoli’r prosesau enwau hyn i ysbïwedd Pegasus Grŵp NSO.
Gwobr Amddiffynwyr y Rheng Flaen i Amddiffynwyr Hawliau Dynol Mewn Perygl
golyguYn 2005 sefydlwyd y wobr hon, sydd yn ôl gwefan y sefydliad yn cael ei dyfarnu i amddiffynnwr hawliau dynol "sydd, trwy waith di-drais, yn gwneud cyfraniad rhagorol, dewr i hyrwyddo a diogelu hawliau dynol eraill, yn aml lle ceir yr elfen o risg iddyn nhw eu hunain”. Mae'r wobr yn dod â sylw rhyngwladol i achos y derbynnydd, a gwobr ariannol o 15,000 ewro.
Mae derbynwyr y wobr hon ers ei sefydlu fel a ganlyn: [6]
- 2005 - Mudawi Ibrahim Adam, Swdan
- 2006 - Ahmadjan Madmarov, Wsbecistan
- 2007 - Gégé Katana, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo
- 2008 - Anwar al-Bunni, Syria
- 2009 - Yuri Melini, Guatemala
- 2010 - Soraya Rahim Sobhrang, Afghanistan
- 2011 - Grŵp Symudol ar y Cyd, Ffederasiwn Rwsia
- 2012 - Razan Ghazzawi, Syria
- 2013 - Biram Dah Abeid, Mauritania
- 2014 - SAWERA - Cymdeithas Arfarnu a Grymuso Menywod mewn Ardaloedd Gwledig, Pacistan
- 2015 - Guo Feixiong, llysenw Yang Maodong, China [7]
- 2016 - Ana Mirian Romero, Honduras
- 2017 - Emil Kurbedinov, Crimea [8]
- 2018 - Nurcan Baysal, Twrci
- 2019 - Badr Baabou, Tiwnisia
- 2020 - Affrica: Mekfoula Mint Brahim, Mawritania
- - Americas: Guardia Indígena del Cauca, Colombia
- - Asia: Juwairiya Mohideen, Sri Lanca
- - Ewrope a Chanol Asia: Lara Aharonian, Armenia
- - Y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica: Fatima Al-Bahadly, Irac
- 2021 - Affrica: Aminata Fabba, Sierra Leone
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Kingsley, Patrick; Bergman, Ronen (8 November 2021). "Palestinians Were Targeted by Israeli Firm's Spyware, Experts Say". The New York Times. Cyrchwyd 8 November 2021.
- ↑ Srivastava, Mehul (8 November 2021). "EU-funded West Bank activists hacked by Pegasus spyware, says rights group". Financial Times. Cyrchwyd 8 November 2021.
- ↑ [https://www.frontlinedefenders.org/en/statement-report/statement-opt-israel-raids-and-closures-seven-palestinian-human-rights-organisations frontlinedefenders.org; adalwyd 2 Medi 2022
- ↑ [https://www.frontlinedefenders.org/en/statement-report/statement-opt-israel-raids-and-closures-seven-palestinian-human-rights-organisations frontlinedefenders.org; adalwyd 2 Medi 2022
- ↑ frontlinedefenders.org; adalwyd 2 Medi 2022.
- ↑ "The Front Line Defenders Award for Human Rights Defenders at Risk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 15, 2016. Cyrchwyd 2016-03-12. Front Line Defenders.
- ↑ Thoolen, Hans (12 September 2015). 2015 Front Line Defenders Award to Chinese Guo Feixiong (Yang Maodong) Hans Thoolen on Human Rights Defenders. Retrieved 12 March 2016.
- ↑ Sorcha Pollak, Crimean Tatar lawyer honoured at Dublin ceremony, Irishtimes.com, 26 May 2017