Geraint Lloyd Owen
Bardd Cymraeg yw Geraint Lloyd Owen (ganwyd 15 Mai 1941),[1] a enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011. Mae'n gyn-brifathro ac yn frawd i'r bardd Gerallt Lloyd Owen. Mae'n enedigol o'r Sarnau, ger y Bala.
Geraint Lloyd Owen | |
---|---|
Ganwyd | 15 Mai 1941 Sarnau |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor, bardd, cyhoeddwr |
Yng Ngorffennaf 2015 cyhoeddwyd mai Geraint fyddai Archdderwydd Cymru am y cyfnod 2016-19, gan ddilyn Christine James.
Bywgraffiad
golyguCafodd ei eni mewn ffermdy rhwng Llandderfel a'r Sarnau, Meirionnydd, cyn symud i hen gartref ei fam ym mhentre'r Sarnau. Aeth i'r ysgol leol ac yna i Ysgol Tŷ-tan-domen, Y Bala ac yna i Goleg yr Heath, Caerdydd, lle cafodd ei hyfforddi fel athro. Bu'n athro yn Ysgol Uwchradd Machynlleth. Enillodd nifer o gadeiriau eisteddfodol, gan gynnwys cadeiriau Pontrhydfendigaid, Llanbedr Pont Steffan, Gŵyl Fawr Aberteifi, Powys a'r Urdd. Bu'n bennaeth Ysgol y Ffôr, Pwllheli, ac Ysgol Treferthyr, Cricieth, cyn iddo ymddeol yn gynnar er mwyn rhedeg Siop y Pentan yng Nghaernarfon. Mae'n Bennaeth Cyhoeddi i Wasg y Bwthyn.
Enillodd y Goron yn Eisteddfod Wrecsam a'r Fro 2011 am ddilyniant o gerddi ar y testun 'Gwythiennau', a dywedodd un o'r beirniaid, Gwyn Thomas, wrth draddodi'r feirniadaeth bod y cerddi hyn "... yn rymus iawn, yn fedrus iawn, yn eglur ac yn dra diddorol."
Cyfnod fel Archdderwydd
golyguWrth arwain seremoniau'r Brifwyl, roedd ganddo arddull ysgafnach na rhai o'i ragflaenwyr gan arwain at feirniadaeth ohono ar y cyfryngau cymdeithasol, er fod eraill yn mwynhau yr arddull hwyliog.[2][3][4][5][6] Yn ystod seremoni'r Coroni yn Eisteddfod Caerdydd 2018 gwnaeth sylw dadleuol gan ddweud am yr enillydd, Catrin Dafydd, "Fasa hi ddim yn gallu gwneud dim byd heb y dynion 'da chi'n gweld, ynde", yn cyfeirio at y gefnogaeth roedd wedi cael gan ei chariad. Yn dilyn beirniadaeth o'r sylw fe ymddiheurodd y diwrnod wedyn.[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Manylion Cyfarwyddwr Gwasg Y Bwthyn.
- ↑ Miriam Elin Jones (8 Awst 2016). Eisteddfod Sir Fynwy 2016. Adalwyd ar 12 Awst 2018.
- ↑ Twitter - Esyllt Mair
- ↑ Twitter - Dafgog
- ↑ Twitter - Nia Goode
- ↑ Twitter - Gwallt brown
- ↑ Geraint Lloyd Owen yn ymddiheuro am sylwadau y Coroni , BBC Cymru Fyw, 7 Awst 2018. Cyrchwyd ar 12 Awst 2018.