Y Preutur Siôn
Cymeriad o lên gwerin Ewropeaidd yr Oesoedd Canol yw'r Preutur Siôn[1] neu Ieuan Fendigaid.[1] Mae'n frenin sy'n teyrnasu dros wlad Gristnogol yn Asia neu Affrica yn ystod cyfnod y Croesgadau. Dywed ei fod yn Nestoriad oedd wedi gwrthod awdurdod y Bysantiaid, ac yn danfon llythyrau i'w gyd-gredinwyr yn Ewrop yn disgrifio'i deyrnas arallfydol. Roedd Cristnogion Ewrop yn credu ynddo o'r 11g hyd y 13g gan obeithio bydd yn gynghreiriad iddynt yn erbyn y Mwslimiaid.
Darlun o'r Preutur Siôn ar fap o Ddwyrain Affrica, 1558 | |
Math o gyfrwng | cymeriadau chwedlonol |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dywedir roedd y Preutur Siôn yn disgyn o'r Tri Gŵr Doeth yn y Beibl, a bod ei deyrnas yn gartref i feddrod Sant Tomos, un o apostolion Iesu a gredir ei fod wedi taenu'r efengyl mor bell ag India.[2] Dywed yn gynnar iddo orchfygu'r Mwslimiaid yng nghanolbarth Asia, o bosib ar sail buddugoliaeth wirioneddol un o arweinwyr y Tyrciaid neu'r Mongoliaid, neu o bosib tywysog Tsieineaidd a drechodd swltan Persia ym 1141.
Yn ôl adroddiad o 1145, fe orchfygodd y Persiaid a chynlluniodd i gipio Caersalem o'r Mwslimiaid, ac anfonodd lythyr i arweinwyr Ewropeaidd ym 1165 yn disgrifio paradwys ei deyrnas. Danfonodd y Pab Alecsander III lythyr iddo ym 1177, siŵr o fod yn gofyn am gymorth yn erbyn Ffredrig Barbarosa.[2] Mewn Teithiau Marco Polo, y Preutur Siôn yw brenin y Tartariaid.[3] Yn y canrifoedd i ddod, bu nifer o fforwyr yn ceisio lleoli teyrnas Siôn yn Asia ac Affrica. Yn y 15g, honodd y Portiwgeaid iddynt ei chanfod yn Ethiopia.
Mae'n bosib datblygodd y chwedl wedi i'r Mwslimiaid goncro'r Aifft, gan ynysu Ethiopia, gwlad Gristnogol, o Ewrop. Datblygodd fasnach rhwng yr Ewropeaid a'r Mongoliaid o ganlyniad i'r chwiliad am y Preutur Siôn yn Asia.[2]
Gwreiddiau a chyd-destun y chwedl
golyguIoan yr Henuriad
golyguO bosib, Ioan yr Henuriad neu'r Presbyter Ioan yw tarddiad yr enw.
Nestoriaeth
golyguEglwys Ddwyreiniol annibynnol oedd y Nestoriaid a wrthodant awdurdod Patriarch Caergystennin.
Y Croesgadau
golyguDatblygodd y chwedl adeg y Croesgadau, o ddiwedd yr 11g hyd y 13g. Roedd Cristnogion Ewrop yn mynnu adennill y Wlad Sanctaidd, sef Palesteina, oddi ar y Mwslimiaid. Ym 1071 concrwyd Caersalem gan y Seljwciaid. Pobl Dyrcig a drigai yn Anatolia, sef Twrci fodern, oedd y Seljwciaid oedd yn dilyn Islam Sunni, a datblygodd eu diwylliant a’u hymerodraeth yn rhan o’r traddodiad Tyrco-Bersiaidd. Ymestynodd eu tiriogaethau i Bersia a’r Lefant.
Mongoliaid
golyguMae’n bosib taw Brwydr Qatwan (1141) yw’r frwydr a sonir yr Esgob Hugh o Gebal amdani yn ei adroddiad. Trechwyd Ahmad Sanjar, Swltan yr Ymerodraeth Seljwc, gan Yeh-lü Dashi, sefydlwr chanaeth y Qara Khitai yng Nghanolbarth Asia. Gur-khan neu Kor-khan oedd teitl arweinwyr y Qara Khitai, ac mae’n bosib cafodd ei newid yn seinegol yn yr Hebraeg i Yoḥanan neu yn y Syrieg i Yuḥanan, gan greu’r ffurf Ladin Johannes, neu John. Er taw Bwdyddion Mongolaidd oedd Dashi a’r chaniaid olynol, roedd nifer o ddeiliaid pwysig eu hymerodraeth yn Nestoriaid. Yn ôl adroddiad gan y cenhadwr Ffransisgaidd Willem van Ruysbroeck ym 1235, Cristiones oedd merch y Gur-khan olaf a gwraig Küchlüg, Brenin y Naiman, a ddaeth yn arweinydd olaf y Qara Khitai. Trechwyd Küchlüg, mab Ta-yang Khan (Tsieineeg am y Brenin Mawr Ioan) gan Genghis Khan ym 1218.
Ym 1221 rhodd hanes i Rufain gan Jacques de Vitry, Esgob Acre, Palesteina, a’r Cardinal Pelagius oedd yn cyd-deithio â’r croesgadwyr yn Damietta, yr Aifft, am orchfygiad y Mwslimiaid gan David, Brenin India, mab neu ŵyr y Preutur Siôn. Mae’n debyg taw Genghis Khan oedd y Brenin David. O ganlyniad i sïon a llên gwerin, diffyg gwybodaeth ddibynadwy, a gobaith ofer y Cristnogion, cafodd brwydrau, arweinwyr, a thiriogaethau’r cyfnod eu cydblethu’n rhan o chwedl Siôn.
Ethiopia
golyguYng nghanol y 13g, daeth Affrica ac yn bennaf Ethiopia neu Abysinia yn ganolbwynt i'r ymchwiliad am y deyrnas yn hytrach nac Asia. Credai taw negus, neu ymerawdwr, Ethiopia oedd Siôn. Goroesoedd yr Eglwys Goptaidd yn Ethiopia drwy gydol yr Oesoedd Canol, a chafodd y tiroedd Cristnogol hyn eu hynysu o Ewrop a’r Dwyrain Agos wedi i’r Mwslimiaid goncro’r Aifft.
Llenyddiaeth teithio anhygoel
golyguFfynonellau
golyguTua dechrau yr 11g, taenwyd adroddiad yng ngwledydd Ewrop fod rhyw frenin neilltuol, o'r tu hwnt i derfynau Persia ac Armenia, wedi cyfarfod ag ysbryd sant ymadawedig mewn coedwig, a dychrynwyd ef i'r fath raddau nes troi ohono yn wir gredadun, a gorchmynnodd i'w holl ddeiliaid gymryd eu bedyddio i'r un ffydd. Fel yr elai amser heibio, ymddengys fod yr adroddiad hwn yn cael ei gadarnhau. Daeth cenhadon i Rufain yn proffesu dyfod o'r wlad honno. Ar ôl hynny, taenid awgrymiadau a hysbysiadau ychwanegol yng ngwledydd Ewrop, ond gan bwy, a pha fodd, nid oedd neb yn gwybod. Mynegid fod arferion a moesau y Cristnogion newydd hyn yn ymdebygu i raddau pell i'r eiddo yr amseroedd patriarchaidd. Mynegid fod y blaenor yn offeiriad a brenin, ac oherwydd hyn, adwaenid ef wrth yr enw Preutur neu Bresbyter Ieuan neu Siôn. Arweiniodd ei lwyth fywyd tawel a bugeiliol, gan ddilyn eu diadelloedd drwy yr anialwch, ac ymborthasant ar gigfwyd a llaeth. Roeddynt mor amddifad o ŷd a gwin nes bod yn analluog yn ôl y gorchymyn i ddal ar ddyddiau ympryd, a chyfranogi o'r cymun, Er fod ei deyrnas i raddau pell yn cyfranogi o symledd cyntefig cymdeithas, yr oedd ynddi gyfoeth mawr, ac yntau yn berchen trysorau diderfyn ym mron, a llawer o'r cenhedloedd yn talu teyrnged iddo. Llywodraethai yntau yn oruchaf â theyrnwialen o emrallt.
Y Chronicon
golyguMae’n debyg taw adroddiad gan yr Esgob Hugh o Gebal, Syria (heddiw Jubayl, Libanus) ym 1145 a ddanfonwyd i lys y pab yn Viterbo, yr Eidal, yw'r ffynhonnell gynharaf sydd yn crybwyll y Preutur Siôn. Gan dynnu ar y ddogfen hon, recordiwyd y stori’n gyntaf gan yr Esgob Otto o Freising, yr Almaen, yn y Chronicon (1145). Sonir am offeiriad (neu bresbyter) a brenin pwerus a chyfoethog o’r enw John, disgynnydd uniongyrchol o’r Doethion o’r Dwyrain a ymwelodd â’r baban Iesu. Honnir iddo drechu brenhinoedd Mwslimaidd Persia, dwyn cyrch ar y brifddinas Ecbatana, a bwriadu arwain ei fyddin i Gaersalem ond wynebodd fethiant wrth geisio croesi Afon Tigris.
Y llythyr
golyguYn ôl croniclwr o’r 13g, Alberic de Trois-Fontaines, danfonwyd llythyr (Lladin: Epistola Presbyteri Johannis) ym 1165 o Siôn i nifer o arweinwyr Ewrop, gan gynnwys Manuel I Comnenus, yr Ymerawdwr Bysantaidd, a Ffredrig I Barbarossa, yr Ymerawdwr Glân Rufeinig. Ffug-lenyddiaeth amlwg yw’r llythyr i ni heddiw. Yn y cyfnod, bu’n ennyn cyffro a gobaith wrth i Gristnogion Ewrop brofi gorchfygiadau yn y Dwyrain Agos. Cafodd ei drosi o’r Lladin wreiddiol i Hebraeg, Hen Slafoneg, Cymraeg a nifer o ieithoedd eraill. Er y cafodd ei gyfeirio at Manuel, a Groeg oedd iaith yr Ymerodraeth Fysantaidd, ni wyddys am gyfieithiad Groeg o’r llythyr. Gwelir tuedd gwrth-Fysantaidd yn y llythyr, hyd yn oed, wrth iddo alw’r ymerawdwr Bysantaidd yn “llywodraethwr y Rhufeiniaid” yn hytrach nag “ymerawdwr”. Sonir am deyrnas Siôn, “y tair India”: gwlad o gyfoeth naturiol, rhyfeddodau, heddwch, a chyfiawnder dan weinyddiaeth llys o archesgobion, prioriaid, a brenhinoedd. Datganodd Siôn y byddai'n arwain ei luoedd i Balesteina i ymladd y Mwslimiaid ac adennill Beddrod yr Iesu. Mae’r llythyr yn portreadu Siôn fel arweinydd Cristnogol duwiol: roedd well ganddo’r teitl presbyter neu breutur, ac roedd yn warcheidiad cysegrfan Sant Tomos, yr apostol i’r India, ym Mylapore.
Danfonodd y Pab Alecsander III ymateb ym 1177 i Siôn, “brenin ardderchocaf a bendigaid yr India ac annwyl fab Crist”. Mae’n debyg taw bwriad y llythyr oedd i ennill cefnogaeth i’r Babaeth yn erbyn Barbarosa. Ni wyddys tynged y garfan oedd yn meddu ar y llythyr yn ei chais i ganfod lleoliad Siôn.
Y traddodiad Cymraeg
golyguCyfieithwyd y llythyr honedig at Manuel, Ymerawdwr Caergystennin (tua 1165) i'r Gymraeg, Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit. Ceir yn llawysgrifau Coleg yr Iesu 119, a Peniarth 15, 47 a 267.[4] Cyfeirir at y Preutur Siôn sawl gwaith ym marddoniaeth Guto'r Glyn.[5]
Y chwilfa am Siôn
golyguDerbynid adroddiadau dymunol o'r fath gyda'r awyddfryd mwyaf gan bobl ofergoelus yr oesoedd hynny, a dechreuwyd gwneuthur ymchwiliadau i'r mater. Dechreuwyd amheu a oedd y wlad ddedwydd hon yn bod, ai rhywbeth iwtopaidd yn unig oedd, ac ai nid person dychmygol hollol oedd y Preutur Siôn. Y teithiwr Ewropeaidd cyntaf a gyfeiria ato ydoedd Giovanni da Pian del Carpine, mynach Ffransisgaidd ifanc, a anfonwyd gan y Pab Innocentius IV ym 1246 ar genadwri at y Mongolwyr. Methodd Giovanni ddarganfod y genedl Gristnogol enwog. ond tybiai eu bod yn preswylio yn rhywle ym mhellach i'r dwyrain. Ym mhen rhai blynyddoedd ar ôl i Giovanni ddychwelyd, fe ddanfonwyd William de Rubruquis, mynach Ffransisgaidd arall, yn genadwr i Dartaria, gan Louis IX, brenin Ffrainc, yr hwn oedd ym Mhalesteina ar y pryd. Chwedl y Preutur Siôn oedd yr achos o'i daith. Ar ôl cyfarfod â llawer o galedi ac anhawsterau, cyrhaeddodd i wersyll Baton Khan, yng nghanolbarth Tartaria, yr hwn a'i danfonodd ef ymlaen ar draws yr anialdiroedd i lys Mangou, sef y Chan Mawr yn Karakorum, a ni chafodd Rubruquis un Preutur Siôn yno. Ond daeth o hyd i rai cenhadon Nestoraidd, ac offeiriad Mwslimaidd, a bu yn ymddiddan â hwynt amryw weithiau. Fel yr addefai, nid oedd ond o ychydig ddiben, gan nad oeddynt yn deall ei gilydd. Dywed Rubruquis fod y Nestoriaid wedi gosod golwg rhy ffafriol ar eu dylanwad yn Nhartaria. Rhoddodd Mangou i Rubruquis lythyr i'w gyflwyno i frenin Ffrainc, a gorchmynnodd ei gyflenwi â phob peth angenrheidiol er ei gynorthwyo i ddychwelyd adref. Ar ei waith yn cyrraedd i Balesteina, ysgrifennodd Rubruquis, ym mynachlog Acre, hanes ei daith anturiaethus yn yr iaith Ladin, ac anfonodd ef i Louis, yr hwn a ddychwelasai i Ffrainc. Y mae yr hanes cywrain hwn wedi ei ysgrifennu yn llawer mwy syml, ac yn llawer cywirach na'r eiddo Giovanni del Carpine. Yr oedd y chwedl yn cael ei chredu yn Ewrop hyd ddiwedd y 15g, fod yn Asia benadur Cristnogol o'r enw Siôn, pan y darfu i'r Portiwgaliaid, y rhai a gyrhaeddasant i India heibio i Benrhyn Gobaith Da, ymosod ar y gwaith o chwilio am y Preutur Siôn yn y wlad honno, ond yn aflwyddiannus – er iddynt ddarganfod cyfundeb o Nestoriaid Cristnogol ar ororau Arfordir Coromandel. O'r diwedd, digwyddodd i Pedro Covilham glywed fod tywysog Cristnogol yn Abysinia, heb fod ymhell o'r Môr Coch, a thybiai mai efe oedd y Preutur Siôn, ac aeth ymlaen i lys brenin yr Habesh, yr oedd ar y pryd yn Shewa. Canlyniad yr holl ymchwiliadau hyn oedd i olrheinwyr roddi i fyny chwilio am y Preutur Siôn a throi i geisio esbonio ei darddiad. Y dybiaeth fwyaf debygol yw yr un a gynigir gan yr hanesydd eglwysig Johann Lorenz von Mosheim. Tybia efe i ryw offeiriad Nestoraidd o'r enw Siôn gael meddiant o orsedd, yng ngwlad y Tartariaid, a'i fod wedi cadw i fyny yr enw "Preutur Siôn" ar ôl esgyn iddi, a bod yr un teitl yn cael ei wisgo gan ei ddisgynyddion, hyd nes y dinistriwyd ei deyrnas gan yr ymerawdwr Mongolaidd galluog Genghis Khan.
Dylanwad ac effaith y chwedl
golyguLlên gwerin a mytholeg Gristnogol
golyguCysylltiadau economaidd a diwylliannol
golyguBu nifer o fforwyr, cenhadon a theithwyr lleyg yn ceisio chwilio am y deyrnas wrth iddynt deithio ar draws Asia ac Affrica. Yn eu plith oedd Giovanni da Pian del Carpini, Giovanni da Montecorvino, a Marco Polo. Arweiniodd eu hymdrechion at gysylltiadau uniongyrchol a masnach rhwng yr Ewropeaid a’r Mongoliaid.
Cartograffeg
golyguLlenyddiaeth
golyguYsbrydolwyd sawl gwaith llenyddol modern gan y chwedl, gan gynnwys y nofel Prester John gan John Buchan a'r nofel Baudolino gan Umberto Eco.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1073 [Prester John].
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Jones, Alison. Larousse Dictionary of World Folklore (Caeredin, Larousse, 1995), t. 353–4 [Prester John].
- ↑ Rockwood, Camilla (gol.). Brewer's Dictionary of Phrase and Fable, 18fed argraffiad (Caeredin, Chambers, 2009), t. 1053.
- ↑ Gwilym Lloyd Edwards. Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Llythyr y Preutur Siôn) (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1999).
- ↑ y Preutur Siôn sef Ieuan Fendigaid, brenin-offeiriad chwedlonol y credid ei fod yn rheoli yn India, Guto'r Glyn.net. Adalwyd ar 4 Mehefin 2017.
Darllen pellach
golygu- Cates Baldridge. Prisoners of Prester John: The Portuguese Mission to Ethiopia in Search of the Mythical King, 1520-1526 (McFarland & Co, 2012).
- Keagan Brewer. Prester John: The Legend and its Sources (Crusade Texts in Translation) (Routledge, 2015).
- Lev Gumilev. Searches for an Imaginary Kingdom: The Legend of the Kingdom of Prester John (Caergrawnt: Cambridge University Press, 1988).
- Nicholas Jubber. The Prester Quest (Bantam, 2006).
- Manuel Joao Ramos. Essays in Christian Mythology: The Metamorphosis of Prester John (University Press of America, 2006).
- Francis M. Rogers. The Quest for Eastern Christians: Travels and Rumor in the Age of Discovery (University of Minnesota Press, 1962).
- Robert Silverberg. The Realm of Prester John (1972).
- Vsevolod Slessarev. Prester John: The Letter and the Legend (Minneapolis: University of Minnesota Press, 1959).