Moel-y-don
Pentrefan yng nghymuned Llanddaniel Fab Moel-y-don ( ynganiad ) yn ne Ynys Môn ar lan Afon Menai. Er nad oes dim ond dyrnaid o dai yno heddiw bu'n lle prysur yn y gorffennol fel safle un o'r chwech o fferïau a gysylltai Môn ac Arfon dros y Menai. Mae 126 milltir (202.7 km) o Gaerdydd a 208.1 milltir (334.9 km) o Lundain.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.1878°N 4.2211°W |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Hanes
golyguLlecyn nid nepell o Lanidan, tua dwy filtir a hanner i'r de o Lanfair Pwllgwyngyll yw Moel-y-don. Am ganrifoedd lawer bu fferi yno i groesi'r Menai i'r Felinheli, i'r de o Fangor.[1] Yn yr Oesoedd Canol safai yng nghwmwd Menai, cantref Rhosyr.
Yn ôl traddodiadau Môn, dyma'r man lle croesodd y Rhufeiniaid pan ymosododd y Cadfridog Agricola ar yr ynys er mwyn dinistrio canolfan grym y Derwyddon; cododd bont o longau i groesi drosodd.[2]
Ymladdwyd Brwydr Moel-y-don ar y 6ed o Dachwedd 1282 ar Afon Menai rhwng milwyr Edward I o Loegr a gwŷr Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru. Er mai fel 'Brwydr Moel-y-don' y cyfeirir ati yn gyffredinol, mae lle da i gredu mai ar Draeth Lafan rhwng Llan-faes, Môn a'r tir mawr yr ymladdwyd hi, yn hytrach na ger Moel-y-don ei hun. Fel pont Agricola deuddeg can mlynedd yn gynt, pont o longau oedd y bont hon hefyd, yn ôl pob tebyg.[3]
Cynrychiolaeth etholaethol
golyguCynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)[4] ac yn Senedd y DU gan Llinos Medi (Plaid Cymru).[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Atlas Môn (Llangefni, 1972).
- ↑ J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986), tud. 364.
- ↑ Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, tud. 364.
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
Llyfryddiaeth
golygu- H. R. Davies, The Conway and Menai Ferries (Caerdydd, 1942)