Mae iffosffamid (IFO), sy’n cael ei werthu dan yr enw brand Mitoxana ymysg eraill, yn feddyginiaeth cemotherapi a ddefnyddir i drin nifer o fathau o ganser.[1] Mae hyn yn cynnwys canser y ceilliau, sarcoma meinwe meddal, osteosarcoma, canser y bledren, canser celloedd bach yr ysgyfaint, canser ceg y groth, a chanser ofarïaidd. Mae'n cael ei weini drwy chwistrelliad i mewn i wythïen[2]. Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₇H₁₅Cl₂N₂O₂P.

Iffosffamid
Enghraifft o'r canlynolpar o enantiomerau Edit this on Wikidata
Mathheterocyclic compound Edit this on Wikidata
Màs260.029718626 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₇h₁₅cl₂n₂o₂p edit this on wikidata
Enw WHOIfosfamide edit this on wikidata
Clefydau i'w trinNeoplasm diniwed ar yr ysgyfaint, lymffosarcoma, canser y fron, lewcemia lymffoid, canser y ceilliau, lewcemia lymffosytig cronig, sarcoma cell piswydden, lymffoma hodgkins, cellogrwydd amrywiol, canser y pancreas, canser ofaraidd, canser y stumog, diffuse large b-cell lymphoma, sarcoma ewing edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd awstralia d, categori beichiogrwydd unol daleithiau america d edit this on wikidata
Yn cynnwysffosfforws, carbon Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Sgil effeithiau golygu

Mae sgil effeithiau cyffredin yn cynnwys colli gwallt, chwydu, gwaed yn yr wrin, heintiau, a phroblemau arennau. Mae sgil effeithiau difrifol eraill yn cynnwys atal mêr esgyrn a gostwng lefel ymwybyddiaeth. Bydd defnydd yn ystod beichiogrwydd yn debygol o arwain at niwed i'r babi. Mae Ifosfamide yn perthyn i'r teulu asiantau alcyleiddio a mwstard nitrogen o feddyginiaethau. Mae'n gweithio trwy amharu ar ddyblygu DNA a chreu RNA[3].

Mae Ifosfamide ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd. Y gost gyfanwerthol yn y byd sy'n datblygu yw tua 7.35 i 70.70 $ UDA fesul ffiol 2 gm. Yn y DU mae'r dogn hwn yn costio'r GIG tua £130.

Defnydd meddygol golygu

Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer amrywiaeth o wahanol fathau o ganser, gan gynnwys:

Enwau golygu

Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Iffosffamid, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;


Gweini golygu

Mae Ifosfamide yn bowdr gwyn. Wedi ei baratoi i'w ddefnyddio mewn cemotherapi, mae'n cael ei droi yn hylif clir a di-liw. Mae'r cael ei weini yn fewnwythiennol.

Caiff Ifosfamide ei ddefnyddio'n aml ar y cyd â chyffur arall o'r enw mesna i osgoi gwaedu mewnol yn y claf, yn arbennig i rwystro llid gwaedlyd yn y bledren (hemorrhagic cystitis).

Rhoddir Ifosfamide yn gyflym, ac mewn rhai achosion gellir ei roi mor gyflym ag awr.

Sgil effeithiau golygu

Mae llid gwaedlyd yn y bledren yn anghyffredin pan roddir ifosfamide ar y cyd â mesna. Sgil effaith cyffredin, sydd yn gallu effeithio ar faint o ddos gellir ei roi, yw enseffalopathi (camweithrediad yr ymennydd). Mae enseffalopathi yn digwydd mewn rhyw ffurf mewn hyd at 50% o gleifion. Gall yr adwaith cael ei gyfryngu gan chloroacetaldehyde, un o gynhyrchion ymddatodiad moleciwl ifosfamide, sydd â nodweddion cemegol tebyg i asetaldehyde a cloral hydrad. Gall symptomau enseffalopathi ifosfamide amrywio o ysgafn (anhawster i ganolbwyntio, blinder), i gymedrol (deliriwm, seicosis), i ddifrifol (statws epilepticws neu goma). Mewn plant, gall hyn ymyrryd â datblygiad niwrolegol. Ar wahân i'r ymennydd, gall ifosfamide hefyd effeithio ar nerfau perifferol. Bydd problemau blaenorol efo'r ymennydd a lefelau isel o albwmen yn y gwaed yn cynyddu tebygrwydd enseffalopathi ifosfamide. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae problemau yn datrys eu hunain heb ymyrraeth o fewn 72 awr. Y driniaeth fwyaf effeithiol ar gyfer enseffalopathi difrifol (gradd III-IV) yw dos mewnwythiennol o fethylen glas, sy'n ymddangos i leihau pa mor hir bydd cyfnod yr adwaith.. Mewn rhai achosion, gellir defnyddio methylene glas fel proffylacsis cyn gweinyddu dosau pellach o ifosfamide. Mae triniaethau eraill yn cynnwys albwmen a thiamin, a defnyddio dialysis fel dull achub.

Gall Ifosfamide hefyd achosi asidosis bwlch anion, yn benodol asidosis tiwbaidd math 2.

Cyfeiriadau golygu

  1. Pubchem. "Iffosffamid". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
  2. Gwasanaeth Macmillan Ifosfamide (Mitoxana ®) Archifwyd 2017-10-06 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 25 Ionawr 2018
  3. Cancer Research UK Ifosfamide (Mitoxana) adalwyd 25 Ionawr 2018


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!