Legio XII Fulminata

Lleng Rufeinig oedd Legio XII Fulminata. Fe'i ffurfiwyd gan Iŵl Cesar yn 58 CC, a bu ganddi enwau eraill megis Paterna, Victrix, Antiqua, Certa Constans a Galliena. Ei symbol oedd y daranfollt (fulmen).

Legio XII Fulminata
Enghraifft o'r canlynolLleng Rufeinig Edit this on Wikidata
LleoliadBabylon Fortress Edit this on Wikidata
GwladwriaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ymladdodd dros Cesar yn erbyn yr Helvetii ac yn erbyn y Nervii. Yn y rhyfel cartref yc hydig yn ddiweddarach, ymladdodd drosto yn erbyn Pompeius ym mrwydr Pharsalus, a chafodd yr enw Victrix.

Wedi llofruddiaeth Cesar, ymladdodd dros Marcus Antonius, a roddodd yr enw Antiqua iddi. Ymladdodd dan Antonius yn erbyn y Parthiaid yn 36 CC. Dan yr ymerawdwr Augustus, bu yn yr Aifft am gyfnod, yna o 14 O.C. yn Syria, lle roedd ei gwersyll yn Raphana gyda Legio III Gallica.

Yn 54, wedi i Vologases I, brenin Parthia feddiannu Armenia, ymladdodd y lleng yn erbyn y Parthiaid dan y cadfridog Gnaeus Domitius Corbulo. Yn 62, dan Lucius Caesenius Paetus, gorchfygwyd y lleng yma a Legio IV Scythica gan y Parthiaid, ac ni chawsant ran yn ymgyrch lwyddiannus Corbulo yn erbyn y Parthiaid yn fuan wedyn.

Yn 66, dechreuodd y gwrthryfel mawr Iddewig. Cipiwid Jeriwsalem gan y Selotiaid a gyrrwyd Legio XII Fulminata gyda rhannau o IV Scythica a VI Ferrata dan lywodraethwr Syria, Gaius Cestius Gallus i adfeddiannu'r ddinas. Nid oedd byddin Gallus yn ddigon cryf i gipio'r ddinas, ac wrth ddychwelyd o jeriwsalem gorchfygwyd hwy gan yr Iddewon ym mrwydr Beth Horon. Collodd y lleng ei heryr a dioddef colledion trwm. Cymrodd ran yn ymgyrch Vespasian ac yn nes ymlaen ei fab Titus yn erbyn y gwrthryfelwyr, ac wedi cwymp Jeriwsalem, gwersyllwyd hi ym Melitene gyda XVI Flavia Firma, i warchod y ffin ar afon Ewffrates.

Yn 75, dan Domitian, roedd y ymladd yn y Cawcasws. Ceir arysgrif yn Azerbhaijan gydag enw'r lleng. Yn 134, ymladdodd yn erbyn yr Alaniaid dan Arrianus, llywodraethwy Cappadocia. Ymladdodd dan Marcus Aurelius yn erbyn y Quadi. Wedi marwolaeth yr ymerawdwr Pertinax yn 193, bu ymryson am yr orsedd. Cefnogodd y lleng Pescennius Niger, llywodraethwr Syria, ond gorchfygwyd ef gan Septimius Severus. Yn ôl y Notitia Dignitatum roedd y lleng yn dal i wersylla ym Melitene tua 400.