Mae Caer Idris yn fryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'i lleoli ger Llanidan yn Ynys Mon, Cymru; cyfeirnod OS: SH494679. Amgylchynir Caer Idris gan dair rhes o gloddiau amddiffyn a godwyd, hyd y gellir barnu, yr un pryd i ffurfio caer gonsentrig.[1]

Caer Idris
Mathcaer bentir Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanidan Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1874°N 4.2546°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH49456797 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwAN051 Edit this on Wikidata

Yr enw

golygu

Mae tarddiad yr enw 'Caer Idris' yn anhysbys. Ceir sawl cyfeiriad at Idris - cawr enwog Cader Idris - yn llên gwerin Cymru ond does dim traddodiad i'w gysylltu â'r gaer hon, er bod yr enw'n awgrymiadol.[2]

Cefndir

golygu

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: AN051.[3] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwyr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[4] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[5] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[6]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. R. G. Livens, 'Yr Oes Haearn Geltaidd'; Geraint Bowen (gol.), Y Gwareiddiad Celtaidd (Gwasg Gomer, 1987), tud. 25.
  2. T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-custom (adargraffiad 1979), tud. 77.
  3. Cofrestr Cadw.
  4. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  5. "Gwefan y BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-11. Cyrchwyd 2012-03-05.
  6. "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-07. Cyrchwyd 2012-03-05.