Llygoden ffyrnig
Rattus norvegicus

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Rodentia
Teulu: Muridae
Is-deulu: Murinae
Genws: Rattus
Fischer de Waldheim, 1803
Rhywogaeth: 64 rhywogaeth
Enw deuenwol
Rattus norvegicus
(Berkenhout, 1769)
Dosbarthiad

Llygoden fawr lwydfrown hollysol ddinistriol iawn o isdeulu'r Murinae yw'r llygoden ffyrnig (Rattus norvegicus). Mae ganddi gorff braidd yn fawr a chynffon hir gennog, ac mae hi fel arfer yn byw mewn tyllau tanddaearol. Adnabyddir hi hefyd fel llygoden Ffrengig, llygoden fawr, llygoden Norwy, llygoden llwyd a llygoden winau. Mae'n un o'r llygod mawr mwyaf cyffredin heddiw ac yn un o'r mwyaf enwog yn y genws Rattus.

Y llygoden ffyrnig yw un o'r mwyaf yn yr is-deulu, o ran ei maint, gyda hyd corff a phen o 28 cm (11 modfedd), a chynffon fymryn yn llai; mae'n frown neu lwydaidd ei lliw. Mae'n pwyso rhwng 140 a 500 g (5 a 18 owns). Credir iddi darddu'n wreiddiol o ogledd Tseina, ond mae'r cnofil hwn wedi ymledu i bob cyfandir ag eithrio'r Antarctig, a hon yw'r prif lygoden fawr o ran niferoedd yn Ewrop a llawer o Ogledd America. Mae lle i ddadlau mai hon, ar y sail yma o leiaf, yw mamal mwyaf llwyddiannus yn y byd yn gyfochrog â'r hil ddynol.[1]

Ar wahan i eithriadau prin, mae'r llygoden ffyrnig yn byw'n agos at bobl, yn enwedig mewn ardaloedd trefol.

Llygod mawr fel grŵp

golygu

Yn gonfensiynol mae'r llygod bach yn llai, ond nid yw'r termau sgyrsiol hyn yn anhyblyg (gweler llygoden ddu isod).

Aelodau'r genws Rattus yw'r llygod mawr yn ystyr manylaf, a'r pwysicaf ohonynt i'r ddynolryw yw'r llygoden ddu (Rattus rattus) a'r llygoden ffyrnig (R. norvegicus). Cyfeirir hefyd at lawer o deuluoedd a genera'r cnofilod eraill fel llygod mawr (e.e. mwsglygod, llygod neidio, llygod fochog, ayb.), gan iddynt rannu llawer o'r nodweddion â'r gwir lygod mawr.

Oni chyfeirir yn wahanol, cedwir at yr ieithwedd hon, serch mai llygoden fawr hefyd yw'r enw llafar mwyaf cyffredin ar Rattus norvegicus.

Enwau a geirdarddiad

golygu

Pwyllgor Enwau a Thermau Cymdeithas Edward Llwyd fu'n gyfrifol yn 1994 am safoni enwau'r mamoliaid gan geisio rhoi trefn ar yr amryfal enwau rhanbarthol ar y grwp hwn o gnofilod.[2] Mae'r rhestr hon hefyd ar lein trwy wefan Prosiect Llên Natur (Y Bywiadur).

Ni wyddys i sicrwydd paham yr enwyd y llygoden ffyrnig yn Rattus norvegicus gyda'i gyfeiriad at Norwy, gan na tharddodd o Norwy o gwbl[angen ffynhonnell] ond credir mai'r naturiaethwr o Sais Berkenhout a roes yr enw arni gan dybio iddi ymfudo i Loegr ar longau Norwyaidd yn 1728. Erbyn 1748 roedd William Bulkeley o'r Brynddu, Llanfechell, Môn, yn cofnodi'n rheolaidd yn ei ddyddiadur sylwadau megis talu 6d to buy Arsenick for the Norway rats.[3] Mae amseru'r cofnod hwn yn gyson a'r ddamcaniaeth mai Berkenhout gychwynnodd y myth am y tarddiad Norwyaidd - dengys hefyd o bosib dystiolaeth gyntaf o bresoldeb llygod ffyrnig ym Môn (gweler adran Hanes/Cymru).

Er i nifer o syniadau ynglŷn â tharddiadau'r rhywogaeth gylchredeg yn y cyfamser hyd at yr 20ed ganrif, parhaodd y myth am y tarddiad Norwyaidd nes ei ymwaredu o'r diwedd pan sylweddolwyd iddi yn hytrach darddu o Ganoldir Asia ac (mae'n debyg) Tseina.[4]

  • Canfyddiad y gorffennol
Papur Pawb, 1893: "LLYGOD FFRENGIG BRODORION o Asia ydyw y llygod hyn. Daethant i Ewrop yn lled ddiweddar. Ni 'wyddid dim am danynt yno. Daeth y llygoden ddu gyntaf i Ewrop yn yr 16eg ganrif, ac yn nechreuad yr 17eg cyrhaeddodd y llygod hyn yr America. Tan 1775 y llygod duon oedd y rhai a fynychent dai. Ar ol hyny daeth y llygod gwineu i fodolaeth. Daeth y rhai gwineu i Ewrop o India drwy Rwsia."[5]
  • Gwybodaeth diweddaraf (2018)

A hwythau o bosib yn tarddu o wastatiroedd Asia, gogledd Tseina a Mongolia, ymledodd llygod ffyrnig i fannau eraill y byd rhywbryd yn y Canol Oesoedd.[6][7][8] Yn absenoldeb pobl mae llygod ffyrnig yn ffafrio cynefinoedd llaith fel glannau afonydd. Fodd bynnag, mae'r mwyafrif helaeth erbyn hyn yn gysylltiedig â chynefinoedd a greuwyd gan ddyn, megis systemau carthfosiaeth.

 
Llygoden ffyrnig mewn blwch blodau ym Manhattan, Efrog Newydd

Mae'n gwestiwn o hyd pa bryd y daeth y rhywogaeth yn gyd-drigol â dyn yn y lle cyntaf, ond dilyn llwybrau ymfudo dynol a wnaeth, ac erbyn hyn mae'n bodoli bron lle bynnag mae pobl yn bodoli.[9]

Gallasai'r llygoden ffyrnig fod yn bresennol yn Ewrop mor fuan â 1553, casgliad a dynnwyd o ddisgrifiad o lun gan naturiaethwr o'r Swisdir Conrad Gesner yn ei lyfr Historiae animalium, a gyhoeddwyd yn 1551-58.[10] Er y gallasai ddisgrifiad Gesner fod yn gymwys i lygoden ddu, mae ei son am ganran fawr o sbesimenau albinaidd - nid yn anghyffredin ymysg poblogaethau gwyllt o lygod ffyrnig - yn rhoi peth hygrededd i'r dehongliad hwn.[11]

Yn 1762 cofnododd William Morris o Lanfihangel Tre'r Beirdd, Môn, mewn llythyr at ei frawd Lewis, i’r perwyl canlynol:

"Mi wranta eich bod yn cynhafa eich llafur yn ffwdanllyd. Cawsom yma'n ddiweddar wlaw trwm iawn a gwyntoedd, ond y mae'r hin yn oer ac yn wyntiog er llês yr ŷd sydd ar lawr. Dyw Llun y bu ganwyf finau dri dyn yn Medi fy holl ŷd, a mawr nid ychydig oedd y drafferth: llygod Norwy yn ei ysu oddiar ei draed. Nid oedd mo'r genedl honno pan oeddech yn taring yn y Gaer einom, nid hwyrach mae gweddill y Llychlyniaid fyddai yn gormesu arom [sic.] y dyddiau gynt i'w rhain."[12]

Yn ôl y dystiolaeth hon, cyrhaeddodd llygod ffyrnig Fôn rhywbryd yn ystod y ddwy flynedd ar ôl i Lewis Morris ymadael a'r ynys yn barhaol yn 1746[13] a chyn 1748 pan roedd eisoes yn achosi problemau i William Bulkeley (gweler Enwau ac Etymoleg). Dyma felly ddyddiad tra manwl o ddyfodiad cyntaf rhywogaeth estron i Fôn. O ddiddordeb pellach i hyn, fe ddaeth i'r amlwg bod ynys oddiar pentref Moelfre, Môn, a elwir yn Ynys Swnt ar lafar heddiw ac a elwir yn Saesneg yn Rat Island, wedi ei henwi ar fap Lewis Morris (dyddiedig 1748) fel Ynys Lygod [1]. Ceir cyfeiriad at Ynys Llygod, ym Môn, yn 1536-39 gan John Leland.[14] Efallai ei bod yn berthnasol i hyn mai dim ond ar Ynys Lundy mae'r llygoden ddu yn dal ei thir bellach ym Mhrydain, ac mai un o'i henwau Saesneg yw ship rat.[angen ffynhonnell]

Disgrifiad

golygu
 
Cymhariath rhwng y llygoden ddu (uchod) a'r llygoden ffyrnig (isod)

Mae blew y llygoden ffyrnig o ansawdd cwrs o liw brown neu lwyd, gyda'r tor yn oleuach. Mae'n fawr ei chorff o'i chymharu ag eraill yn ei theulu ac fe all bwyso cymaint ddwywaith â'r llygoden ddu (Rattus rattus) a llawer iawn mwy na llygoden y tŷ (Mus musculus). Hyd y pen a'r corff yw 15 to 28 cm (5.9 to 11.0 mod) gyda hyd y gynffon yn mesur o 10.5 to 24 cm (4.1 to 9.4 mod), ac felly yn fyrrach na gweddill y corff. Mae'r oedolyn yn pwyso o 140 to 500 g (4.9 to 17.6 oz).[15][16][17][18]

Gall unigolion eithriadol o fawr gyrraedd 900 to 1,000 g (32 to 35 oz), gan amlaf o blith sbesimenau dof. Mae straeon gorddweud amdanynt yn cyrraedd maintioli cathod, ond enghreifftiau o gam-adnabod am gnofilod mwy, fel coipw (Myocastor coypus) neu fwsglygoden (Ondatra zibethica) yw rhain. Mewn gwirionedd, mae'n gyffredin i lygod ffyrnig bwyso llai (weithiau yn sylweddol lai) na 300 g (11 oz).[19][20]

Mae clyw y llygoden ffyrnig yn fain, yn synhwyro sain o uwch-donfeddi ac mae'n meddu ar synnwyr arogleuol datblygedig iawn. Mae curiad eu calon yn 300 i 400 curiad y funud, a graddfa anadliadol o 100 anadl y funud. Nid yw'r sbesimenau â phigment golau yn llym iawn eu golwg, tra bod rhai heb bigment yn waeth. Mae ganddynt olwg ddicromaidd, hynny yw, gallant weld lliwiau mewn modd tebyg i fodau dynol gyda'u dallineb cymharol i liw coch-gwyrdd. Mae eu gwelediad o uwch-fioled yn well ac yn hynny o beth yn wahanol i lawer o rywogaethau eraill.[21]

Bioleg ac ymddygiad

golygu
 
Penglog llygoden ffyrnig

Mae'r llygoden ffyrnig yn nosol ac yn nofiwr da, tan y dŵr ac ar yr wyneb, ac yn ddringwr da: fe gafodd ei gweld yn dringo polion metal crwn sawl troedfedd i gyrraedd cewyll porthi adar(Delwedd i ddod). Mae llygod ffyrnig yn dyllwyr, yn aml yn creu systemau labyrithaidd o dwneli. Darganfyddwyd mewn astudiaeth o 2007 bod y llygod hyn yn meddu ar fetawybyddiaeth, math o allu meddyliol a wyddys amdano mewn primatiaid yn unig (gan gynnwys dyn)[22] ond bu'n rhaid bwrw amheuon ar y casgliadau yn hwyrach.[23]

Sborionwr o fri, yn gallu byw ar unrhyw wastraff organig fel arfer ar gyrion gweithgareddau dyn.

Ers stalwm roedd llygod mawr yn sgut am garnau meirch, ac roedd yr Efail Castell yn berwi efo nhw.[24]

Dosbarthiad a chynefin

golygu

A hwythau o bosib yn tarddu o wastatiroedd Asia, gogledd Tseina a Mongolia, ymledodd llygod ffyrnig i fannau eraill y byd rhywbryd yn y Canol Oesoedd[6][7][8]. Yn absenoldeb pobl mae llygod ffyrnig yn ffafrio cynefinoedd llaith fel glannau afonydd. Fodd bynnag, mae'r mwyafrif helaeth erbyn hyn yn gysylltiedig â chynefinoedd a greuwyd gan ddyn, megis systemau carthfosiaeth.

 
Brown rat in a flower box in the East Village of New York City

Mae'n gwestiwn o hyd pryd y daeth y rhywogaeth yn gyd-drigol â dyn, ond dilyn llwybrau ymfudo dynol a wnaeth, ac erbyn hyn mae'n bodoli bron lle bynnag mae pobl yn bodoli.[9]

Wrth iddi ymledu o Asia, disodlwyd y llygoden ddu gan y llygoden ffyrnig yng nghyffinau anheddau dyn. Yn ogystal â bod yn fwy o faint ac yn ymosodol, bu'r newid o adeiladau pren a thouau o wellt i adeiladau o fric a cherrig gyda tho o lechi neu deils yn ffafrio'r tyllwr, sef y llygoden ffyrnig, ar drael y prendrigol lygoden ddu. Yn ogystal mae'r llygoden ffyrnig yn bwyta ystod eang o fwyd, ac yn gwrthsefyll eithafion tywydd yn well.[25]

Dywedir yn aml bod cynifer o lygod ffyrnig mewn dinasoedd ag sydd yna o bobl ond fe amrywia hyn o le i le ac ar hinsawdd, amodau byw ayb. Mae llygod ffyrnig mewn dinasoedd yn tueddu i grwydro'n eang, yn aml yn aros o fewn 20 m (66 tr) o'u nythfa os oes cyflenwad dwys addas o fwyd ar gael, ond fe grwydra'n ehangach pan fo bwyd yn brinach.

Fu'n ddadl fawr ynglŷn â pha faint o lygod sydd yn Efrog Newydd gydag amcangyfrifon yn amrywio o 100 miliwn i chyn lleied â 250,000.[26] Awgryma wybodusion bod Efrog Newydd yn ffafrio llygod ffyrnig yn arbennig oherwydd ei hisadeiledd heneiddiedig, lleithder uchel, a lefelau uchel o dlodi[26]. Yn ychwanegol i dwneli carthffosiaeth, mae llygod ffyrnig yn gyffyrddus yn byw i mewn ac o gwmpas adeiladau anedd gan fod ffynhonnell parhaus a digonol o fwyd yn y parthau hynny.[27]

Yn y Deyrnas Gyfunol, dengys rhai ffigyrau y bu'r boblogaeth llygod ffyrnig yn cynyddu gydag amcangyfrifon o 81 miliwn ohonynt yn ymgartrefu yma.[28] Mae ffigyrau o'r fath yn awgrymu 1.3 llygoden i bob person. Priodolir poblogaethau uchel yn y DG i hinsawdd tyner sydd yn caniatau goroesiad uchel dros y gaeaf.

Heintiau

golygu

Yn debyg i nifer o gnofilod eraill gall llygod ffyrnig gario nifer o bathogenau[29] all achosi salwch, gan gynnwys clefyd Weil, cryptosporidiosis a nifer o glefydau eraill.

Credir yn gyffredin bod y llygoden ffyrnig yn gronfa bwysig haint y nodau neu'r chwaren, achos posib y Pla Du. Fodd bynnag, mae'r bacteriwm sy'n gyfrifol, Yersinia pestis, yn endemig i ddim ond ychydig o rywogaethau cnofilaidd, ac sy'n cael ei drosglwyddo fel arfer trwy gyfryngwr anifeilaidd, sef y chwanen - ymysg y trosglwyddyddion cyffredin heddiw yw gwierod daear a llygod mawr y coed. Fodd bynnag, fe all llygod ffyrnig eu hunain ddioddef o'r pla, fel yn wir y gall llawer o rhywogaethau nad ydynt yn gnofilod o gwbl, megis cwn, cathod ac wrth gwrs pobl[30]

Trosglwyddydd gwreiddiol chwain heintiedig y credir iddynt ledaenu'r Pla Du oedd y llygoden ddu Rattus rattus ac fe ddamcanieithid mai disodliad hon gan y llygoden ffyrnig fu'n gyfrifol am drai y pla du.[31] Fodd bynnag fe ddilornid y ddamcaniaeth hon gan nad oes gyd-amseru agos rhwng y cyfryw ddisodliadau ac ymddangosiadau'r pla.[32]

Mewn caethiwed

golygu

Defnyddir y llygoden ffyrnig mewn tri math o gaethiwed: a) mewn gwyddoniaeth mewn labordai[33], b) fel anifeiliaid anwes (ffurfiwyd nifer o glybiau "Ffansi" dros y byd i hybu perchnogaeth yr anifail a chydlynu ymgyrchoedd bridio, ac yn olaf c) llygod gwaith sydd wedi eu hyfforddi i wneud tasgiau penodol. Yn yr ail gyswllt dywed Twm Elias mai Jack Black, llygotwr i'r Frenhines Fictoria, oedd y cyntaf i fridio llygod mawr o wahanol liwiau. Yn y trydydd cyswllt sonia am lygod mawr ar denyn yn cael eu defnyddio i ddarganfod ffrwydron tir.[34]

Llên gwerin

golygu

Mae dyn wedi byw efo a chystadlu yn erbyn llygod mawr ers cychwyn gwareiddiad - ers inni ddechrau tyfu a storio bwyd a grawn at y gaeaf yn sicr. Denwyd llygod bach a mawr at ein tai, beudai a’n sguboriau byth ers hynny a bu i ninnau frwydro i geisio eu hatal rhag lladrata ein bwyd a bwyd ein hanifeiliaid. Yn sgil ein perthynas hir â'r cyd-drigolion hyn mae'n anochel i gyfoeth o straeon a dywediadau ddatblygu am y berthynas honno.

Tynnir yn helaeth yn yr adran hon ar waith Twm Elias. Yn aml dilynnir y dafodiaith arferol "llygoden fawr".

Mae'r straeon hyn yn hen neu yn ddiamser, yn fetafforau i adlewyrchu cyfres o nodweddion dynol arbennig, ac yn cael eu hailadrodd o'r newydd hyd ein hoes ni. Mae'r rhan fwyaf yn eithaf negyddol, ond nid pob tro chwaith:

Clyfrwch a chyfrwystra

Dwy lygoden fawr yn dwyn cnau o gratsh bwydo adar yn yr ardd. Roedd un wedi ymestyn o frigyn gerllaw fel bod un goes ac un ‘llaw’ yn gafael yn y brigyn a’r goes a’r ‘llaw’ arall yn gafael yn y cratsh. Roedd hyn yn creu pont i’r llygoden arall ddringo ar draws ei chymar i ddwyn y cnau. Yna, newidiodd y ddwy drosodd, fel bod y bwytwr bellach yn bont a’r bont bellach yn bwyta. Dyma gydweithrediad effeithiol iawn.
Dull un llygoden fawr o gael olew had llîn o bot hanner llawn - roedd lefel yr olew chydig yn rhy isel i’r llygoden fedru ei gyrraedd. Felly, dyma hi’n gollwng ei chynffon i lawr i’r pot nes cyrraedd yr olew ac yna ei thynnu allan a’i llyfu’n lân, a’i gollwng i lawr eto sawl gwaith i gael mwy.

Llwfdra:

Pan fyddwch mewn helbul a’ch ‘ffrindiau’ yn troi cefn arnoch, dywedir eu bod yn eich gadael ‘fel llygod mawr yn gadael y llong’ (h.y., cyn iddi suddo).

Anlwc a gwae:

Dywedir bod haid o lygod mawr sy’n symud yn dod ag anlwc. Digon gwir efallai, am mai symyd i chwilio am fwyd y byddent ac yn anlwc o’r mwya os mai dod i’ch tas ŷd chi y byddant.
Gwelodd gŵr haid o lygod mawr yn croesi ei ffordd un bore wrth iddo fynd i’w waith yn chwarel Carreg y Llam, Llithfaen. Y prynhawn hwnnw disgynodd i’r cryshar cerrig a chael ei ladd.

Hunanoldeb:

I'r sawl y maent yn ymadael â'i dir, mae’n arwydd nad oes ganddo ddim ar ôl sy'n werth ei gael.

Trefn cymdeithas:
Dywedir mai llygoden fawr wen anferth yw ‘Brenin’ y llygod mawr ac mai hon fydd ar y blaen pan fydd yr haid yn symyd. Roedd hanesion am lygoden wen fawr yn arwain ei haid yn gyffredin iawn trwy Gymru ar un adeg. Ceir adroddiad am hyn yn Y Cymro, 1947:

Yng Nghaernarfon yn ddiweddar daliwyd un o frenhinoedd llygod mawr y dref. Mesurai Ei Fawrhydi ddeunaw modfedd o’i drwyn i flaen ei gynffon… Cefais yr hanes mewn swyddfa fechan lle mae Mr. Bob Roberts, swyddog iechyd y dref, a Mr. Tom Jones, y daliwr llygod profiadol yn gweithio, pan na bont ar y trywydd.
“Sut mae adnabod y brenin?” gofynais.
“O, y mae o’n llawer goleuach ei bryd na’r gweddill,” fe’m hatebwyd. “Ac y mae o bob amser yn arwain”.[34][35][36]

A hanesyn cyfoes i berwyl tebyg; ai “llên gwerin“ yw’r canlynol?:

Llygod mawr mewn fflyd:
”Rwyf yn cael cip olwg ar bob rhifyn Fferm a Thyddyn sydd yn cyrraedd fy'n nhwylo. Rwyf wedi gweld son am lygod mawr mwy nag unwaith yn Fferm a Thyddyn; hoffem adrodd i chwi beth welais mis Ionawr eleni [2013]. Rwyf yn byw ym mhentref Bronant a phob bore rwyf yn teithio draw i Penuwch tua 5:30am i fwydo’r ddau geffyl, a rhoddi tro i'r ci, cyn dechrau gwaith. Y bore yma ym mis Ionawr roeddwn rhwng Penuwch a Tyncelyn (crossroads) ger tyddyn o'r enw Bwlchgwynt, gwelais gannoedd neu filoedd o lygod mawr yn croesi’r ffordd. Sefais yn edrych arnynt am tua 2 funud. Ni welais lygoden wen yn arwain, ond roedd y llygod yn teithio yn groes i’r ffordd pam ddois arnynt - falle fod y llygoden wen wedi croesi cyn i fi ddod. Rhaid dweud roedd gweld cymaint o lygod mawr yn codi ychydig o fraw arnaf ac hefyd yr un pryd, un o'r pethau gorau rwyf wedi ei weld erioed..... hoffen ni wybod pam a pha mor aml mae'r llygod yn teithio mewn nifer mawr fel hun.”[37]

Dulliau o ladd:

Baner ac Amserau Cymru, 1900: "LLYGOD FFRENGIG. Y mae y llygod hyn yn bur anhawdd eu difa, oddi gerth i un gael gafael ar rywbeth a'u huda i fwyta gwenwyn ond nid pawb a geir yn foddlawn i ddefnyddio gwenwyn, yn enwedig yn agos i'r beudai, &c. Treier ychydig ddyferion o oil of rhodium ag [sic.] arogl pur gryf arno, wedi ei dywallt ar waelod y cawell, neu y trap. Y maent yn hoff iawn o dynu at yr olew hwn ac os ceir hwy i'r trap rywfodd, fe fydd y frwydr drosodd yn fuan."[38]
Baner ac Amserau Cymru, 1885: "LLADDWCH EICH LLYGOD. Foneddigion,... "Maluriwch ychydig o galch brwd am ben blawd ceirch, yn sych; oymmysgwch yn dda; a dodwch ef ar lestri yn ymyl tramwyfa y llygod a lleddwch hwy heb berygl na thrafferth." Bydd i'r llygod fwyta y calch yn gymmysg â'r blawd, ao felly eu lladd yn fuan - llawer rhatach a diogelach na gwenwyn peryglus y siopau. Yr eiddoch, &c., Ioan Dderwen o Fôn."[39]

Enwau lleoedd

golygu

Mae yna 37 o enwau lleoedd yng Nghronfa Enwau Lleoedd Melville Richards sydd yn cynnwys yr elfen -lygod-. Mae yna le (lleoedd?) o'r enw "Y Llygoden" yn Nhudweiliog, Llŷn, a oedd, yn 1652, yn ôl llawysgrifau Cefnamwlch (Cronfa Enwau Lleoedd Melville Richards), yn dwyn yr enwau "y llygoden vawr" ac "y llygoden fach"[2]. Ni wyddys ba rywogaethau o lygod a ysgogodd yr enwau hyn? A oedd y llygoden ddu Rattus rattus (cyn y bu'n rhaid defnyddio'r lliw du i'w gwahaniaethu oddi wrth Rattus norvegicus) yn dwyn yr enw llygoden fawr (i'w wahaniaethau yn hytrach oddi wrth y rhywogaethau bychain).

Perthynas â dyn

golygu

Y Cloriannydd, 1919: "LLYGOD LLWYD LEICESTER. Y tri mis diweddaf lladdwyd 65,153 o lygod mawr yn y sir uchod, a chostiodd hynny 814p Be 3o i'r Cyngor Sir - yn ol tair ceiniog y gynffon, sef dwbl y tal roddir ym Mon."[40]

The Welsh Coast Pioneer, 1910: "Poeni Llygod Frengig. Am boeni nifer fawr o lygod ffrengig a'u clymu mewn sach dirwywyd dyn o'r enw Edward Brockwell, y diwrnod o'r blaen, dwy bunt a deuswllt o gostau yn Heddlys Old Street, Llundain."[41]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Fragaszy, Dorothy Munkenbeck; Perry, Susan (2003). The Biology of Traditions: Models and Evidence. Cambridge University Press. t. 165. ISBN 0-521-81597-5.
  2. Cyfres Enwau Creadiaid a Phlanhigion: 1 Creaduriaid Asgwrn Cefn (cyh. Cymdeithas Edward Llwyd)
  3. Cofnod dyddiedig 20 Mehefin 1748: Dyddiadur William Bulkeley, Llanfechell, Môn (Trans AAS&FC 1931)
  4. Cornish, Charles John. (1908) The Standard Library of Natural History. The University Society, Inc. Volume 1, Chapter 9. pp. 159
  5. Papurau Newydd Cymru ar lein: Papur Pawb, 7 Hydref 1893
  6. 6.0 6.1 Tate, G.H.H. (1936). "Some muridae of the Indo-Australian region". Bulletin of the American Museum of Natural History 72: 501–728.
  7. 7.0 7.1 Silver, J. (1941). "The house rat". Wildlife Circ. 6: 1–18.
  8. 8.0 8.1 Southern, H.N. (1964). The Handbook of the British Mammals. Oxford: Blackwell Scientific.
  9. 9.0 9.1 Yoshida, T.H. (1980). Cytogenetics of the Black Rat: Karyotype Evolution and Species Differentiation. University of Tokyo Press. ISBN 0-8391-4131-9.
  10. Freye, H.A., and Thenius, E. (1968) Die Nagetiere. Grzimeks Tierleben. (B. Grzimek, ed.) cyf. 11 (Zurich: Kindler), tt. 204–211.
  11. Suckow et al. (2006) The Laboratory Rat, 2nd ed. Academic Press. pp. 74. ISBN 0-12-074903-3
  12. llythyr gan William Morris i'w frawd Lewis o Gaergybi, Awst 1762 (Llythyrau Morisiaid Môn)
  13. llythyr MW: Cymdeithas Morrisiaid Môn
  14. John Leland (1536-39), The Itinerary of Wales
  15. "Brown rat – Rattus norvegicus". The Mammal Society. n.d. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-05-24. Cyrchwyd 23 Mai 2018.
  16. "Brown rat - Rattus norvegicus". Encyclopedia of Life. n.d. Cyrchwyd 23 Mai 2018.
  17. Burton, Maurice; Burton, Robert (2002). International Wildlife Encyclopedia (yn Saesneg) (arg. Third). New York: Marshall Cavendish. tt. 298–299. ISBN 0761472886.
  18. Naughton, Donna (2012). The Natural History of Canadian Mammals (yn Saesneg). Toronto: University of Toronto Press. tt. 204–206. ISBN 1442644834.
  19. Clark, B. R.; Price, E. O. (1981). "Sexual maturation and fecundity of wild and domestic Norway rats (Rattus norvegicus)". Journal of Reproduction and Fertility 63 (1): 215–220. doi:10.1530/jrf.0.0630215.
  20. Leslie, P. H., Perry, J. S., Watson, J. S., & ELTON, C. (Chwefror 1946). "The Determination of the Median Body‐Weight at which Female Rats reach Maturity", yn Proceedings of the Zoological Society of London, cyf. 115 rhif 3‐4, tt. 473–488
  21. Hanson, Anne (14 Mawrth 2007). "What Do Rats See?". Rat Behavior and Biology. ratbehavior.org. Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2007.
  22. "Rats Capable Of Reflecting On Mental Processes". Science Daily – sourced from university of Georgia. 9 Mawrth 2007. Cyrchwyd 2 Awst 2007.
  23. Smith, J. David; Beran, M. J.; Couchman, J. J.; Coutinho, M. V. C. (2008). "The Comparative Study of Metacognition: Sharper Paradigms, Safer Inferences". Psychonomic Bulletin & Review 15 (4): 679–691. doi:10.3758/pbr.15.4.679. http://pbr.psychonomic-journals.org/content/15/4/679.full.pdf+html.[dolen farw]
  24. Eco'r Wyddfa (Tachwedd 1981)
  25. Teisha Rowland. "Ancient Origins of Pet Rats" Archifwyd 2015-09-24 yn y Peiriant Wayback, Santa Barbara Independent, 4 Rhagfyr 2009.
  26. 26.0 26.1 "New Yorkers vs. the Rat". Cyrchwyd 15 Mawrth 2008.
  27. Sullivan, Robert (2003). Rats: observations on the history and habitat of the city's most unwanted inhabitants. New York: Bloomsbury. ISBN 1-58234-385-3.
  28. Spanton, Tim (4 Chwefror 2008). "Britain plagued by 80 m rats". The Sun. London. Cyrchwyd 15 Mawrth 2008.
  29. "Rodent-borne diseases and their risks for public health". Crit Rev Microbiol 35 (3): 221–70. 2009. doi:10.1080/10408410902989837. PMID 19548807.
  30. "Merck Veterinary Manual". Cyrchwyd 11 Ionawr 2010.
  31. See e.g.,
  32. See e.g.:
  33. Baker, Henry J.; Lindsey, J. Russel; Weisbroth, Steven H. (1979). The laboratory rat: volume I – biology and diseases. Orlando, FL: Academic Press.
  34. 34.0 34.1 Twm Elias, Natur yn Galw (Gwasg Carreg Gwalch, 2018)
  35. Llafar Gwlad 140 (Mai 2018)
  36. Y Cymro, 7 Tachwedd 1947
  37. ”Eirwyn”, Llythyr i gylchgrawn Fferm a Thyddyn yn ymateb i ysgrif ymchwil Dafydd Guto i lygod mawr
  38. Baner ac Amserau Cymru, 18 Ebrill 1900
  39. Baner ac Amserau Cymru, 22 Gorffennaf 1885
  40. Y Clorianydd, 30 Ebrill 1919
  41. The Welsh Coast Pioneer and Review for North Cambria, 4 Awst 1910