Agor y brif ddewislen

Gruffudd ab yr Ynad Coch

bardd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Gruffudd ab Yr Ynad Coch)

Bardd llys yng Ngwynedd yn ail hanner y 13g oedd Gruffudd ab yr Ynad Coch (fl. 1277 - 1283), un o'r olaf o Feirdd y Tywysogion. Mae'n adnabyddus yn bennaf fel awdur un o'r marwnadau enwocaf yn yr iaith Gymraeg, a ganodd i alaru a choffáu Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn Ein Llyw Olaf), Tywysog Cymru.[1]

Gruffudd ab yr Ynad Coch
Ganwyd 13G Edit this on Wikidata
Teyrnas Gwynedd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Bardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd 13G Edit this on Wikidata
Cysylltir gyda Llywelyn ap Gruffudd Edit this on Wikidata

CefndirGolygu

Ychydig a wyddys am fywyd personol y bardd. Hanai o deulu o gyfreithwyr Cymreig a adnabyddir fel 'Llwyth Cilmin Droetu', a oedd yn gysylltiedig â Llanddyfnan ym Môn ond yn wreiddiol o ardal cwmwd Uwch Gwyrfai yn Arfon. Roedd yn geifn (perthynas nesaf ar ôl cyfyrder) i'r bardd Einion ap Madog ap Rhahawd (fl. 1237), a ganodd i Gruffudd ap Llywelyn Fawr, tad Llywelyn Ein Llyw Olaf. Mae'n bosibl mai Madog Goch Ynad oedd tad Gruffudd ab yr Ynad Coch; mae'n bosibl ei fod yn dal tir ym Môn yn ddiolch am ei wasanaeth fel ynad yn llywodraeth Gwynedd.[1]

CerddiGolygu

Erys ar glawr saith awdl ac un englyn proest o waith Gruffudd ab yr Ynad Coch. Mae'r mwyafrif o'i waith ar gael yn Llawysgrif Hendregadredd, tra bo peth o'i waith ar glawr yn Llyfr Coch Hergest; colofnau 1417-1418. Canu crefyddol yn null arferol y Gogynfeirdd yw chwech o'r awdlau.[1]

Mae'r seithfed awdl yn farwnad i'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd a gyfansoddwyd yn fuan ar ôl ei farwolaeth, yn Rhagfyr 1282 neu'n gynnar yn Ionawr 1283 (lladdwyd Llywelyn uwchlaw Afon Irfon ar 11 Rhagfyr, 1282). Ar sail cyfeiriad at ddau le sydd fel arall yn ddi-nod yn llinell 48, mae lle i gredu mai yng Nghastell y Bere, Meirionnydd, y canwyd yr awdl farwnad hon yn gyntaf. Syrthiodd y Bere i'r Saeson ar 25 Ebrill 1283, felly rhaid fod Gruffudd wedi canu'r awdl cyn hynny.[1]

Yn y gerdd enwog hon mae'r galar am golli Llywelyn a'r pryder am ddyfodol Gwynedd a Chymru yn cael ei fynegi mewn termau dwys a phersonol ar y naill law a chosmig a chynhwysfawr ar y llaw arall. Mae natur ei hun wedi'i hysgwyd i'w seiliau:

Oerfelawg calon dan fron o fraw,
Rhewydd fal crinwydd ysy'n crinaw:
Poni welwch chwi hynt y gwynt a'r glaw?
Poni welwch chwi'r deri yn ymdaraw?
Poni welwch chwi'r môr yn merwinaw—'r tir?
Poni welwch chwi'r Gwir yn ymgyweiraw?
Poni welwch chwi'r haul yn hwylaw—'r awyr?
Poni welwch chwi'r sŷr wedi r'syrthiaw?
Pani chredwch chwi i Dduw, ddyniaddon ynfyd?
Pani welwch chwi'r byd wedi r'bydiaw?[2]

Yn ddieithriad, mae beirniaid llenyddol yn cydnabod y gerdd hon fel un o orchestweithiau pennaf y beirdd Cymraeg ac un o gerddi mawr y byd. Er bod strwythur a mydr y gerdd yn gymhleth, mae'r iaith yn syml a'r mynegiant yn blaen ac mae'n un o'r cerddi hawsaf i'w deall o blith holl gerddi'r Gogynfeirdd gan y darllenydd cyffredin heddiw.

LlyfryddiaethGolygu

  • Rhian M. Andrews a Catherine McKenna (gol.), 'Gwaith Bleddyn Fard' yn, Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1996). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion'.
  • Ceir testun hwylus o destun 'Marwnad Llywelyn ap Gruffudd' mewn orgraff ddiweddar yn y gyfrol Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg.
  • Ar Farwolaeth Llywelyn yr Ail: darn o fersiwn Cymraeg Diweddar o'r gerdd ar Wicisource.

CyfeiriadauGolygu