Ceri Wyn Jones

bardd o Gymro

Bardd Cymraeg ydy Ceri Wyn Jones (ganed 5 Rhagfyr 1967), sy'n adnabyddus am ennill Cadair a Choron, Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Ceri Wyn Jones
Geni Ceri Wyn Jones
(1967-12-05) 5 Rhagfyr 1967 (56 oed)
Welwyn Garden City, Swydd Hertford, Lloegr
Galwedigaeth Bardd
Addysg Ysgol Uwchradd Aberteifi, Prifysgol Aberystwyth
Gwaith nodedig Byd Llawn Hud, Dwli o Ddifri, Dauwynebog
Gwobrau nodedig Cadair a Choron, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Priod Catrin
Plant Gruffudd, Ifan, Gwilym

Bywgraffiad golygu

Ganed yn Welwyn Garden City, Swydd Hertford a magwyd ef yno ac yn Aberteifi a Phen y Bryn yng ngogledd Sir Benfro. Mynychodd ysgolion cynradd Cilgerran ac Aberteifi, cyn mynd i Ysgol Uwchradd Aberteifi.

Dysgodd gynganeddu mewn cyfres o weithdai gyda T. Llew Jones pan oedd yn 17 oed. Ysgrifennodd Ceri Wyn Jones gyfres o englynion i T. Llew Jones i ddathlu ei benblwydd yn 90 oed.[1]

Graddiodd mewn Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn dechrau dysgu yn Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi, Llandysul, lle bu'n bennaeth yr adran Saesneg am ddros degawd. Gadawodd byd addysg i ddilyn gyrfa fel golygydd gyda Gwasg Gomer yn 2002.[2]

Ef oedd Prifardd y Gadair, yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala, 1997, am ei awdl Gwaddol. Enillodd hefyd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala, 2009 am gerddi ar y testun Yn y Gwaed, a oedd wedi eu cyflwyno i'w ewythr, y diweddar Barchedig Aled ap Gwynedd.[2]

Wedi ei gyfnod fel Bardd Plant Cymru o 2003 hyd 2004, cyhoeddodd y gyfrol Dwli o Ddifri i blant, a chyrhaeddodd honno restr fer Gwobr Tir Na-n Og yn 2005. Er na enillodd y gyfrol hon y wobr, roedd Ceri hefyd wedi cyfrannu at y gyfrol fuddugol, sef Byd Llawn Hud. Yn 2007, ef oedd awdur geiriau cân fuddugol Cân i Gymru, sef Blwyddyn Mâs, a ganwyd ac a gyfansoddwyd gan Einir Dafydd. Cyrhaeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, Dauwynebog, restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2008.[2]

Derbyniodd ysgoloriaeth gan yr Academi yn 2008, i ddechrau gwaith ar ail gyfrol o farddoniaeth.[2]

Yn 2012, cyhoeddwyd mai Ceri Wyn fyddai'n olynu Gerallt Lloyd Owen fel llywydd a meuryn Talwrn y Beirdd.[3]

Yn 2014, enillodd ei ail Gadair Genedalethol yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr am Awdl ar y thema Lloches. Bu cryn anghytuno rhwng Alan Llwyd a'i ddau gyd-feirniad Idris Reynolds a Llion Jones ynghylch teilyngdod y gerdd: y cyntaf yn ei beirniadu am gynnwys gormod o Saesneg a'r ddau arall yn gryf o'r farn fod y geiriau Saesneg yna i bwrpas ac yn rhan annatod o'r gerdd.[4]

Bywyd Personol golygu

Mae Ceri Wyn yn briod â Catrin ac mae ganddynt dri mab; Gruffudd, Ifan a Gwilym.

Llyfryddiaeth golygu

Cerddi a barddoniaeth golygu

Rhyddiaith golygu

Golygydd golygu

Gwobrau ac anrhydeddau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Llyfr y Flwyddyn. Gwefan y BBC. Adalwyd 12-07-2009
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3  Rhestr Awduron Cymru: JONES, CERI WYN. Llenyddiaeth Cymru. Adalwyd ar 19 Awst 2011.
  3. [1]
  4. [2]

Dolenni allanol golygu