Afiechyd heintus ar bobl a phlant yw'r frech goch (Saesneg: measles) sy'n tarddu o feirws paramyxovirus (o'r genws Morbillivirus) ac sy'n ymosod ar y system anadlu.

Brech goch
Enghraifft o'r canlynolclefyd hysbysadwy, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
MathMorbillivirus infectious disease, clefyd heintus firol Edit this on Wikidata
Arbenigedd meddygolAfiechydon heintiol edit this on wikidata
SymptomauY dwymyn, peswch, runny nose, maculopapular rash, lymphadenopathy, anorecsia, dolur rhydd edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia


Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu
Y frech goch
Effaith cyflwyno'r brechlynar y niferoedd yng Nghymru a Lloegr.

Mae'r symptomau'n cynnwys peswch, tishian, llygaid coch, trwyn gwlyb, twymyn a smotiau cochion (neu frech). Mae'r frech goch yn hynod o heintus ac yn ymledu drwy i'r hylif (o'r trwyn neu'r geg) gyffwrdd person arall, naill ai drwy gyffyrddiad neu drwy'r aer. Ar gyfartaledd mae 90% o bobl sydd yn byw yn yr un tŷ yn ei ddal, oni bai fod ganddyn nhw imiwnedd i'r haint. Gall y cyfnod heintio fod rhwng 6–19 diwrnod.[1]

Mae'r brechlyn trifflyg MMR yn cael ei roi i fabanod er mwyn atal yr haint hwn.

2013 golygu

Cafwyd cynnydd yn y nifer o achosion o'r frech goch yn Abertawe yn Ebrill 2013, gyda thros 620 achos (hyd at 16 Ebrill).[2]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Y frech goch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-06. Cyrchwyd 2009-08-01.
  2. "Swansea measles epidemic: 620 cases confirmed.". Guardian. 9 Ebrill 2013.