Nodyn:Pigion/Wythnos 30
Pigion
Esblygiad yw'r ddamcaniaeth fod nodweddion etifeddadwy poblogaethau biolegol yn newid ac yn datblygu dros filiynau o flynyddoedd. Ceir amrywiaeth enfawr o rywogaethau heddiw oherwydd y broses hon. Mae esblygiad yn golygu y gallai rhai gwahaniaethau sicrhau bod creaduriaid yn byw, yn goroesi fel yr oedd yr amgylchedd o'u cwmpas yn newid, tra byddai'r rhai nad oedd yn newid (fel y triceratops) yn darfod. Mae ein dealltwriaeth ni heddiw o fioleg esblygol yn cychwyn yn 1858 pan gyhoeddodd Charles Darwin bapur ar y cyd gyda'r Cymro Alfred Russel Wallace ac yna trwy ei gyfrol On the Origin of Species; carreg filltir bwysig arall oedd gwaith mynach o'r enw Gregor Mendel ar blanhigion a'r hyn rydym yn ei alw'n etifeddeg a genynau. Un o'r lladmeryddion mwyaf ei oes yn erbyn syniadau Darwin oedd y Cymro Richard Owen. mwy... |
Erthyglau dewis
|