Iaith weithredol
Iaith â statws cyfreithiol unigryw mewn cwmni rhyngwladol, cymdeithas, gwlad neu gorff arall fel ei phrif fodd o gyfathrebu yw iaith weithredol. Prif iaith cyfathrebu bob dydd ydyw, oherwydd bod gan y gymdeithas aelodau sy'n dod o gefndiroedd ieithyddol gwahanol, fel arfer.
Mae gan y rhan fwyaf o gymdeithasau rhyngwladol ieithoedd gweithredol, a gallai'r iaith hon fod yn iaith swyddogol arni neu beidio.
Ieithoedd gweithredol y CU
golyguYn wreiddiol, Ffrangeg a Saesneg oedd ieithoedd gweithredol y Cenhedloedd Unedig. Yn nes ymlaen, fe ychwanegwyd Arabeg, Rwsieg, Sbaeneg a Tsieineeg fel ieithoedd gweithredol yn y Cynulliad Cyffredinol a'r Cyngor Economaidd a Chymdeithasol. Arabeg, Ffrangeg, Rwsieg, Saesneg, Sbaeneg a Tsieineeg yw ieithoedd gweithredol y Cyngor Diogelwch.
Enghreifftiau mewn cymdeithasau rhyngwladol
golyguFfrangeg a Saesneg
golyguDwy iaith weithredol sydd gan y Llys Troseddol Rhyngwladol[1]: Ffrangeg a Saesneg, felly mae'n ofynnol, yn answyddogol, i bob Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig fedru'r ddwy'n rhugl. Mae Ffrangeg a Saesneg yn ieithoedd weithredol ar Gyngor Ewrop a NATO hefyd.
Grwpiau eraill â dwy iaith weithredol
golygu- Saesneg yw unig iaith weithredol Ysgrifenyddiaeth Pobloedd Brodorol y Cyngor Arctig, ond defnyddir Rwsieg wrth gyfathrebu hefyd. Er bod llawer o bobl frodorol ambegynol yn siarad tafodiaith Inuit, amrywiad ar iaith Sami neu iaith Wral-Altäig, mae'r Saesneg yn debygol o fod yn ail neu'n drydedd iaith gyffredin ganddynt.
- Mae gan Gymdeithas Gydweithredu Shanghai ddwy iaith weithredol: Rwsieg a Tsieineeg.
- Portiwgaleg a Sbaeneg yw dwy iaith weithredol Mercosur.
- Mae llywodraeth Dwyrain Timor yn defnyddio Indoneseg a Saesneg fel ei hieithoedd gweithredol yn ogystal â'i hieithoedd swyddogol, Tetun a Phortiwgaleg, a 15 iaith leol gydnabyddedig arall.
- Mae gan dalaith Goa yn India yr iaith Marathi yn iaith weithredol arni, er mai dim ond Konkani sydd â statws swyddogol yna.
Ffrangeg, Saesneg a Sbaeneg
golyguMae Cyfundrefn Masnach y Byd, yr Undeb Telathrebu Rhyngwladol, y Gyfundrefn Lafur Ryngwladol, Cytundeb Masnach Deg Gogledd America ac Ardal Masnach Deg yr Amerig yn defnyddio tair iaith weithredol: Ffrangeg, Saesneg a Sbaeneg.
Grwpiau eraill â thair neu fwy o ieithoedd gweithredol
golygu- Almaeneg, Ffrangeg a Saesneg yw tair iaith weithredol y Comisiwn Ewropeaidd.
- Mae gan FIFA bedair iaith weitredol: Almaeneg, Ffrangeg, Saesneg a Sbaeneg. Ar y cychwyn, Ffrangeg oedd unig iaith y ffederasiwn, ond erbyn hyn, Saesneg yw iaith swyddogol ei gofnodion, ei gyfathrebu a'i gyhoeddiadau.
- Ar hyn o bryd, mae'r Undeb Affricanaidd yn defnyddio Arabeg, Ffrangeg, Portiwgaleg, Saesneg, Sbaeneg a Swahili.
- Affricaneg, Ffrangeg, Portiwgaleg a Saesneg yw ieithoedd gweithredol Cymuned Datblygu Affrica Ddeheuol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Article 50 Archifwyd 2013-09-16 yn y Peiriant Wayback of the Rome Statute of the International Criminal Court. Accessed 16 October 2007.