Ieithoedd Sbaen (Sbaeneg: lenguas de España), neu ieithoedd Sbaenaidd (Sbaeneg: lenguas españolas),[1] yw'r ieithoedd a siaredir neu siaradwyd yn Sbaen. Mae'r mwyafrif o ieithoedd a siaredir yn Sbaen yn perthyn i'r teulu ieithoedd Románwns, a Sbaeneg yw'r unig iaith sydd â statws swyddogol i'r wlad gyfan. Mae gan amryw o ieithoedd eraill statws cyd-swyddogol neu gydnabyddedig mewn tiriogaethau penodol,[2] a siaredir nifer o ieithoedd a thafodieithoedd answyddogol mewn rhai ardaloedd.

Canran o siaradwyr ieithoedd cyd-swyddogol a chydnabyddedig yn Sbaen.

O ran nifer y siaradwyr, Sbaeneg (neu Castileg) yw'r amlycaf o ieithoedd Sbaen, a siaredir gan oddeutu 99% o Sbaenwyr fel iaith gyntaf neu ail iaith.[3] Mae Catalaneg (neu Falenseg) yn cael ei siarad gan 19%, Galisieg gan 5%, a Basgeg gan 2% o'r boblogaeth.[4]

Yr ieithoedd cyd-swyddogol rhanbarthol yn Sbaen:

Map yn dangos y newidiadau hanesyddol ym maint daearyddol prif ieithoedd penrhyn Iberia rhwng y flwyddyn 1000 a 2000.

Mae Sbaeneg yn swyddogol ledled y wlad; mae gan weddill yr ieithoedd hyn statws cyfreithiol a chyd-swyddogol yn eu cymunedau priodol, ac (ac eithrio Araneg) maent yn a ddigon o siaradwyr i gael papurau newydd dyddiol, i gyhoeddi llyfrau, ac i gael presenoldeb sylweddol yng nghyfryngau yn y cymunedau hynny. Yn achosion Catalaneg a Galisieg, nhw yw'r prif ieithoedd a ddefnyddir gan lywodraethau rhanbarthol Catalwnia a Galisia a'u gweinyddiaethau lleol. Mae nifer o ddinasyddion yn yr ardaloedd hyn yn ystyried eu hiaith ranbarthol fel eu prif iaith a Sbaeneg eu hail iaith.

Yn ogystal â'r rhain, mae yna nifer o ieithoedd lleiafrifol a chydnabyddedig sydd mewn peryg:

  • Mae Aragoneg yn gydnabyddedig, ond nid swyddogol, yn Aragón.
  • Mae Astwrieg yn gydnabyddedig, ond nid swyddogol, yn Asturias.
  • Mae Leoneg yn gydnabyddedig, ond nid swyddogol, yn Castilla y León. Caiff ei siarad yn nhaleithiau León a Zamora.

Mae gan Sbaeneg ei hun dafodieithoedd gwahanol ledled y wlad; er enghraifft, y tafodieithoedd Andalucía neu'r Ynysoedd Dedwydd, ac mae gan bob un o'r rhain eu his-amrywieithau eu hunain. Mae rhai o rain yn agosach at Sbaen yr Amerig, a chafodd ei dylanwadu'n drwm gan y rhain, oherwydd prosesau ymfudo o wahanol ranbarthau ar wahanol gyfnodau.

Ac eithrio Basgeg, sy'n ymddangos fel iaith arunig, mae'r holl ieithoedd sy'n bresennol ar dir mawr Sbaen yn ieithoedd Indo-Ewropeaidd, yn benodol ieithoedd Romáwns. Siaradir ieithoedd Affro-Asiatig, fel Arabeg (gan gynnwys Darija Ceuta) a Berber (Riffian yn bennaf), gan y boblogaeth Fwslimaidd Ceuta a Melilla a gan fewnfudwyr mewn mannau eraill.

Mae pobl leol yn dal i siarad Portiwgaleg mewn tair ardal ar y ffin:

  • Tref La Alamedilla, yn nhalaith Salamanca.
  • Yr ardal a elwir y corn Cedillo, sy'n cynnwys Cedillo (Cedilho yn Bortiwgaleg) a Herrera de Alcántara (Ferreira de Alcântara yn Bortiwgaleg).
  • Tref Olivenza (Olivença yn Bortiwgaleg), yn nhalaith Badajoz, a'r diriogaeth o'i chwmpas, a arferai fod yn Bortiwgeaidd tan y 19eg ganrif, ac mae Portiwgal dal i'w hawlio.

Cyfeiriadau golygu

  1. The term lenguas españolas appears in the Spanish Constitution, referrering to all the languages spoken within Spain (those are Basque, Spanish, Catalan/Valencian, Galician, Asturian, Leonese, etc.).
  2. M. Teresa Turell (2001). Multilingualism in Spain: Sociolinguistic and Psycholinguistic Aspects of Linguistic Minority Groups. Multilingual Matters. t. 121. ISBN 978-1-85359-491-5.
  3. "Archived copy" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 23 September 2010. Cyrchwyd 2016-01-15.CS1 maint: archived copy as title (link)
  4. "CIA – The World Factbook – Spain". Cia.gov. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 May 2009. Cyrchwyd 30 April 2011.