Le Corbusier
Pensaer Ffrengig, yn enedigol o'r Swistir oedd Le Corbusier, enw gwreiddiol Charles-Edouard Jeanneret (6 Hydref 1887 – 27 Awst 1965).[1][2] Roedd hefyd yn ddylunydd, paentiwr, cynllunydd trefol, ysgrifennwr, ac yn un o arloeswyr yr hyn a ystyrir bellach yn "bensaernïaeth fodern". Fe'i ganed yn y Swistir a daeth yn ddinesydd Ffrengig ym 1930. Roedd ei yrfa'n rhychwantu pum degawd, a dyluniodd adeiladau yn Ewrop, Japan, India, a Gogledd a De America.
Le Corbusier | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Charles-Édouard Jeanneret ![]() 6 Hydref 1887 ![]() La Chaux-de-Fonds ![]() |
Bu farw | 27 Awst 1965 ![]() o trawiad ar y galon ![]() Roquebrune-Cap-Martin ![]() |
Dinasyddiaeth | Y Swistir, Ffrainc ![]() |
Galwedigaeth | pensaer, arlunydd, ysgrifennwr, cynlluniwr trefol, ffotograffydd, drafftsmon ![]() |
Adnabyddus am | Notre Dame du Haut, Villa Savoye, Unité d'habitation, Radiant City, Tsentrosoyuz building ![]() |
Mudiad | Pensaernïaeth Fodern, Pensaernïaeth Friwtalaidd, purism ![]() |
Tad | Georges-Édouard Jeanneret ![]() |
Priod | Yvonne Le Corbusier ![]() |
Perthnasau | Pierre Jeanneret ![]() |
Gwobr/au | AIA Gold Medal, Medal Aur Frenhinol, Frank P. Brown Medal, Uwch Swyddog y Lleng Anrhydedd, Gwobr Sikkens, honorary doctor of ETH Zürich, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Geneva, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Caergrawnt, honorary doctor of the University of Zurich, Commandeur des Arts et des Lettres ![]() |
llofnod | |
![]() |
"Le Corbusier" oedd ei ffugenw wrth ysgrifennu i'r Esprit Nouveau; yn ddiweddarach daeth i'w ddefnyddio yn lle ei enw bedydd. Ystyrir ef yn un o benseiri pwysicaf yr 20g. Nodweddion ei arddull oedd defnydd helaeth o goncrid wedi ei gryfhau a hoffter o gynlluniau mawr, hyd at gynllunio trefi cyfain. Daeth ei arddull i ddwyn yr enw Pensaernïaeth Friwtalaidd, enw a ddaeth o'r Ffrangeg béton brut, sef concrit amrwd, un o'r deunyddiau roedd Le Corbusier yn ei ffafrio.
Ei nod mewn bywyd oedd darparu gwell amodau byw i drigolion dinasoedd gorlawn, ac roedd Le Corbusier yn ddylanwadol mewn cynllunio trefol, ac roedd yn aelod sefydlol o'r Congrès International d'Architecture Moderne (CIAM). Paratôdd Le Corbusier y prif gynllun ar gyfer dinas Chandigarh yn India, a chyfrannodd ddyluniadau penodol ar gyfer sawl adeilad yno, gan gynnwys adeiladau'r llywodraeth.
Ar 17 Gorffennaf 2016, cofrestrwyd un-deg-saith o brosiectau gan Le Corbusier, mewn saith gwlad, yn rhestr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO fel 'Gwaith Pensaernïol Le Corbusier, Cyfraniad Eithriadol i'r Mudiad Modern'.[3]
Fodd bynnag, mae Le Corbusier yn parhau i fod yn ffigwr dadleuol. Mae rhai o'i syniadau cynllunio trefol wedi cael eu beirniadu'n hallt am eu difaterwch â safleoedd diwylliannol gerllaw, mynegiant a thegwch cymdeithasol, ac mae ei gysylltiadau â ffasgaeth, gwrthsemitiaeth a'r unben Benito Mussolini wedi arwain at rywfaint o gynnen barhaus yn ei gylch.[4][5][6]
Bywyd cynnar (1887–1904) Golygu
Ganwyd Charles-Édouard Jeanneret ar 6 Hydref 1887 yn La Chaux-de-Fonds, dinas fach yng nghanton Neuchâtel a oedd yn Ffrangeg ei hiaith yng ngogledd-orllewin y Swistir, ym mynyddoedd Jura, 5 cilometr (3.1 milltir) dros y ffin o Ffrainc. Roedd yn dref ddiwydiannol, gyda llawer o ffatrïoedd creu oriorau yno. Mabwysiadodd y ffugenw Le Corbusier ym 1920. Roedd ei dad yn grefftwr a oedd yn enameiddio blychau ac oriorau, ac roedd ei fam yn dysgu piano. Roedd ei frawd hynaf Albert yn feiolinydd amatur. Mynychodd ysgol feithrin a ddefnyddiai ddulliau Fröbelian. [7][8][9]
Fel ei gyfoeswr, Frank Lloyd Wright ( a oedd o linach Cymreig) a'r Almaenwr Mies van der Rohe, ni chafodd Le Corbusier hyfforddiant ffurfiol fel pensaer. Denwyd ef at y celfyddydau gweledol; yn bymtheg oed aeth i'r ysgol gelf ddinesig yn La-Chaux-de-Fonds a ddysgodd y celfyddydau cymhwysol a oedd yn gysylltiedig â gwneud clociau ac oriorau. Dair blynedd yn ddiweddarach mynychodd y cwrs addurno uwch, cwrs a sefydlwyd gan yr arlunydd Charles L'Eplattenier. Ysgrifennodd Le Corbusier yn ddiweddarach fod L'Eplattenier wedi ei wneud yn "ddyn y coedwigoedd" ac wedi dysgu iddo beintio o fyd natur.[10] Byddai ei dad yn aml yn mynd ag ef am dro i'r mynyddoedd o amgylch y dref. Ysgrifennodd yn ddiweddarach, "roeddem yn gyson ar fynydd-dir; fe wnaethon ni ddod yn gyfarwydd â gorwel helaeth, pell." Ei athro pensaernïaeth yn yr Ysgol Gelf oedd y pensaer René Chapallaz, a gafodd ddylanwad mawr ar ddyluniadau tai cynharaf Le Corbusier. Adroddodd yn ddiweddarach mai'r athro celf L'Eplattenier a barodd iddo ddewis pensaernïaeth. "Roedd gen i ofn pensaernïaeth a phenseiri," ysgrifennodd. "... Roeddwn i'n un ar bymtheg oed, derbyniais y dyfarniad ac ufuddheais: symudais i mewn i fyd pensaernïaeth."[11]
Teithio a chynllunio'r tŷ cyntaf (1905–1914) Golygu
-
Prosiect pan yn fyfyriwr: y Villa Fallet, caban yn La Chaux-de-Fonds, yn y Swistir (1905)
-
Y "Maison Blanche", a adeiladwyd ar gyfer rhieni Le Corbusier yn La Chaux-de-Fonds (1912)
-
Y tu fewn i "Maison Blanche" (1912)
-
Y "Villa Favre-Jacot" yn Le Locle, y Swistir (1912)
Dechreuodd Le Corbusier ddysgu ei hun trwy fynd i'r llyfrgell i ddarllen am bensaernïaeth ac athroniaeth, trwy ymweld ag amgueddfeydd, trwy fraslunio adeiladau, a thrwy eu hadeiladu. Ym 1905, dyluniodd ac adeiladodd ef a dau fyfyriwr arall, dan oruchwyliaeth eu hathro, René Chapallaz, ei dŷ cyntaf, y Villa Fallet, ar gyfer yr engrafwr Louis Fallet, ffrind i'w athro Charles L'Eplattenier. Wedi'i leoli ar ochr y bryn coediog ger Chaux-de-fonds, roedd yn sialens enfawr gyda tho serth yn yr arddull Alpaidd leol a phatrymau geometrig lliw wedi'u crefftio'n ofalus ar y ffasâd. Arweiniodd llwyddiant y tŷ hwn at adeiladu dau dŷ tebyg, y Villas Jacquemet a Stotzer, yn yr un ardal.[12]
Ym mis 1907, gwnaeth ei daith gyntaf y tu allan i'r Swistir, gan fynd i'r Eidal; yna'r gaeaf hwnnw teithiodd drwy Budapest i Fienna, lle arhosodd am bedwar mis a chwrdd â Gustav Klimt a cheisio, heb lwyddiant, cwrdd â Josef Hoffmann.[13] Yn Fflorens, ymwelodd â Charterhouse Florence yn Galluzzo, a wnaeth argraff ddofn arno. "Byddwn i wedi hoffi byw yn un o'r hyn roedden nhw'n ei alw'n gelloedd," ysgrifennodd yn ddiweddarach. "Dyma oedd yr ateb ar gyfer math unigryw o dai gweithwyr, neu'n hytrach ar gyfer paradwys ddaearol."[14] Teithiodd i Baris, ac yn ystod un-deg-pedwar mis rhwng 1908 a 1910 bu’n gweithio fel drafftiwr yn swyddfa’r pensaer Auguste Perret, arloeswr y defnydd o 'goncrit-wedi’i-atgyfnerthu' mewn adeiladu preswyl, a phensaer y gwaith Art Deco Théâtre des Champs- Élysées. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, rhwng Hydref 1910 a Mawrth 1911, teithiodd i'r Almaen gan weithio am bedwar mis yn swyddfa Peter Behrens, lle roedd Ludwig Mies van der Rohe a Walter Gropius hefyd yn gweithio ac yn dysgu.[15]
Yn 1911, teithiodd eto gyda'i ffrind August Klipstein am bum mis;[16] y tro hwn, teithiodd i'r Balcanau gan ymweld â Serbia, Bwlgaria, Twrci, Gwlad Groeg, yn ogystal â Pompeii a Rhufain, gan lenwi bron i 80 o lyfrau brasluniau'n gofnod o'r hyn a welodd - gan gynnwys llawer o frasluniau o'r Parthenon, y byddai ei ganmol, yn ddiweddarach, yn ei gwaith Vers une architecture (1923). Soniodd am yr hyn a welodd yn ystod y daith hon mewn llawer o'i lyfrau, ac yn bwysicach, roedd yn destun ei lyfr olaf, sef Le Voyage d'Orient.[15]
Yn 1912, dechreuodd ei brosiect mwyaf uchelgeisiol: tŷ newydd i'w rieni, hefyd wedi'i leoli ar ochr bryn coediog (ger La-Chaux-de-Fonds). Roedd tŷ Jeanneret-Perret yn fwy na'r lleill, ac mewn arddull fwy arloesol; roedd y llinellau llorweddol yn cyferbynnu’n ddramatig â’r llethrau alpaidd serth, ac roedd y waliau gwyn a’r diffyg addurn yn cyferbynnu’n llwyr â’r adeiladau eraill ar ochr y bryn. Trefnwyd y rhannau mewnol o amgylch pedair colofn y salon yn y canol, gyda'r tu mewn agored fel rhyw ragymadrodd i'r hyn y byddai'n ei greu yn ei adeiladau diweddarach.
Roedd y prosiect yn ddrytach i'w adeiladu nag a ddychmygodd; gorfodwyd ei rieni i symud o'r tŷ o fewn deng mlynedd, ac adleoli mewn tŷ llai. Fodd bynnag, arweiniodd y tŷ hwn at gomisiwn i adeiladu fila hyd yn oed yn fwy mawreddog fyth - ym mhentref cyfagos Le Locle, ar gyfer gwneuthurwr clcoiau, Georges Favre-Jacot. Dyluniodd Le Corbusier y tŷ newydd mewn llai na mis. Dyluniwyd yr adeilad yn ofalus i ffitio ei safle ar ochr y bryn, ac roedd y cynllun mewnol yn helaeth ac wedi'i ddylunio o amgylch cwrt ar gyfer y golau mwyaf posibl, ac yn gwbwl wahanol i'r tŷ traddodiadol.[17]
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ American Heritage Dictionary; Le Corbusier; adalwyd 16 Awst 2019
- ↑ Merriam-Webster; Corbusier, Le; adalwyd 16 Awst 2019
- ↑ "The Architectural Work of Le Corbusier, an Outstanding Contribution to the Modern Movement". Cyrchwyd 14 Hydref 2016.
- ↑ www.bbc.co.uk
- ↑ www.nytimes.com
- ↑ Antliff,Mark, "Avant-Garde Fascism: The Mobilization of Myth, Art, and Culture in France, 1909–1939"
- ↑ Marc Solitaire, Le Corbusier et l'urbain – la rectification du damier froebelien, pp. 93–117.
- ↑ Actes du colloque La ville et l'urbanisme après Le Corbusier, éditions d'en Haut 1993 – ISBN 2-88251-033-0.
- ↑ Marc Solitaire, Le Corbusier entre Raphael et Fröbel, pp. 9–27, Journal d'histoire de l'architecture N°1, Presses universitaires de Grenoble 1988 – ISBN 2-7061-0325-6.
- ↑ Marc Solitaire, Le Corbusier entre Raphael et Fröbel, p32, Journal d'histoire de l'architecture N°1, Presses universitaires de Grenoble 1988 – ISBN 2-7061-0325-6.
- ↑ Ffynhonnell: Jean Petit, Le Corbusier lui-meme, Rousseau, Geneva 1970, tud. 28.
- ↑ Marc Solitaire, Le Corbusier entre Raphael et Fröbel, p 49, Journal d'histoire de l'architecture N°1, Presses universitaires de Grenoble 1988 – ISBN 2-7061-0325-6.
- ↑ Marc Solitaire, Le Corbusier entre Raphael et Fröbel, pp. 49, Journal d'histoire de l'architecture N°1, Presses universitaires de Grenoble 1988 – ISBN 2-7061-0325-6.
- ↑ Letter to Eplattenier in Dumont, Le Corbusier, Lettres a ses maitres, vol. 2, pp. 82–83.
- ↑ 15.0 15.1 Marc Solitaire, Le Corbusier entre Raphael et Fröbel, pp. 32, Journal d'histoire de l'architecture N°1, Presses universitaires de Grenoble 1988 – ISBN 2-7061-0325-6.
- ↑ Žaknić, Ivan (2019). Klip and Corb on the road. Zürich: Scheidegger & Spiess. ISBN 978-3-85881-817-1.
- ↑ Marc Solitaire, Le Corbusier entre Raphael et Fröbel, p 49, Journal d'histoire de l'architecture N°1, Presses universitaires de Grenoble 1988 – ISBN 2-7061-0325-6.
Ffynonell Golygu
- Journel, Guillemette Morel (2015). Le Corbusier- Construire la Vie Moderne (yn Ffrangeg). Editions du Patrimoine: Centre des Monument Nationaux. ISBN 978-2-7577-0419-6.