Deio ab Ieuan Du

bardd

Roedd Deio ab Ieuan Du (fl. tua 1450 - 1480) yn fardd o blwyf Llangynfelyn, Ceredigion. Roedd yn gyfaill i'r bardd Dafydd Nanmor. Fe'i cofir yn bennaf heddiw fel awdur y cywydd sy'n cynnwys y llinell gyfarwydd "Y ddraig goch ddyry cychwyn."

Deio ab Ieuan Du
GanwydLlangynfelyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1460 Edit this on Wikidata

Ei hanes

golygu

Ychydig a wyddys am fywyd y bardd ar wahân i'r dystiolaeth a geir yn ei gerddi. Mae'n bosibl iddo gael ei eni yn y 1410au ac ymddengys iddo farw tua 1480-1485. Cafodd ei gladdu ym mhlwyf Llangynfelyn, yn ardal Genau'r Glyn (rhwng Machynlleth ac Aberystwyth ar lan ddeheuol afon Dyfi).

Cysylltir Deio â Dafydd Nanmor, un o'r enwocaf o Feirdd yr Uchelwyr. Canodd y ddau i aelodau o deulu'r Tywyn, Meirionnydd, noddwyr pwysig yn y cyfnod hwnnw. Bu Deio ar sawl taith clera yng Ngheredigion a chanodd i noddwyr amlycaf y sir honno.

Cerddi

golygu

Cedwir 22 o gerddi y gellir eu derbyn yn bur hyderus fel gwaith dilys y bardd. Yn ogystal ceir pum cerdd o awduraeth ansicr a dadogir arno. Cywyddau mawl yw'r rhan fwyaf o'r cerddi, ond ceir yn ogystal ddwy awdl ddychan a sawl englyn. Mae gwrthrychau'r cywyddau mawl yn cynnwys Rhys ap Maredudd o'r Tywyn, Gruffudd Fychan o Gorsygedol, a Maredudd ap Llywelyn o Enau'r Glyn. Yn ei gywydd i'r olaf mae'r bardd yn ei gyfarch ar ôl iddo ddianc o long yn cludo gwin o Ffrainc a suddodd yn aber afon Dyfi gan foddi saith allan o'r deg o wŷr ar ei bwrdd.

Daw'r llinell enwog am y Ddraig Goch mewn cywydd i ddiolch i Siôn ap Rhys o Aberpergwm (Glyn Nedd) am darw coch; y tarw yw'r "ddraig" (trosiad am ryfelwr). Mae'n gerdd sy'n amlygu llygad y bardd am natur ac sy'n llawn o ddelweddau difyr. Dyma'r cwpled llawn am y "ddraig" (a'r fuwch sy'n ei disgwyl) sy'n dangos fel y cafodd y llinell enwog ei thynnu allan o'i gyd-destun:

Y ddraig goch ddyry cychwyn
Ar ucha'r llall ar ochr llwyn.

Llyfryddiaeth

golygu
  • A. Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992)