Mae Radio Garden yn wefan nid-er-elw radio a phrosiect ymchwil digidol gan y Netherlands Institute for Sound and Vision, y Transnational Radio Knowledge Platform, a chwe phrifysgol Ewropeaidd.[1] Lansiwyd yn 2016, daeth yn boblogaidd yn gyflym ar ôl iddi fynd yn feirol.

Radio Garden
Math o gyfrwngdarlledwr, Radio rhyngrwyd, ap ffôn Edit this on Wikidata
DosbarthyddGoogle Play, App Store Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://radio.garden/ Edit this on Wikidata

Ar hyn o bryd, ceir dros 60 gorsaf radio ar y wefan sydd yng Nghymru gan gynnwys gorsafoedd Cymraeg, ymysg miloedd o orsafoedd eraill ar draws y byd.[2] Gall y gwrandawr bori dros fap o'r byd a chlicio ar smotyn mewn pa bynnag wlad gan wrando ar orsaf, a gofrestrir yno gan Garden Radio, yn fyw ac am ddim. Mae'n adnodd ac yn fwynhâd gwrthfawr i bobl sydd am wrando ar orsafoedd tramor, genre amrywiol ac mewn ieithoedd gwahanol. Mae'n cynnwys gorsafoedd gwladwriaethol, lleol a phreifat.

Defnydd

golygu

Mae defnyddwyr y wefan yn ymwneud â glôb digidol 3D, a threfnir y gorsafoedd yn ôl dinas neu ardal gyffredinol. Cynrychiolir y gorsafoedd fel smotiau gwyrdd a gellid clicio arnynt i wrando. Mae maint y smotiau yn tyfu gyda mwy o orsafoedd yn y lleoliad.

Mae Radio Garden ar gael ar systemau iOS ac Android fel ap.

Radio Garden yng Nghymru

golygu
Lleoliad Nifer y gorsafoedd
Caerdydd 11
Y Bont-faen 9
Abertawe 5
Wrecsam
Casnewydd 4
Aberystwyth 2
Bae Colwyn
Y Barri
Llanelli
Pen-y-bont ar Ogwr
Pontypridd
Aberdâr 1
Aberdaugleddau
Bangor
Bodelwyddan
Bryn-mawr
Caerfyrddin
Cwmbrân
Griffithstown
Hwlffordd
Llandochau Fach
Llangatwg, Powys
Llangefni
Maesteg
Pont-y-pŵl
Y Porth
Y Rhyl
Sir y Fflint
Trefynwy
Treorci

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "radiodayseurope.com". www.radiodayseurope.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-07-31.
  2. "This site lets you listen to thousands of radio stations around the world and it's incredible". The Independent (yn Saesneg). 2016-12-16. Cyrchwyd 2022-07-31.

Dolenni allanol

golygu