Gwobr Glyndŵr

(Ailgyfeiriad o Gwobr Glyn Dŵr)

Gwobr Glyn Dŵr yw gwobr flynyddol am gyfraniadau arbennig i'r celfyddydau yng Nghymru. Fe'i rhoddir gan Ymddiriedolaeth Tabernacl Machynlleth i ffigyrau blaenllaw ym meysydd cerddoriaeth, celf a llenyddiaeth yn eu tro. Enwir y wobr ar ôl Owain Glyn Dŵr, a goronwyd yn Dywysog Cymru ym Machynlleth.

Gwobr Glyndŵr

Medal arian fawr yw'r wobr, gyda chynllun yn dangos Bae Ceredigion ac Afon Dyfi, a lleoliad Machynlleth yn cael ei nodi gan ddarn o aur Cymreig pur 18ct. Cafodd ei chynllunio gan y gemwr lleol Kelvin Jenkins yn 1995, a gwneir copi newydd ganddo bob blwyddyn ers hynny.

Derbynwyr golygu

Cerddoriaeth golygu

Celf golygu

Llenyddiaeth golygu

Dolen allanol golygu

  1. Glyndwr Award Archifwyd 2016-03-24 yn y Peiriant Wayback.. Adalwyd 18 Gorffennaf 2013