Teithiwr ac awdur Amazigh oedd Abu Abdullah Mohammed ibn Battuta, adwaenir fel Ibn Battuta (13041368 neu 1369).

Ibn Battuta
Ganwyd24 Chwefror 1304 Edit this on Wikidata
Tanger Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1368 Edit this on Wikidata
Fès Edit this on Wikidata
Galwedigaethfforiwr, daearyddwr, llenor, mapiwr, qadi, masnachwr, teithiwr, Islamic jurist Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Rihla Edit this on Wikidata
Priodfirst wife of Ibn Battuta Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu
 
Ibn Batuta

Ganed ef yn Tangier, ym Moroco heddiw. Roedd yn aelod o lwyth Berberaidd y Luwata. Ei enw llawn oedd Abdullah Mohammed ibn Abdullah ibn Mohammed ibn Ibrahim al-Lawati ibn Battuta.

Yn 1325, gadawodd Ibn Battuta ddinas Tangier ar bererindod i Mecca. Dilynodd arfordir Gogledd Affrica i Cairo, a theithio i fyny afon Nîl cyn croesi ar y Môr Coch. Methodd gyrraedd Mecca oherwydd gwrthryfel, a dychwelodd i Cairo. Oddi yno, teithiodd i ddinas Damascus, yna i Medina a Mecca. Wedi cwblhau ei bererindod, parhaodd i deithio.

Ymwelodd ac ardaloedd Irac ac Iran, gan deithio trwy Najaf, Basra, Isfahan a Shiraz i Baghdad, lle cyfarfu a'r khan Abu Sa'id. Ymwelodd a Mosul, Diyarbakır a Tabriz cyn dychwelyd i Mecca tua 1328.

Tua 1331, aeth ar daith tua'r de, gan ymweld ag Aden, yna ar hyd arfordir dwyreiniol Affrica i Mogadishu, Mombassa, Zanzibar, Kilwa a dinasoedd eraill. Teithiodd ar draws penrhyn Arabia i ddychweld i Mecca.

Ar ei daith nesaf, aeth trwy'r Aifft, Syria ac Anatolia i gyrraedd y Môr Du, cyn dilyn afon Dnieper ac afon Volga i gyrraedd Bwlgaria. Aeth ymlaen i ddinas Caergystennin, man geni ei wraig, ar hyd arfordir gogleddol Môr Caspia i Ganolbarth Asia, lle ymwelodd a Buchara, Samarkand, Balkh, Kunduz a Kabul a chyrraedd at afon Indus.

Gwnaeth swltan Delhi ef yn qadi (barnwr), a bu yma am wyth mlynedd (tua 1334-1342). Pendodwyd ef yn lysgennad i Tsieina. Ar y ffordd yno, ymwelodd a'r Maldives, lle bu'n gweithio fel qadi am naw mis, ac ymweld a Malabar, Ceylon a Bengal, yna a Sumatera a Cambodia cyn cyrraedd Quanzhou tua 1346. Teithiodd yn ôl o Tsieina trwy Calicut, Hormuz, Baghdad a Caïro, ymwelodd a Mecca eto ac yna ag ynys Sardinia cyn dychwelyd i Moroco yn 1349, wedi bron 25 mlynedd o deithio.

Yn 1350, teithiodd i Andalucía, ac ymwelodd a Valencia a Granada. Yn 1352-1354 aeth ar ei daith olaf, gan groesi anialwch y Sahara i gyrraedd afon Niger, ac ymweld a dinas Timbuktu. Dychwelodd i Fez ym Moroco, lle bu'n gwasanaethu fel qadi eto. Bu farw tua 1368 neu 1369. Rhoddodd hanes ei deithiau mewn llyfr gyda'r teitl Rihla ("Teithiau").

Cyfeiriadau

golygu