Penbedw
Tref yng Nglannau Merswy, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Penbedw (Saesneg: Birkenhead).[1] Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Cilgwri. Saif ar lan Afon Merswy, ar benrhyn Cilgwri gyferbyn â Lerpwl.
Math | dinas fawr, ardal ddi-blwyf |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Fetropolitan Cilgwri |
Poblogaeth | 142,968 |
Gefeilldref/i | Latina |
Daearyddiaeth | |
Sir | Glannau Merswy (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 25.18 km² |
Cyfesurynnau | 53.38°N 3.02°W |
Cod OS | SJ324890 |
Cod post | CH41 |
Mae ganddi boblogaeth o oddeutu 83,729.[2] Mae Caerdydd 212.3 km i ffwrdd o Benbedw ac mae Llundain yn 288.5 km. Y ddinas agosaf ydy Lerpwl sy'n 7.6 km i ffwrdd.
Hanes
golyguAdeiladwyd Priordy benedictaidd Penbedw yn 1150.[3] Yn ddiweddarach adeiladwyd porthladd a thyfodd diwydiant adeiladu llongau yno.
Adeiladwyd y llong Dinbych ym Mhenbedw.
Adeiladu llongau
golyguDechreuwyd y dywidiant adeiladu llongau ym 1829.[4] Sefydlwyd gwaith haearn gan William Laird ym 1824. Ymunoedd ei fab John Laird â’r prosiect ym 1828. Daeth y cwmni Cammell Laird.
Statws
golyguAr un adeg, oedd Penbedw yn rhan o blwyf Bidston. Daeth Penbedw yn fwrddeistref drefol ym 1877, ac yn fwrddeistref sirol yn 1888. Roedd plwyf Penbedw Santes Fair, Bidston, Claughton, Oxton, Tranmere, a rhan o Bebington yn rhan o’r fwrddeistref. Ychwanegwyd Landican, Prenton a Thingwall ym 1928, a Noctorum, Upton a Woodchurch ym 1933.[5] Hyd at 1af Ebrill 1974, roedd Penbedw a gweddill Cilgwri yn rhan o Swydd Gaer; wedyn collodd Penbedw ei statws fel bwrddeistref sirol, a daeth yn rhan o Fwrddeistref Cilgwri yn Sir Glannau Merswy.
Trafnidiaeth
golyguFferiau
golyguDechreuodd y wasanaeth fferi gyntaf dros yr afon yn 1150.[6] Dechreuodd gwasanaeth fferi stêm rhwng Tranmere a Lerpwl ym 1817 ac un rhwng Woodside a Lerpwl ym 1822.[7]
Ffyrdd
golyguMae 2 dwnnel o dan Afon Merswy yn cysylltu Penbedw â Lerpwl, Twnnel Kingsway a Thwnnel Queensway. Agorwyd Twnnel Queensway ym 1934.
Rheilffyrdd
golyguTrefnir rheilffyrdd yr ardal gan Merseyrail. Agorwyd twnnel rheilffordd rhwng Penbedw â Lerpwl ym 1886, ac mae trenau’n mynd ymlaen o Benbedw i Gaer, Ellesmere Port, West Kirby a New Brighton.
Eisteddfod Genedlaethol
golyguCynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mhenbedw ym 1917. Dyfarnwyd y Gadair i Hedd Wyn, oedd wedi'i ladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Am wybodaeth bellach gweler:
Enwogion
golygu- Nigel Blackwell, canwr y band Half Man Half Biscuit
- Syr Lewis Casson (1875-1969), actor
- Marion Eames (1921-2007), nofelydd
- Tim Hetherington (1970-2011), ffoto-newyddiadurwr
- Glenda Jackson (g. 1936), actores a gwleidydd
- Megs Jenkins (1917-1998), actores
- Paul O'Grady (g. 1955), difyrwr a chyflwynydd teledu
- Ken McKenna (g. 1960), chwaraewr pêl-droed
- Jennie Thomas (1898-1979), awdures llyfrau plant
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 22 Medi 2021
- ↑ Gwefan ystadegau'r Cyfrifiad Cenedlaethol: Swyddfa Ystadegau Gwladol; adalwyd 09/02/2013
- ↑ Birkenhead Priory, Metropolitan Borough of Wirral, archifwyd o y gwreiddiol ar 4 March 2008, https://web.archive.org/web/20080304004402/http://www.wirral.gov.uk/LGCL/100009/200070/1017/content_0000524.html, adalwyd 14 Ionawr 2008
- ↑ Birkenhead-Built: An Unrivaled Historical Legacy, Institute of Nautical Archaeology, Prifysgol Texas A&M, http://nautarch.tamu.edu/PROJECTS/denbigh/Laird.htm
- ↑ Birkenhead – An Illustrated History|first=Ralph T|last=Brocklebank|publisher=Breedon Books|page=110|year=2003|isbn=1-85983-350-0
- ↑ Brocklebank, Ralph T (2003), Birkenhead – An Illustrated History, Breedon Books, pp. 14–15, ISBN 1-85983-350-0
- ↑ Mersey ferries, Amgueddfeydd Liverpool, http://www.liverpoolmuseums.org.uk/maritime/archive/pdf/Ships-Mersey%20Ferries%20no27.pdf, adalwyd 24 August 2012
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Saer llongau Laird,
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Penbedw 1917 Eisteddfod y Gadair Ddu
Dinas
Lerpwl
Trefi
Bebington ·
Bootle ·
Bromborough ·
Crosby ·
Formby ·
Halewood ·
Heswall ·
Hoylake ·
Huyton ·
Kirkby ·
Litherland ·
Maghull ·
New Brighton ·
Newton-le-Willows ·
Penbedw ·
Prescot ·
Southport ·
St Helens ·
Wallasey ·
West Kirby