Gŵyl Calan Gaeaf

gŵyl a ddethlir ar 31 Hydref
(Ailgyfeiriad o Nos Galan Gaeaf)

Roedd Gŵyl Calan Gaeaf sydd ar 31 Hydref heddiw yn ddydd olaf y flwyddyn Geltaidd, ac mae hi'n ŵyl boblogaidd hyd heddiw. Mae rhai elfennau o'r hen draddodiadau Celtaidd megis golau llusern wedi parhau hyd heddiw a mabwysiadwyd rhai arferion diweddar yn fyd-eang megis tanio tân gwyllt i ddathlu'r achlysur. Peidiodd eraill: gwaseila a hela'r dryw ers rhai blynyddoedd.

Pwmpen

I'r Celtiaid, roedd Calan Gaeaf yn ddydd pan oedd y drws rhwng eu byd hwy a'r byd nesaf yn agor, ac felly roedd yn ddydd i roi teyrnged i'r meirw, yn ogystal ag ofni bod ysbrydion yn ymweld â nhw. Felly, er mwyn rhwystro ysbrydion rhag ymweld â'u tai, roedd pobl yn cynnau pob tân yn eu cartrefi. Dechreuodd y flwyddyn Geltaidd Newydd ym mis Tachwedd, pan ddechreuodd y gaeaf, y tymor tywyllaf ac oeraf. Roedd tymor y goleuni yn dechrau ar Galan Mai sydd ar 1 Mai heddiw.

Roedd amser Calan Gaeaf yn amser prysur iawn i'r bobl. Er mwyn paratoi at y tymor tywyll ac oer roedd yn rhaid casglu bwyd fel haidd, ceirch a gwenith, maip, afalau a chnau. Ac i'r bugeiliaid â'u hanifeiliaid roedd yn rhaid dychwelyd o'r ucheldiroedd; o'r 'hafod' i lawr i'r 'hendref'.

Ymgeisiodd yr Eglwys gael gwared ar draddodiadau Calan Gaeaf am eu bod nhw'n gwrthdaro â'r grefydd Gristnogol. Felly, cyflwynodd yr Eglwys ŵyl newydd: Gŵyl yr Holl Saint ar 1 Tachwedd.

Traddodiadau Gŵyl Calan Gaeaf

golygu
 
Parti Calan Gaeaf yng Nghroesoswallt. Ffotograff gan Geoff Charles (1954).

Traddodiadau cyffredin

golygu

Fel arfer, mae pobl yn defnyddio pwmpen er mwyn creu llusern neu jaclantar ac mae'r plant yn gwisgo fel ysbrydion neu wrachod, gan guro ar ddrysau pobl eraill ac yn gofyn am "Gast neu geiniog" i gael rhywbeth da fel fferins/losin neu arian. Dyma ydy'r "hel calennig" modern erbyn hyn.

Traddodiadau gwreiddiol Cymru

golygu

Yn ardaloedd gwledig Cymru, roedd pobl yn codi coelcerth ar eu caeau ac yn defnyddio rwdan neu feipen er mwyn creu Jac o' Lantern. Roedd pobl yn dweud fod yr Hwch Ddu Gwta (hwch ddu heb ei chynffon) a dynes heb ei phen yn crwydro'r caeau, yn ddigon o reswm i'r plant ddod yn ôl i'r tai yn gynnar. Roedd rhai yn dweud fod eiddew yn dda i weld gwrachod.

Mae rhai pobl yn llenwi powlen â dŵr hyd nes fod hi'n hanner llawn ac yn rhoi afalau ynddi. Bydd yr afalau yn arnofio ar y dŵr a bydd yn rhaid gafael ynddynt gan ddefnyddio'r dannedd.

Yn yr Oesoedd Canol roedd yna arferion o roi bwyd i'r meirw, trwy gynnal gwledd fawr a rhoi torth neu gacen i'r tlodion. Hel bwyd cennad y meirw oedd yr hen enw ar hyn ac roedd trigolion Cynwyd, Corwen, Llansanffraid a Glyndyfrdwy yn ffyddlon iawn i'r ddefod hon tan yn ddiweddar. Cerddai llawer iawn o wragedd tlawd o gwmpas y tai yn casglu teisennau. Gwyddom i hyn ddigwydd hyd at 1876 yn yr ardaloedd hyn.[1]

Dyma ddisgrifiad gan Charles Ashton yn 1890:

Yr oedd Nos Galan Gaeaf yn noson bwysig hefyd. Ac nid oedd ein teidiau'n esgeulus o gadw'r hen ddefod o gynnau tanau ar y noson hon, coelcerthi eithin a rhedyn. Dywedir wrthym fod yr arferiad hwn cyn hyned ag amser y Derwyddon, ac mai diben y tanau oedd boddhau'r duwiau. Dylid diffodd y tân ar yr aelwyd y noson honno, hefyd, a'i ail-gynnau gyda phentewyn a ddygent adref o'r goelcerth gysegredig. Mae llawer ohonom yn cofio'r hwch ddu gwta a fyddai yn ymlid y werin anwybodus adref oddi wrth y goelcerth. Y diafol ei hun, mewn rhith hwch ddu â chynffon fer ydoedd yr ymlidiwr. Nid oes ond tri ugain mlynedd er pan yr oedd pobol yn credu fod gan yr hwch ddu nodwyddau blaenllym i drywanu yr hwn a fyddai yr olaf yn myned dros y gamfa.[2]

Adref, adref am y cynta', Hwch Ddu Gwta a gipio'r ola'.

Yr hwch ddu gwta, mae'n debyg, oedd y tu ôl i'r hen ddywediad; "Nos Glan Gaea, bwgan ar bob camfa!" Yn ogystal â'r hwch ddu gwta, roedd ysbryd y ladi wen yn codi ofn ar rannau'r wlad.[3]

Coelcerthi G’langaea a Guto Ffowc

golygu

Sylw cefndirol gan John Evelyn:

Wotton 5 Tachwedd 1685: it being an extraordinary wett morning first gunpowder conspiracy anniversary under a prince of the Roman religion [Iago’r II]. Bonfires forbidden on this day; what does that portend[4]

Ond roedd coelcerthi i'w gweld o hyd ar noson G'lanmai yng nghyfnod William Bulkeley:

31 Hydref 1736: Llanfechell, Môn: The Wind S. calm, dark, & overcast in the Morning, but. dry, about 12 it begun to rain, & rained more or less,(sometimes very hard) till 7 at Night. very few Coel-coeths [sic] to be seen this Night.[5]

Difyr gweld bod yr hen arfer o gynneu coelcerthi ar noswyl G’lan Gaea yn dal ei dir yma yn Llanfechell yn 1736, neu bod yr hen arfer wedi dod yn ei ôl. Tua 1606 fe basiwyd Deddf gan y Llywodraeth Protestanaidd ffwndamentalaidd oedd mewn grym ar y pryd i wahardd y coelcerthi G’lan Gaea traddodiadol am eu bod wedi cael yr esgus perffaith i wneud hynny. Roedd adlais gref iawn o baganiaeth yn gysylltiedig â G’lan Gaea, a phan ddaliwyd Guto Ffowch, yn ceisio rhoi bom dan Senedd Llundain ar Dachwedd y 5ed fe symudwyd y coelcerthi i’r dyddiad hwnnw, ac mae’n dal felly hyd heddiw. Cofier mai ar y 5ed Tachwedd 1605 y daliwyd Guto ac fe gafodd ei boenydio’n ddidugaredd cyn ei ddienyddio drwy ei grogi a’i dynnu’n ddarnau yn Ionawr 1606 – ddim ei losgi ar Dachwedd y 5ed fel mae rhai yn meddwl.

Yn glyfar iawn o ran Llywodraeth y cyfnod roedd symud y coelcerthi i Dachwedd y 5ed yn cyflawni dau bwrpas: 1) Roedd yn slap ar wyneb arferion paganaidd G’lan Gaea gyda’r un llaw, 2) ac yn slap gyda’r llaw arall ar wyneb y Pabyddion drwy ddathlu "achubiaeth" y deyrnas brotestanaidd oherwydd methiant y ‘Cynllwyn Powdwr Gwn’ yr oedd Guto Ffowc a Phabyddion eraill yn rhan ohono. Dan yr amgylchiadau, mi newidiodd llawer o bobl eu coelcerthi i Dachwedd y 5ed – peth peryg iawn oedd peidio, ar boen cael eich cyhuddo o fod un ai yn bagan neu yn Babydd – mi fyddai gwrachod yn ogystal â Phabyddion yn cael eu llosgi yn y dyddiau duon a pheryglus hynny.[6]

Mae'r Gwyddelod yn dal i gynnal coelcerthi ar 31ain Hydref [7] ac roedd coelcerthi i’w gweld ar noson G'lanmai hefyd hanner canrif ar ôl cofnod William Bulkeley:

Llangollen 31 Hydref 1785: At seven we walked before our door and in the shrubbery to see the Bonfires, which in Commemoration of a Victory gained over the English are annually lighted on this night upon every Eminence in North Wales. From the Lawn on which We Stood saw nineteen Fires around us. One on the Eglwyseg, Pen-y-coed, Pengwern, Llantysilio, an Hill of the Empty Well, one large fire in the centre of Dinas Bran, three on the Berwyn, an immense one on the summit of Moel Mawr.[8]

Felly, yn ôl y cofnod hwn roedd yna reswm arall i gynnal coelcerthi ar noson G’langaea – ond beth oedd y fuddugoliaeth dros y Saeson oedd gan Foneddiges Llangollen dan sylw? Dyma ddau bosibilrwydd pam y dathlu: a) brwydr pan enillodd Owain Glyn Dŵr yn erbyn Siryf Dinbych, b) llosgi Castell Caergwrle a Penarlag yn ngwrthryfel Dafydd brawd Llywelyn ar ôl ennill brwydr Waunyrwyddfid (Gwernaffield/Y Waun) tu allan Yr Wyddgrug? Heb dyddiad mae'n anodd gwybod.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Cwm Eithin gan Hugh Evans, Gwasg y Brython, 1931.
  2. Traethawd gan Charles Ashton: Bywyd Gweledig yng Nghymru ddechrau'r ganrif o'r blaen; 1890.
  3. 3.0 3.1 Owen, Trefor M. Welsh Folk Customs (Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1978 [1959]), 123–4.
  4. John Evelyn: Faber Book of Diaries, Faber
  5. Dyddiadur William Bulkeley, Brynddu, Llanfechell, Mon (gyda chaniatad Adran Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor)
  6. Twm Elias ym Mwletin Llên Natur rhifyn 56
  7. Wikipedia
  8. A Year with the Ladies of Llangollen, Gol. Elizabeth Mavor
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: