Max Born
Ffisegwr Almaenig oedd Max Born (11 Rhagfyr 1882 – 5 Ionawr 1970) sydd yn nodedig am ei waith ym maes mecaneg cwantwm. Enillodd Wobr Ffiseg Nobel (ar y cyd â Walter Bothe) ym 1954 "am ei ymchwil sylfaenol ym mecaneg cwantwm, yn enwedig ei ddehongliad ystadegol o'r tonffwythiant".[1]
Max Born | |
---|---|
Max Born ym 1954. | |
Ganwyd | 11 Rhagfyr 1882 Wrocław |
Bu farw | 5 Ionawr 1970 Göttingen |
Man preswyl | Göttingen, Caeredin, Wrocław, Caergrawnt, Bad Pyrmont |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth yr Almaen, y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | ffisegydd, mathemategydd, academydd, academydd, awdur ffeithiol, ffisegydd damcaniaethol, gwyddonydd |
Swydd | athro cadeiriol |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | probability amplitude, Born-Oppenheimer approximation |
Tad | Gustav Born |
Mam | Margarethe 'Gretchen' Kauffmann |
Priod | Hedwig Born |
Plant | Gustav Victor Rudolf Born, Irene Helen Käthe Born |
Perthnasau | Olivia Newton-John, Max Born |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Croes Uwch Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Gwobr Ffiseg Nobel, Medal Max Planck, Medal Hughes, Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Caeredin, Guthrie Lecture, Makdougall Brisbane Prize, honorary doctor of the University of Bordeaux |
llofnod | |
Ganed ef yn Breslau, Ymerodraeth yr Almaen (bellach Wrocław, Gwlad Pwyl), i deulu Iddewig. Derbyniodd ei addysg gynradd yn y cartref am iddo ddioddef o afiechyd. O'r diwedd mynychodd y gymnasiwm lleol cyn astudio ffiseg a mathemateg ym mhrifysgolion Breslau, Heidelberg, Zürich, a Göttingen. Wedi iddo gyflawni ei draethawd ymchwil ar bwnc sefydlogrwydd gwifrau elastig, derbyniodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Göttingen ym 1907. Gwasanaethodd yn y fyddin am ychydig fisoedd ac ymwelodd â Phrifysgol Caergrawnt i weithio gyda'r ffisegwyr Joseph Larmor a J. J. Thomson. Dychwelodd i Breslau ym 1908–09 i astudio damcaniaeth perthnasedd arbennig Albert Einstein.[2]
Gwahoddwyd Born yn ôl i Göttingen ar gyfer swydd gynorthwyol i'r ffisegwr mathemategol Hermann Minkowski, ac ym 1915 fe'i penodwyd yn athro, dan gyfarwyddiaeth Max Planck, ym Mhrifysgol Berlin. Fodd bynnag, cafodd ei alw yn ôl i'r fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ym 1919 fe'i penodwyd yn athro llawn ym Mhrifysgol Frankfurt am Main, ac ym 1921 yn athro ffiseg ddamcaniaethol ym Mhrifysgol Göttingen. Dan arweiniad Born a'i gyfoeswr James Franck (a benodwyd yn athro ffiseg arbrofol yno y flwyddyn gynt), daeth y brifysgol yn ganolfan i ymchwil ffiseg atomig a moleciwlaidd. Gosodai Born sail i ddamcaniaeth fodern dynameg dellt, a chyda chymorth Werner Heisenberg a Pascual Jordan fformiwleiddiodd hanfodion mecaneg cwantwm yn nhermau'r matrics. Ym 1926 cyflawnodd Born ddwy erthygl yn ymwneud ag hafaliad Schrödinger, ac yn dod i'r casgliad y gellir dehongli'r tonffwythiant yn nhermau'r tebygolrwydd o ganfod gronyn mewn man penodol ac ar amser penodol, y darganfyddiad a enillai'r Wobr Nobel iddo 28 mlynedd yn ddiweddarach.
Dan lywodraeth yr Almaen Natsïaidd, diswyddwyd yr holl academyddion Iddewig ar draws y wlad yn Ebrill 1933, ac felly aeth Born a'i deulu yn alltud i Loegr. Yno, derbyniodd swydd dros dro yn darlithio yng Nghaergrawnt. Symudodd i'r Alban ym 1936 i gymryd swydd Athro Athroniaeth Naturiol Tait ym Mhrifysgol Caeredin. Derbyniodd ddinasyddiaeth Brydeinig ym 1939, ac arhosodd yng Nghaeredin nes ymddeol ym 1953. Y flwyddyn olynol, dychwelodd gyda'i wraig i Orllewin yr Almaen, a bu farw Max Born yn Göttingen ym 1970 yn 87 oed.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "The Nobel Prize in Physics 1954", Sefydliad Nobel. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 30 Mai 2023.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Max Born. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Mai 2023.
Darllen pellach
golygu- Nancy Thorndike Greenspan, The End of the Certain World: The Life and Science of Max Born (Chichester, Gorllewin Sussex: Wiley, 2005).