Jamal al-Din al-Afghani

Diwygiwr a newyddiadurwr o dras Bersiaidd ac ideolegwr Mwslimiaidd oedd Jamāl al-Dīn al-Afghānī neu Jamāl al-Dīn al-Asadābādi (18389 Mawrth 1897) a fu'n ymgyrchydd dylanwadol dros foderniaeth Islamaidd a gwrth-drefedigaethrwydd drwy ei deithiau ar draws y byd Mwslimaidd, Ewrop, ac isgyfandir India yn ystod y 19g.

Jamal al-Din al-Afghani
Ffotograff o Jamal al-Din al-Afghani ym 1883
Ganwyd1838, 1839 Edit this on Wikidata
Asadabad Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mawrth 1897 Edit this on Wikidata
Istanbul Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAffganistan Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiwinydd, journal editor, newyddiadurwr Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Ganed Jamāl al-Dīn al-Afghānī al-Sayyid Muḥammad ibn Ṣafdar al-Ḥusayn yn Asadābād, ger Hamadan, Persia, yn ystod brenhinllin y Qajar. Ni wyddys llawer am ei fywyd cynnar. Treuliodd y rhan fwyaf o'i deithiau mewn gwledydd Swnni, ac mae'n debyg iddo gymryd yr enw "Afghani" er mwyn cuddio ei darddiad Shïa ym Mhersia.[1] Yn ystod ei ieuenctid, credir iddo ymweld â Karbala a Najaf, dwy o ddinasoedd sanctaidd y Shïaid, yn neheudir Mesopotamia, yn ogystal â rhannau o'r India ac o bosib Istanbwl. Mae'n debyg yr oedd yn India adeg Gwrthryfel 1857, ac i'r gwrthdaro hwnnw a'r ymateb siapio'i daliadau gwrth-Brydeinig am weddill ei oes.[2] Nid yw'n sicr yn union pa mudiadau deallusol ac ysgolion meddwl a effeithiodd ar ei ddatblygiad diwinyddol ac athronyddol yn y cyfnod hwn, ond beth bynnag yr oeddent, aeddfedai Jamal al-Din al-Afghani yn sgeptig crefyddol.

Affganistan (1866–68)

golygu

Tua Tachwedd 1866, cyrhaeddodd Afghani ddinas Kandahar, Affganistan, ac o'r amser hwn cawn well dealltwriaeth o'i fywyd a'i feddwl. Cyfnod cythryblus yn hanes Affganistan ydoedd yn sgil marwolaeth Dost Mohammad Khan ym 1863, a arweiniodd at ryfeloedd olyniaeth rhwng ei feibion. Yn niwedd 1866, penodwyd Afghani yn gynghorwr agos i Mohammad Azam Khan, un o'r brodyr a wrthryfelodd yn erbyn Sher Ali Khan, ac aeth Afghan gydag Azam a'r llall o'r brodyr, Mohammad Afdal Khan, i Kabul. Yno, cafodd Sher Ali ei ddymchwel yn Ionawr 1867. Cipiwyd y goron gan Afdal, y Brenin Mohammad II, ac yn sgil ei farwolaeth efe yn Hydref 1867 esgynnai Azam i'r orsedd. Bu Afghani felly yn gynghorwr i'r Brenin Mohammad III, Emir Affganistan, hyd at ail gwymp Kabul i luoedd Sher Ali yn Awst 1868. Yn ôl rhai ysgolheigion, ffugiodd Afghani ei fod yn llysgennad o Ymerodraeth Rwsia a wnaeth addo arian a chefnogaeth wleidyddol i Azam os oedd am frwydro'n erbyn yr Ymerodraeth Brydeinig.[1] Yn sgil adferiad Sher Ali, cafodd Afghani ei yrru allan o Affganistan yn Nhachwedd 1868.

Yr Aifft (1871–79)

golygu

Ymddangosai Afghani yn Istanbwl, prifddinas yr Ymerodraeth Otomanaidd, ym 1870, yn darlithio ar bynciau crefyddol. Cafodd ei gyhuddo o heresi am iddo gymharu swyddogaeth y proffwyd i grefft neu ddawn ddynol, ac ym 1871 bu'n rhaid iddo ffoi i Gairo, yr Aifft, a oedd dan benarglwyddiaeth yr Otomaniaid. Yno fe ddenai nifer o awduron a difinyddion ifainc, yn eu plith Muhammad Abduh, a fyddai'n un o brif arweinwyr y modernwyr Islamaidd, a Saad Zaghloul, a fyddai'n sefydlu plaid genedlaetholgar y Wafd. Gwahoddodd Afghani ei ddilynwyr i gyfrinfa Fasonaidd dan ei arweiniad, ac areithiodd yn ffyrnig yn erbyn y Rhaglaw Isma'il Pasha, a oedd yn fwyfwy amhoblogaidd ymhlith ei ddeiliaid yn yr Aifft a'i gredydwyr ariannol yn Ewrop. Mae'n debyg i Afghani geisio ennill ffafr Tewfik Pasha, mab Isma'il, gan ddisgwyl i'r hwnnw olynu ei dad.

Ym Mehefin 1879, diorseddwyd Isma'il gan y Swltan Otomanaidd Abdülhamid II, dan bwysau Prydain a Ffrainc, ond yn Awst 1879 cafodd Afghani ei alltudio ar orchymyn y Rhaglaw Tewfik ar gyhuddiad o annog gweriniaetholdeb yn yr Aifft. Aeth Afghani wedyn i Hyderabad yn yr India, ac ysgrifennodd nifer o erthyglau, gan gynnwys traethawd o'r enw "Gwrthbrofi'r Materolwyr".[2]

Ewrop (1883–89)

golygu

Teithiodd Afghani o Calcutta i Baris yn Ionawr 1883. Yno, gyda'i hen ddisgybl Muhammad Abduh, cyhoeddodd bapur newydd gwrth-Brydeinig o'r enw Al-ʿUrwat al-wuthqā a ddosbarthwyd ar draws y byd Mwslimaidd. Defnyddiodd ei bapur newydd i honni, yn ffals, ei fod mewn cyswllt â Muhammad Ahmad, y Mahdi yn y Swdan, a wrthryfeloedd yn erbyn yr Eifftiaid a'r Prydeinwyr yn y 1880au.[1]

Yn Ffrainc cafodd Afghani ddadl enwog â'r hanesydd ac athronydd Ernest Renan ynglŷn â'r berthynas rhwng Islam a gwyddoniaeth. Portreadwyd Afghani yn rhesymolydd anuniongred mewn "Islam a Gwyddoniaeth", darlith a gyflwynwyd gan Renan i'r Sorbonne ym Mawrth 1883.[3] Cyhoeddodd Afghani ei ymateb i Renan, yn yr iaith Ffrangeg.

Er gwaethaf ei ymgyrchu yn erbyn yr Ymerodraeth Brydeinig, ceisiodd Afghani berswadio llywodraeth Prydain i'w benodi yn ganolwr wrth gyflafareddu â'r Swltan Otomanaidd. Heb lwyddiant yn yr ymdrech honno, aeth i Rwsia ym 1887–9 a chafodd ei hurio, fel rhan o'r Gêm Fawr, i gynhyrfu Mwslimiaid yn erbyn grym y Prydeinwyr yn India.[1]

Persia

golygu

Dychwelodd i'w wlad enedigol, gan obeithio ennill lle mewn cylch preifat y Shah, Naser al-Din. Cafodd Afghani ei amau unwaith eto o heresi, a fe gododd stŵr yn erbyn y Shah. Alltudiwyd Afghani i Irac ym 1892, a bu am gyfnod yn Llundain yn golygu papur newydd arall. Yn yr hwnnw bu'n lladd ar y Shah ac yn galw am wrthsafiad yn erbyn ei deyrnasiad. Câi ei ddial drwy annog llofruddiaeth Naser al-Din ym 1896.[1]

Diwedd ei oes

golygu

O Lundain, teithiodd Afghani yn ôl i Istanbwl, ar wahoddiad y Swltan Abdülhamid II. Mae'n bosib i'r Swltan fwriadu cadw Afghani yn brysur, ac er budd achos y Galiffiaeth, fel propagandydd pan-Islamaidd. Unwaith eto, enynnai drwgdybiaeth yr awdurdodau, a chafodd ei wahardd rhag cyhoeddi a'i gyfyngu i'r ddinas fel ei bod dan olwg. Bu farw yn Istanbwl ym 1897, tua 58 oed, o ganser yr ên.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 (Saesneg) Jamal al-Din al-Afghani. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Awst 2021.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) "Afghani, Jamal ad-Din al- 1838–1897", Encyclopedia of Western Colonialism since 1450. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 26 Awst 2021.
  3. York A. Norman, "Disputing the "Iron Circle": Renan, Afghani, and Kemal on Islam, Science, and Modernity", Journal of World History 22:4 (2011), tt. 693-714. doi:10.1353/jwh.2011.0107.

Darllen pellach

golygu
  • Nikki R. Keddie, An Islamic Response to Imperialism: Political and Religious Writings of Sayyid Jamal ad-Din al-Afghani: With a New Introduction: From Afghani to Khomeini (Berkeley, Califfornia: University of California Press, 1983).
  • Nikki R. Keddie, Sayyid Jamal ad-Din "al-Afghani:" A Political Biography (Berkeley, Califfornia: University of California Press, 1972).
  • Homa Pakdaman, Djemal-ed Din Assad Abadj, dit Afghani (Paris: G.P. Maisonneuve et Larose, 1969).