Moel-y-don

pentref ar Ynys Môn

Pentrefan yng nghymuned Llanddaniel Fab Moel-y-don ("Cymorth – Sain" ynganiad ) yn ne Ynys Môn ar lan Afon Menai. Er nad oes dim ond dyrnaid o dai yno heddiw bu'n lle prysur yn y gorffennol fel safle un o'r chwech o fferïau a gysylltai Môn ac Arfon dros y Menai. Mae 126 milltir (202.7 km) o Gaerdydd a 208.1 milltir (334.9 km) o Lundain.

Moel-y-don
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1878°N 4.2211°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/au y DULlinos Medi (Plaid Cymru)
Map

Llecyn nid nepell o Lanidan, tua dwy filtir a hanner i'r de o Lanfair Pwllgwyngyll yw Moel-y-don. Am ganrifoedd lawer bu fferi yno i groesi'r Menai i'r Felinheli, i'r de o Fangor.[1] Yn yr Oesoedd Canol safai yng nghwmwd Menai, cantref Rhosyr.

Yn ôl traddodiadau Môn, dyma'r man lle croesodd y Rhufeiniaid pan ymosododd y Cadfridog Agricola ar yr ynys er mwyn dinistrio canolfan grym y Derwyddon; cododd bont o longau i groesi drosodd.[2]

Ymladdwyd Brwydr Moel-y-don ar y 6ed o Dachwedd 1282 ar Afon Menai rhwng milwyr Edward I o Loegr a gwŷr Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru. Er mai fel 'Brwydr Moel-y-don' y cyfeirir ati yn gyffredinol, mae lle da i gredu mai ar Draeth Lafan rhwng Llan-faes, Môn a'r tir mawr yr ymladdwyd hi, yn hytrach na ger Moel-y-don ei hun. Fel pont Agricola deuddeg can mlynedd yn gynt, pont o longau oedd y bont hon hefyd, yn ôl pob tebyg.[3]

Cynrychiolaeth etholaethol

golygu

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)[4] ac yn Senedd y DU gan Llinos Medi (Plaid Cymru).[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Atlas Môn (Llangefni, 1972).
  2. J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986), tud. 364.
  3. Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, tud. 364.
  4. Gwefan Senedd Cymru
  5. Gwefan Senedd y DU

Llyfryddiaeth

golygu
  • H. R. Davies, The Conway and Menai Ferries (Caerdydd, 1942)