Uchelwr o linach brenhinol oedd Hywel Sele (c.1345-1402), cefnder Owain Glyn Dŵr, a drodd yn ei erbyn ac a laddwyd ganddo. Pery hanes Ceubren yr Ellyll yn fyw ar lafar gwlad yn Nolgellau ac mae'n stori hanner chwedlonol a hanner ffeithiol am Owain Glyn Dŵr yn lladd bradwr.

Hywel Sele
Ganwyd1345 Edit this on Wikidata
Bu farw1402 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Cysylltir gydaOwain Glyn Dŵr Edit this on Wikidata
Cartre'r teuluNannau Edit this on Wikidata

Roedd un o gyndeidiau Owain Glyn Dŵr, Cadwgan ap Bleddyn[1], yn dywysog ar Powys yn yr 11g ac yn byw yn y Nannau, sef plasdy oddeutu 800 troedfedd i'r gogledd, ac yn uwch na'r Afon Wnion. Un o'r llinach pellach oedd Meurig ap Ynyr Fechan, sydd a delw carreg ohono yn eglwys Dolgellau[1]. Ŵyr i Meurig ap Ynyr Fechan oedd Hywel Sele ap Meurig a adnabyddwyd fel Hywel Sele[1].

Cyn y rhyfel annibyniaeth roedd Glyn Dŵr a Sele yn gyfeillion da a'r ddau wedi derbyn y dull Seisnig o fyw. Roedd y ddau hefyd yn gyfeillion â brenin Lloegr, Harri IV (Henry Bolingbroke). Oherwydd ei deyrngarwch i Harri teimlai Sele fod rheidrwydd arno i wrthwynebu rhyfel Glyndŵr.[2]

O'r herwydd roedd gan Glyn Dŵr ofn Sele ac yn ei ystyried yn ddyn peryglus.

Hanes Ceubren yr Ellyll

golygu

Crynodeb o'r chwedl

golygu
 
Ceubren yr Ellyll ("The Hobgoblin's Hollow Tree") gan Sir Richard Colt Hoare a dynnwyd yn 1813.

Yn 1402 tra'n hela ar dir plasdy'r Nannau ger Dolgellau fel rhan o gymodi gyda'i gefnder, Hywel Sele, cafodd Owain Glyn Dŵr ei fradychu gan ei gefnder; lladdwyd Hywel a chuddiwyd ei gorff mewn ceubren dderwen wag. Credai pobl ardal Llanfachreth, ger Dolgellau, fod ellyll yn y ceubren am ganrifoedd tan iddi gwympo yn 1813. Yn ddiweddarach, defnyddiwyd pren o'r goeden i greu anrhegion i deulu brenhinol Lloegr.

Ymweliad Hotspur â'r Nannau

golygu

Henry Percy (1364-1403), neu Hotspur, oedd un o gyfeillion pennaf brenin Lloegr ac ym Mawrth 1402 apwyntiwyd Hotspur yn raglaw brenhinol yng ngogledd Cymru gan Harri IV.[2]

Wedi penodi Hotspur yn rhaglaw brenhinol rhoddodd Hywel Sele wahoddiad i Hotspur ato i'r Nannau ac aeth gyda byddin fawr ym mis Mehefin 1402.[1]

Wedi clywed am yr ymweliad ymosododd Owain Glyn Dŵr â'i fyddin a bu ysgarmes ar odre Cader Idris mewn ardal a elwir yn Maes Coch[1], uwchlaw Tabor. Ni lwyddodd yr un o'r ddwy fyddin i guro, er y bu'n agos iawn i Glyn Dŵr ei hun gael ei ddal. Serch hynny bu'n golled seicolegol drom i'r Cymry pan gollwyd 'baner y morynion gyda dwylo coch' y credid iddi fod â grym lledrithiol[3].

Ychydig fisoedd yn ddiweddarach ymosododd Glyn Dŵr gyda nifer fechan o ddynion ar y Nannau gan ddal Hywel Sele'n garcharor[1]. Dychwelasant i Ddolgellau ar hyd y ffordd i'r gogledd o Foel Cynwch ac i lawr am ddyffryn y Ganllwyd. Ond, canfuont fod y ffordd wedi ei chau - a phont Llanelltyd wedi'i meddiannu gan Gruffydd ap Gwyn, mab yng nghyfraith Sele[1].  Roedd Gruffydd ap Gwyn a'i ddynion wedi cymryd llwybr tarw lawr o'r Nannau gyda 200 o ddynion lleol. Yno, ar bont Llanelltyd, bu brwydr erchyll gyda milwyr profiadol Glyn Dŵr yn drech na dynion gwerinol Gruffydd ap Gwyn. Lladdodd byddin Glyndwr rhwng 60 a 100 o'r gelyn a'u claddu yng Nghefn Coch mewn man a elwir heddiw yn “Beddau'r Gwŷr”[4].

Nid nepell o bont Llanelltyd roedd Abaty Cymer a daeth yr Abad a'i fyneich i dawelu'r ymladd ac i atal y lladd.  Rhoddodd Hywel addewid y byddai'n cefnogi gwrthryfel Glyndŵr o hynny ymlaen neu o leiaf na fyddai yn ei wrthwynebu[1].  Cafodd Hywel Sele ei ryddid gan Glyndŵr.

Aeth yr Abad ati i gymodi'r cefndryd gan ofyn iddynt gyfarfod. Cytunodd Glyndwr i ymweld a'i gefnder, Sele, y tro nesaf y cynhaliai senedd yn Nolgellau.[1]

Y Lladd yn y Nannau

golygu

Roedd gan Owain Glyndŵr lawer o deulu yng nghyffiniau Dolgellau ac roedd un ohonynt yn lled-enwog, sef Madog a drigai yn 'Coed Madoc' tu ôl i leoliad y ficerdy heddiw yn Llanfachreth. Aeth Glyndŵr i aros ato cyn mynd at Hywel Sele yn y Nannau.[1]

Derbyniodd Glyndŵr cryn groeso gan Hywel Sele ac aeth y ddau i hela ceirw yng nghoedwigoedd y Nannau. Roedd Sele yn enwog am fod yn un o saethwyr gorau Prydain a pan welodd y ddau gefnder garw o'u blaen anelodd ei fwa saeth tuag ato. Ar yr eiliad olaf cyn gollwng y saeth trodd Sele ei anel at Glyndŵr a saethu. Drwy ddrwgdybiaeth roedd Glyndŵr wedi gwisgo llurig neu arfwsig o dan ei ddillad a bu hynny'n ddigon i arbed unrhyw niwed[2].

O weled yr hyn ddigwyddodd trodd Sele i ffoi. Dilynodd Glyndŵr ef ar ras a'i drywanu'n farw. Cuddioddd Glyndŵr gorff Hywel Sele mewn hen dderwen a dry'n geubren ar dir y Nannau[2].

Llosgi'r Nannau

golygu

Dihangodd Glyndwr gan ddychwelyd dranoeth gyda'i gyfeillion a llosgi plas y Nannau i'r llawr[1].  Dywed chwedloniaeth mai wrth wylio'r Nannau'n llosgi y gwaeddodd Owain Glyndŵr “Peri llid yn hwy na galar!”[3]

Dywed rhai y bu Madog ap Gwyn, o'r Ganllwyd, yn dyst i'r llofruddiaeth ac, o'r herwydd, fe'i gorfodwyd i ymuno â byddin Glyndŵr. Ni welwyd mohono fyth wedyn[1].

Nid oedd neb yn gwybod fod Glyndŵr wedi lladd Hywel Sele a bu chwilio dyfal amdano am beth amser. Cnulid mynachlog Llanelltyd yn ddibwrpas[3].

Etifedd Hywel Sele

golygu

Gadawodd wraig weddw a mab dwy flwydd oed, Meurig Fychan ar ei ôl. Dywed rhai y defnyddid yr enw Fychan (Vaughan) ar gyfer plentyn a gollodd ei dad, er nad oes tystiolaeth o hynny yn yr achos hwn.

Dywed Gwefan Cymru Guto fel a ganlyn:

"Meurig Fychan ap Hywel Selau

Ymddengys fod Meurig Fychan yn ddwy oed pan fu farw ei dad, Hywel Selau, c.1402. Ac yntau'n rhy ifanc i etifeddu Nannau, fe'i magwyd gan ei ewythr, Gruffudd Derwas. Erbyn dauddegau'r bymthegfed ganrif ymddengys fod Meurig yn ddigon hen i etifeddu Nannau. Mewn stent yn 1420 rhestrir Meurig a'i ewythr, Gruffudd Derwas, fel perchnogion tiroedd yn ardal Nannau, a chofnodir eu henwau fel deiliaid melin Llanfachreth yn 1444/5. Gwerthodd Gruffudd Derwas ddau dyddyn i Feurig yn 1451, ond nodir mai tenantiaid rhydd oedd y ddau o hyd. Yn 1452/3 enwir Meurig a Gruffudd Derwas fel ffermwyr melin Llanfachreth.

Ceir tystiolaeth fod Meurig yn weithgar ym maes y gyfraith. Nodir ei enw fel tyst ar sawl achlysur yn llysoedd Caernarfon a Dolgellau. Yn 1452/3 fe'i henwir gyda'i gefnder, Hywel ap Gruffudd Derwas, fel tyst mewn achos yn Nolgellau, ac mewn achos llys yng Nghaernarfon yn 1453/4 enwir Meurig fel gŵr y lladratwyd ei eiddo. Cofnodir enwau nifer o ladron anifeiliaid a oedd wedi dwyn o Nannau, tystiolaeth werthfawr i'r lladrata mynych a ddigwyddai yn y bymthegfed ganrif. Nid yw fawr o syndod fod Guto'n darlunio Meurig fel gŵr a oedd â'i fryd ar gadw trefn.

Nid yw dyddiad marw Meurig yn hysbys yn sgil bwlch yng nghasgliad llawysgrifau Nannau rhwng 1460 a 1480. Ceir y cyfeiriad olaf ato yn 1460. Nodir yn RWM II: 847 iddo farw yn y flwyddyn 1482, ond deil Pryce (2001: 286) mai'n bur fuan wedi 1461 y bu farw. Yn ôl y gerdd farwnad a ganodd Guto iddo, fe'i claddwyd yn abaty Cymer yn Llanelltyd gerllaw Nannau."[5]

Aeth Glyndŵr a'i ddynion yn eu blaenau i ddial yn ddidrugaredd ar gyfeillion Hywel Sele. Lladdwyd Gruffydd ap Gwyn o Ardudwy (Ganllwyd) a llosgwyd ei blasdai i'r llawr, sef y Berthlwyd a Cefn Coch.[1]

Angladd Hywel Sele

golygu

Deugain mlynedd yn ddiweddarach canfuwyd sgerbwd yng ngheubren yr ellyll a chredid mai corff Hywel Sele ydoedd[1].  Cynhaliwyd angladd mawreddog gyda 9 mynach yn canu galarnad a'i gladdu mewn beddrod gwych yn Abaty Cymer.

Hanes Amheus

golygu

Dywed rhai hanesion i Glyndŵr a'i wŷr losgi Abaty Cymer hefyd, ond nid oes tystiolaeth o hynny ac efallai fod cymysgwch rhwng yr hanes hwn a'r ffaith i Glyndŵr losgi Abaty Cwmhir flwyddyn yn gynharach yn 1401 gan i'r myneich yno ei fradychu i Frenin Lloegr[1].

Dywed Davies (1995):

"Hywel Sele was certainly a historic figure and contemporary with Owain, but the story has all the hallmarks of a later fabrication. Yet it conveys the image that was being cultivated of Glyn Dŵr: that of the fortunate and resourceful warrior whose revenge on his enemies was terrible."[2]

Tystiolaeth Ysgrifenedig Hwyrach

golygu

Cofnododd Robert Vaughan o'r Nannau yn oddeutu 1650:

"Owen burnt the house of Howel Sele of Nannau who stood out for the king and took him along with him. Griffri ap Gwyn of Ardudwy who came to attempt the rescue of his cousin Howel was beaten and most of his men killed and buried in the field of battle at Cefn Coch, the place still bearing the name of Beddau'r Gwyr (graves of the men), Griffri's houses at Berthlwyd and Cefn Coch were then burnt to ashes. Howel was so disposed of that he was never seen or heard of again by his friends."[4]

Aeth yn ei flaen mewn cofnod diweddarach:

"It is said that Owen Glendwr caused Howel Sele to be lette down into a hollow oack where he ended his life..."[4]

Cofnododd Robert Vaughan hefyd:

"Ffyrnigodd Glyndwr gymmaint o blegid y brad yma fel y rhwymodd Hywel yn y fan; ac wedi llosgi ei dŷ cludodd yntau ymaith na wyddai neb i ba le... Ymhen deugain mlynedd wedi hynny cafwyd ysgerbwd dŷn mawr, o fath Hywel, yng ngheudod hen dderwen, lle y bwriwyd ef gan Glyndwr, fel y tybid, yn wobr am ei fradwriaeth."[4]

Cofnododd Thomas Pennant oddeutu canrif yn ddiweddarach yn go debyg i Robert Vaughan:

"Howel Sele of Nanneu in Meirioneddshire, first cousin to Owen, had a harder fate. He likewise was an adherent to the house of Lancaster. Owen and this chieftain had been long at variance. I have been informed that hte abbot of Cymmer, near Dolgelleu, in hopes of reconciling them, brouth them together, and to all appearance effected his charitable design. While they were walking out, Owen observed a doe feeding, and told Howel, who was reckoned the best archer of his days, that there was a fine mark for him. Howel bent his bow, and pretending to aim at the doe, suddenly turned and discharged the arrow full at the breast of Glyndwr, who fortunately had armour beneath his cloaths, so received no hurt. Enraged at this treachery, he seized on Sele, burnt his house, and hurried him away from the place; nor could any one ever learn how he was disposed of, till forty years after, when the skeleton of a large man, such as Howel, was discovered in the hollow of a great oak, in which Owen was supposed to have immured him in reward of his perfidy. The ruins of the old house are to be seen in Nanneu park, a mere compost of cinders and ashes."[4]

Chwedlau Lleol yn Datblygu

golygu

Dywed chwedloniaeth fod, ar noson y lladd, gwmwl du wedi disgyn i guddio Cader Idris a bod tarth tew wedi disgyn dros Ddyffryn Wnion.  Gwelwyd goleudadau rhyfedd yn croesi'r awyr o'r Nannau tua Moel Offrwm a'r dywedir i'r coed 'wallgofi'.  Credai rhai mai drannoeth fyddai diwedd byd a dydd barn. Adroddwyd y gwelodd rhai fflamau gwyrddlas yn troelli o amgylch coeden (y geubren).[1][3][4] 

Daeth rhai i gredu fod Hywel Sele wedi ei garcharu'n fyw yn y ceubren, yn hytrach na'i ladd a chuddio'i gorff.[4] 

Daeth pobl i ofni'r ardal a'r geubren a byddent yn ei hosgoi gan fod, meddent, weiddi cythreulig yn dod ohoni.  Credent y cipiwyd llawer o bobl drwy'r awyr dros yr Aran i Fawddwy wrth fynd heibio'r boncyff. Datblygodd yr enw Ceubren yr Ellyll.[1][4]

Ceubren yr Ellyll

golygu

Ailadeiladwyd y Nannau yn fuan ac erys rhai o'r cerddi y byddai beirdd yr uchelwyr yn canu yn glodydd i Meurig Fychan[5].

Ond parhaodd Ceubren yr Ellyll i godi ofn ac roedd y chwedl yn enwog ar draws Cymru a Lloegr.

Yng Ngorffennaf 1813 ymwelodd y teithiwr enwog, Richard Fenton a'r arlunydd enwog, Sir Richard Colt Hoare, gyda Syr Robert Williames Vaughan yn y Nannau. Arweiniodd Vaughan y ddau at y goeden a oedd, meddai Fenton yn ei ddyddiadur (26/7/1813) yn dal yn fyw. Nododd hefyd fod coed ifanc yn tyfu o'i hamgylch. Tynnodd Colt Hoare lun o'r goeden (gweler uchod yn ogystal â gwefan swyddogol y Nannau) gan ei droi'n fath ar fwa. Mae'n debyg fod y tywydd ar y diwrnod hwnnw yn glos a mwll dros ben ('y diwrnod mwyaf clos a mwll erioed') ac nid oedd yr arlunydd yn teimlo'n iach y diwrnod hwnnw.[1][6][7]

Y noson honno bu drycin a storm a cwympodd y ceubren.

Y diwrnod canlynol cofnododd Robert Williames Vaughan y coeden. Dywedodd fod y pren yn parhau'n fyw yn y canol a bod y goeden yn mesur 27.5 troedfedd o'i hamgylch llathen o'r ddaear.[1][7]

Defnydd o'r Pren

golygu
 
Ar 25 Mehefin 1824 dathlwyd pen-blwydd 21 Robert Vaughan ( 1803 - 1859 ), mab Syr Robert Williames Vaughan. Dyma un o'r chwech cwpan llwnc destun a gerfiwyd ar gyfer yr achlysur.

Yn 1835 gwnaethpwyd canhwyllbrennau a chwpannau ar ffurf mes o bren Ceubren yr Ellyll a'u rhoddi'n anrhegion i fab Robert Williames Vaughan.[3]  Ni wyddys ble mae'r cannwyllbrennau hynny erbyn hyn, ond gwelir llun o un o'r cwpanau ar ffurf mesen ar wefan Amgueddfa Cymru[8].

Gwnaethpwyd blwch pren allan o bren Ceubren yr Ellyll a'i roi'n anreg priodas i'r Dywysoges Margaret[3].

Cerfiwyd ffrâm i lun o bren Ceubren yr Ellyll. Yn y ffrâm gosodwyd portread maint llawn o'r prif weinidog, William Pitt. Dywedir fod y ffrâm yn ddi-addurn, ond yn hardd. Naddwyd y geiriau canlynol i bren y ffrâm, "Y Gŵr fel y dderwen a wynebodd dymestl"[7].

Lleoliad Ceubren yr Ellyll

golygu

Gosodwyd cloc haul yn y fan lle bu Ceubren yr Ellyll o flaen plasdy cyfoes y Nannau.[1]

Camgymeriadau Enwol

golygu

Nodir enw Hywel Sele mewn sawl cofnod yn anghywir fel 'Howel Selef'[4] a thro arall, nodir yr enw fel 'Hywel Selau'[5].

Camgymeriadau Diweddar i'r Chwedl

golygu

Ceir amrywiadau i'r chwedl yn ardal Dolgellau ar lafar. Dywed Henken (1996) am un wraig yn y dref a honai mai Glyn Dŵr a guddiodd yn y dderwen, er mwyn dianc rhag rhywun[4].

Cyfeiriadaeth mewn Llenyddiaeth Gyfoes

golygu

Ceir baled o hanes Glyn Dŵr a Hywel Sele ynghŷd â Cheubren yr Ellyll yn y gyfrol Sesiwn yng Nghymru[9].

Llyfryddiaeth

golygu
  • Amgueddfa Cymru (2017) Art Collections Online. https://museum.wales/art/online/?action=show_item&item=4635
  • Barber, C. (1998) In Search of Owain Glyndŵr. Blorenge Books. Abergavenny
  • Davies, R.R. (1995) The Revolt of Owain Glyndŵr. Oxford University Press. Oxford
  • Ellis (1936) Dolgellau
  • Fychan, C. (2007) Pwy oedd Rhys Gethin. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion. Aberystwyth
  • Gibbon, A. (2004) The Mystery of Jack of Kent & the Fate of Owain Glyndŵr. Sutton Publishing. Stroud
  • Henken, E.R. (1996) National Redeemer - Owain Glyndŵr in Welsh Tradition. University of Wales Press. Caerdydd
  • Hodges, G. (1995) Owain Glyndwr & the War of Independence in the Welsh Borders. Logaston Press. Swydd Henffordd
  • Jones, G.A. (1962) Owain Glyndŵr. University of Wales Press. Caerdydd
  • Nannau.com (2016) Hollow Oak: http://nannau.com/folklore/hollow-oak.html
  • Owen, H.D. (2016) Sesiwn yng Nghymru - Cymry, Cwrw a Chân. Y Lolfa. Talybont
  • Roberts, L.J. (1915) Owen Glyndwr. Hughes a'i Fab. Gwrecsam
  • Skidmore, I. (1978) Owain Glyndŵr Prince of Wales. Christopher Davies (Publishers). Abertawe
  • Y Cambro Brython (1820) Ceubren yr Ellyll. Rhydychen 18/1/1820[10]

Gweler Hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu