Ogofâu Cae Gwyn a Ffynnon Beuno
Ogofâu cynhanesyddol ydy Ogofâu Cae Gwyn a Ffynnon Beuno sydd wedi'u lleoli yng nghymuned Tremeirchion, Sir Ddinbych tua 6 metr o'u gilydd, tua 400 metr i'r dwyrain o Ffynnon Beuno; cyfeiriad grid SJ085724. Cloddiodd archaeolegwyr yn yr ogofâu hyn a chafwyd hyd i domeni sbwriel pwysig, gydag olion dyn ac anifail sydd rhwng 38,000 a 28,000 o flynyddoedd oed, ac felly'n perthyn i Hen Oes y Cerrig Uchaf. Dyma rai o'r ogofâu mwyaf gogleddol yn Ewrop i gynnwys olion Neanderthaliaid o'r cyfnod hwnnw a chânt eu cyfri'n hynod bwysig yng nghyfnod Hen Oes y Cerrig Uchaf.
Math | safle archaeolegol, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 10.16 ha |
Cyfesurynnau | 53.241°N 3.3719°W |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Ffynnon Beuno
golyguDyma'r brif ogof, yr un sydd i'w gweld o bellter, y fwyaf a'r bwysicaf o ran nifer y canfyddiadau o Hen Oes y Cerrig Uchaf.
Nifer a math o esgyrn:
udfil 50
dannedd ceffyl 545
rhinoseros 375
llew 6
ychen 20
arth 16
dannedd ceirw 72
ibecs 20
dannedd arth 4
Cae Gwyn
golyguMae Ogof Cae Gwyn wedi'i lleoli tua 6 metr i'r gorllewin o Ogof Ffynnon Beuno. Saif oddeutu 6 metr hefyd o'r dibyn - y tu ôl i lwyn o goed. Dim ond Ffynnon Beuno sydd i'w gweld yn y llun uchod (dde). Cafwyd hyd i nifer o esgyrn o gyfnod Hen Oes y Cerrig Uchaf yma hefyd - ychydig llai nag a gaed yn Ffynnon Beuno.
Nifer a math o esgyrn:
udfil 20
dannedd ceffyl 34
rhinoseros 23
llwynog 3
ychen 2
dannedd arth 1
ibecs 1
Mae'r heneb hon wedi'i chofrestru gan Cadw gyda'r Rhif SAM unigryw: FL069 [1] Ceir ail ogof gerllaw, sef Ogof Cae Gwyn cyfeiriad grid SJ085724 sydd â Rhif SAM unigryw: FL070.
Cadwraeth
golyguMae Ffynnon Beuno a Chae Gwyn wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 01 Ionawr 1963 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[2] Mae ei arwynebedd yn 0.52 hectar. Mae Cadw a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am y safle.
Awyrluniau
golyguDynodwyd y safle’n un o statws arbennig ar sail daeareg yn ogystal â bod ynddo olion bywyd gwyllt o Hen Oes y Cerrig Uchaf.
Gweler hefyd
golygu- Shanidar - ogof ym mynyddoedd Zagros yng ngogledd Irac lle cafwyd hyd i ysgerbydau pobl Neanderthal
- Ogofâu Altamira
- Diwylliant Aurignac
- Dyn Cro-Magnon
- Dyn Neanderthal
- Hen Oes y Cerrig yng Nghymru
- Ogofâu Lascaux
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cofrestr Cadw.
- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru (bellach 'Cyfoeth Naturiol Cymru'); Archifwyd 2014-01-01 yn y Peiriant Wayback adalwyd 25 Rhagfyr 2013