Nodyn:Pigion/Wythnos 51
Pigion
Ardal yn nhalaith Chubut, Patagonia, yr Ariannin lle ymfudodd llawer o Gymry yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw'r Wladfa (neu Gwladfa Patagonia). Mae cymunedau Cymreig mewn gwledydd eraill hefyd, megis Pennsylvania ac ardaloedd eraill yr UDA neu Awstralia, ond mae'r diwylliant a'r iaith Gymraeg yn amlycaf yn y Wladfa. Y brif ardal Gymreig yn y Wladfa yw Dyffryn Camwy, tua 60 km i'r de o Borth Madryn. Afon Camwy (Río Chubut) yw prif ffynhonnell dŵr yr ardal. Ystyr yr enw gwreiddiol Chupat yn iaith y Tehuelches brodorol yw 'Tryloyw'. Heddiw, mae tua 150,000 o bobl yn byw yn yr ardal a thua 20,000 ohonynt yn ddisgynyddion i'r Cymry. Mae tua 5,000 ohonynt yn siarad Cymraeg a channoedd yn dysgu'r iaith. Mwy... |
Erthyglau dewis
|