NSÍ Runavík

clwb pêl-droed o Runavík, Ynysoedd Ffaroe

Clwb pêl-droed yn Ynysoedd y Ffaroe yw NSÍ Runavík, sy'n chware yn nhref Runavík. Sefydlwyd y clwb ar 24 Mawrth 1957. Yn 2003 cymerodd NSÍ ran am y tro cyntaf ar lwyfan gemau Ewropeaidd cystadlaethau UEFA.

NSÍ Runavík
Enw llawnNes Sóknar Ítróttarfelag Runavík
Sefydlwyd24 Mawrth 1957; 67 o flynyddoedd yn ôl (1957-03-24)
MaesStadiwm Runavík, Við Løkin
Runavík, Ynysoedd Ffaröe
(sy'n dal: 2,000)
CadeiryddDánial Hansen
RheolwrGlenn Ståhl
CynghrairBetrideildin
2024Betrideildin, 4.
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref

Yn 2007, enillodd y clwb Uwch Gynghrair Ynysoedd Faroe am y tro cyntaf.

Mae'r clwb wedi ennill Cwpan Ynysoedd Ffaro ym 1986, 2002 a 2017. Ar wahân i'r achosion hyn, ymddangosodd NSÍ Runavík yn rowndiau terfynol twrnamaint 1980, 1985, 1988, 2004 a 2015.

Cit a Stadiwm

golygu
 
Stadiwm Toftir lle chwaraeodd y Barri yn erbyn Runavik yn 2020
 
Stadiwm Tórsvøllur yn Torshavn lle bydd NSÍ yn chwarae nifer o'u gemau UEFA
 
Prif stryd Runavík

Mae'r clwb yn chwarae mewn melyn a du. Mae gan eu stadiwm (Við Løkin) le i 2,000. Nid yw'n cael ei gymeradwyo gan UEFA ar gyfer chwarae rhyngwladol, felly mae Runavík yn chwarae eu gemau Cynghrair Europa UEFA yn Tórsvøllur yn y brifddinas, Tórshavn neu Svangaskarð yn Toftir. Prif noddwr NSÍ yw Bakkafrost, sydd wedi'i leoli yn Glyvrar ger Runavík a dyma'r cwmnïau ffermio eogiaid mwyaf yn Ynysoedd Ffaro ac mae'n un o'r cyflogwyr preifat mwyaf yn yr ynysoedd, os nad y mwyaf.[1]

Anrhydeddau

golygu

Record yn Ewrop

golygu

Trosolwg

golygu
Cystadleuaeth Gemau E Cyf Colli GF GA
UEFA Champions League 2 1 0 1 1 3
Cwpan UEFA / Cynghrair Europa UEFA 22 1 2 19 13 64
Cwpan Intertoto UEFA 2 0 0 2 1 7
CYFANSWM 26 2 2 22 15 74
Tymor Cystadleuaeth Cymal Clwb Cartref Oddi cartref Agregad
2003–04 Cwpan UEFA QR   FK Lyn 1–3 0–6 1–9
2004 Cwpan Intertoto UEFA 1R   Esbjerg fB 0–4 1–3 1–7
2005–06 Cwpan UEFA 1Q   Liepajas Metalurgs 0–3 0–3 0–6
2008–09 UEFA Champions League 1Q   Dinamo Tbilisi 1–0 0–3 1–3
2009–10 Cynghrair Europa UEFA 1Q   Rosenborg BK 0–3 1–3 1–6
2010–11 1Q   Gefle IF 0–2 1–2 1–4
2011–12 1Q   Fulham 0–0 0–3 0–3
2012–13 1Q   Differdange 0–3 0–3 0–6
2015–16 1Q   Linfield 4–3 0–2 4–5
2016–17 1Q   Shakhtyor Soligorsk 0–2 0–5 0–7
2017–18 1Q   Dinamo Minsk 0–2 1–2 1–4
2018–19 1Q   Hibernian 4–6 1–6 5–12
2019–20 PR   Ballymena United 0–0 0–2 0–2
2020–21 PR   C.P.D. Tref Y Barri 5-1 N/A N/A
Allwedd
  • 1R: Rownd 1af
  • QR: Rownd Cymwyso (qualifying)
  • PR: Rownd Rhagbrofol (preliminary)
  • 1Q: Rownd Cymwyso 1af

NSÍ Runavík a thimau Cymru

golygu

Achosodd buddugoliaeth Runavík yn erbyn Y Barri ym mis Awst 2020 i sawl cwestiwn gael ei ofyn am berfformiad y tîm Cymreig ac o safon pêl-droed yn Uwch Gynghrair Cymru. Galwyd y colliant yn "embaras" i'r tîm o Gymru a bu geiriau cryfion ar y cyfryngau cymdeithasol. Mewn cyfweliad hir a dwfn ar raglen Sgorio a ddarlledwyd ar Facebook derbyniodd y rheolwr, Kavin Chesterfield, yr holl feirniadaeth ond cododd hefyd y cwestiwn a ddylai Premiere Cymru symud ei thymor chwarae i chware yn yr haf yn hytrach na thros y gaeaf er mwyn rhoi mwy o gyfle ymarfer a ffitrwydd i'r chwarewyr Cymreig.[2]

Dolenni

golygu

  Cyfryngau perthnasol NSÍ Runavík ar Gomin Wicimedia

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Bakkafrost Chief Financial Officer quits". Fishupdate.com. 7 October 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 September 2015. Cyrchwyd 23 September 2015.
  2. https://www.facebook.com/watch/?v=663016374595795
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ynysoedd Ffaröe. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.