John Morris, Arglwydd Morris o Aberafan
Gwleidydd o Gymro oedd John Morris, Yr Arglwydd Morris o Aberafan (5 Tachwedd 1931 – 5 Mehefin 2023)[1] a oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru o 5 Mawrth 1974 tan 5 Mai 1979. Ganwyd a magwyd yn Gymro Cymraeg yng Nghapel Bangor, Aberystwyth, Ceredigion. Cynrychiolodd Aberafan yn Senedd San Steffan rhwng 1959 a 2001.
Y Gwir Anrhydeddus Yr Arglwydd Morris o Aberafan KG PC QC | |
---|---|
Yr Arglwydd Morris o Aberafon, 19 Mehefin 2006, Castell Windsor | |
Twrnai Cyffredinol Lloegr a Chymru Twrnai Cyffredinol Gogledd Iwerddon | |
Yn ei swydd 2 Mai 1997 – 29 Gorffennaf 1999 | |
Prif Weinidog | Tony Blair |
Rhagflaenwyd gan | Nicholas Lyell |
Dilynwyd gan | Yr Arglwydd Williams o Fostyn |
Twrnai Gwladol Cysgodol | |
Yn ei swydd 9 June 1983 – 2 May 1997 | |
Arweinydd | Michael Foot Neil Kinnock John Smith Margaret Beckett (dros dro) Tony Blair |
Rhagflaenwyd gan | Arthur Davidson |
Dilynwyd gan | Nicholas Lyell |
Yn ei swydd 14 Gorffennaf 1979 – 24 Tachwedd 1981 | |
Arweinydd | James Callaghan Michael Foot |
Rhagflaenwyd gan | Samuel Silkin |
Dilynwyd gan | Peter Archer |
Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru | |
Yn ei swydd 4 Mai 1979 – 14 Gorffennaf 1979 | |
Prif Weinidog | James Callaghan |
Rhagflaenwyd gan | Nicholas Edwards |
Dilynwyd gan | Alec Jones |
Ysgrifennydd Gwladol Cymru | |
Yn ei swydd 5 Mawrth 1974 – 4 Mai 1979 | |
Prif Weinidog | Harold Wilson James Callaghan |
Rhagflaenwyd gan | Peter Thomas |
Dilynwyd gan | Nicholas Edwards |
Gweinidog Amddiffyn dros Offer | |
Yn ei swydd 16 Ebrill 1968 – 19 Mehefin 1970 | |
Prif Weinidog | Harold Wilson |
Rhagflaenwyd gan | Roy Mason |
Dilynwyd gan | Robert Lindsay |
Ysgrifennydd Seneddol i'r Gweinidog Trafnidiaeth | |
Yn ei swydd 10 Ionawr 1966 – 16 Ebrill 1968 | |
Prif Weinidog | Harold Wilson |
Rhagflaenwyd gan | George Lindgren |
Dilynwyd gan | Robert Brown |
Aelod Seneddol dros Aberafan | |
Yn ei swydd 8 Hydref 1959 – 7 Mehefin 2001 | |
Rhagflaenwyd gan | William Cove |
Dilynwyd gan | Hywel Francis |
Manylion personol | |
Ganwyd | Capel Bangor | 5 Tachwedd 1931
Bu farw | Mehefin 2023 |
Plaid wleidyddol | Llafur |
Alma mater | Prifysgol Aberystwyth Coleg Gonville a Caius, Caergrawnt |
Teulu
golyguRhieni'r Arglwydd Morris oedd D. W. Morris, Penywern, Talybont, Ceredigion a Mary Olwen Ann Morris, ei wraig. Ym 1959 priododd Margaret ferch Edward Lewis, OBE, YH, Llandysul; bu iddynt tair merch.[2]
Addysg
golyguO Ysgol Ramadeg Ardwyn, Aberystwyth aeth yn ei flaen i brifysgol y dref honno cyn troi ei lwybr tuag at Goleg Gonville a Caius, Caergrawnt.
Gyrfa
golyguCyflawnodd ei Wasanaeth Cenedlaethol (cyfnod o wasanaeth milwrol gorfodol) fel swyddog yn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a’r Gatrawd Gymreig. Fe’i galwyd i'r Bar, yn Gray's Inn ym 1954. Daeth yn Gwnsler y Frenhines ym 1973 ac yn Feinciwr ym 1985. Bu’n gweithio fel Ysgrifennydd Cyffredinol ac Ymgynghorydd Cyfreithiol Undeb Amaethwyr Cymru rhwng 1956 a 1958.[2]
Gyrfa wleidyddol
golyguCynrychiolodd Etholaeth Aberafan fel Aelod Seneddol dros y Blaid Lafur rhwng 1959 hyd at 2001, sef y cyfnod hiraf, ar y pryd, i unrhyw Aelod Seneddol yng Nghymru.
Bu'n Ysgrifennydd Seneddol yn yr Adran Ynni ac yn yr Adran Cludiant. Bu hefyd yn Ysgrifennydd dros Amddiffyn, yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn Dwrnai Cyffredinol dros Gymru a Lloegr, a'r un swydd wedyn yng Ngogledd Iwerddon rhwng 1997 a 1999. Llond dwrn yn unig o Aelodau Seneddol Llafur a ddaliodd swydd dan Harold Wilson, James Callaghan a Tony Blair. Bu hefyd yn gyfrifol am Gyngor yr Iaith Gymraeg a sefydlwyd yn 1973.
Roedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru rhwng 1974 a 1979, a daeth yn amlwg iawn yn yr ymgyrch ddatganoli. Er y collwyd refferendwm 1979, gosodwyd y seiliau ar gyfer yr ail refferendwm. Defnyddwyd y gwaith a wnaed gan John Morris yn yr 1970au hwyr fel sylfaen i ddeddf 1997 a'r ail refferendwm ar ddatganoli.[3] Yn dilyn ei farwolaeth, dywedodd Dafydd Elis-Thomas fod ei gyfraniad at ddatganoli yn 'gwbl unigryw'.[4]
Bywyd personol
golyguRoedd yn briod a Margaret, ac roedd ganddynt tair merch. Bu farw yn 91 mlwydd oed ym Mehefin 2023.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Yr Arglwydd John Morris, cyn-AS Aberafan, wedi marw". BBC Cymru Fyw. 2023-06-05. Cyrchwyd 2023-06-05.
- ↑ 2.0 2.1 ‘MORRIS OF ABERAVON’, Who's Who 2017, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 2017; online edn, Oxford University Press, 2016 ; online edn, Nov 2016 accessed 9 April 2017
- ↑ "Teyrngedau i'r Arglwydd John Morris, "gwleidydd o fri" sydd wedi marw'n 91 oed". Golwg360. 2023-06-06. Cyrchwyd 2023-06-06.
- ↑ "Cyfraniad 'cwbl unigryw' Yr Arglwydd Morris at ddatganoli". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 2023-06-06.