Yr Herald Cymraeg
wythnosolyn Cymraeg
(Ailgyfeiriad o Herald Gymraeg)
Newyddiadur Cymraeg wythnosol yw Yr Herald Cymraeg, hefyd Yr Herald Gymraeg neu Yr Herald. Sefydlwyd y papur yng Nghaernarfon yn 1855, gan James Rees. Yn 1937, unwyd y papur a'r Genedl Gymreig, dan yr enw Yr Herald Cymraeg a'r Genedl.
Enghraifft o'r canlynol | papur newydd |
---|---|
Golygydd | Owen Picton Davies, Daniel Rees (newyddiadurwr), Robert John Rowlands, John James Hughes |
Cyhoeddwr | James Rees |
Rhan o | Papurau Newydd Cymreig Ar-lein |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 19 Mai 1855 |
Dechrau/Sefydlu | 1855 |
Lleoliad cyhoeddi | Caernarfon |
Perchennog | James Rees |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Sylfaenydd | James Rees |
Bu Daniel Rees yn olygydd yn rhan gyntaf yr 20g, yna bu Robert John Rowlands (Meuryn) yn olygydd o 1921 hyd 1954. Bu nifer o lenorion enwog yn gweithio i'r Herald, yn eu plith T. Gwynn Jones, Edward Prosser Rhys, Caradog Prichard, Gwilym R. Jones a John Roberts Williams.
Y golygydd rhwng 1994 ac Ebrill 2018 oedd Tudur Huws Jones.[1]
Ers 2004 mae'r Herald yn ymddangos fel atodiad bob dydd Mercher yn y Daily Post. Mae'r cyfranwyr yn cynnwys Rhys Mwyn, Angharad Tomos a Bethan Gwanas.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Golygydd yr Herald Cymraeg yn mynd ar ôl chwarter canrif , Golwg360, 18 Ebrill 2018.
Dolenni allanol
golygu