Rhestr o Safleoedd Treftadaeth y Byd ym Mhrydain
Dyma restr o safleodd yn y Deyrnas Unedig sydd wedi cael eu henwebu a'u cadarnháu fel Safleoedd Treftadaeth y Byd gan UNESCO. Mae'r rhestr yn cynnwys 18 o safleoedd yn Lloegr (un ar y cyd â'r Almaen), pump yn yr Alban, pedwar yng Nghymru, un yng Ngogledd Iwerddon a thri yn Tiriogaethau tramor. Cysidrir dau ar hugain o'r safleodd hyn yn "ddiwylliannol", pedwar yn "naturiol" ac un yn "gymysg". Isod ceir rhestr o'r safleodd o fewn pob gwlad yn ôl dyddiad eu hychwanegu i'r rhestr.
Yr Alban
golygu- 1986: St Kilda (ymestynnwyd yn 2004 a 2005 – safle naturiol yn wreiddiol, wedyn wedi'i estyn i ddod yn "gymysg" yn 2004)
- 1995: Trefi Hen a Newydd Caeredin
- 1999: Calon Ynysoedd Erch Neolithig - gan gynnwys Maes Howe, Cylch Brodgar, Skara Brae, Meini Stenness a safleodd eraill
- 2001: New Lanark
- 2015: Pont reilffordd Forth
Cymru
golygu- 1986: Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd – gan gynnwys Castell Biwmares, Castell Caernarfon, Castell Conwy a Chastell Harlech
- 2000: Tirlun Diwydiannol Blaenafon
- 2009: Traphont Pontcysyllte
- 2021: Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru [1]
Gogledd Iwerddon
golygu- 1986: Sarn y Cawr ac Arfordir y Sarn (safle naturiol)
Lloegr
golygu- 1986: Eglwys Gadeiriol a Chastell Durham
- 1986: Parc Brenhinol Studley gan gynnwys adfeilion Abaty Fountains
- 1986: Ceunant Ironbridge
- 1986: Côr y Cewri, Avebury a Safleodd Cysylltiedig
- 1987: Palas a Pharc Blenheim
- 1987: Palas San Steffan, Abaty Westminster ac Eglwys Santes Marged, Westminster (ymestynnwyd 2008)
- 1987: Dinas Caerfaddon
- 1987: Ffiniau'r Ymerodraeth Rufeinig (safle trawsgenedlaethol yn ymgorffori Mur Hadrian (1987), Ffiniau Germania Superior a Raetia (2005) a Mur Antoninus (2008))
- 1988: Tŵr Llundain
- 1988: Eglwys Gadeiriol Caergaint, Abaty Sant Awstin ac Eglwys Sant Martin, Caergaint
- 1997: Greenwich Forwrol
- 2001: Arfordir Dorset a Dwyrain Dyfnaint (safle naturiol)
- 2001: Melinau Dyffryn Derwent
- 2001: Saltaire
- 2003: Gerddi Botanig Brenhinol, Kew
- 2004: Dinas Fasnachol Arforol Lerpwl (wedi diddymu Gorffennaf 2021) [2]
- 2006: Tirwedd Mwyngloddio Cernyw a Gorllewin Dyfnaint
- 2017: Ardal y Llynnoedd
- 2019: Arsyllfa Jodrell Bank
Tiriogaethau Tramor
golygu- 1988: Ynys Henderson, Ynysoedd Pitcairn (safle naturiol)
- 1995: Ynysoedd Gough ac Inaccessible (safle naturiol – ymestynnwyd 2004)
- 2000: Tref Hanesyddol Sant Siôr a Ffiniau Cysylltiedig Bermuda
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Safle Treftadaeth Byd UNESCO i ardal llechi Gwynedd". BBC Cymru Fyw. 2021-07-28. Cyrchwyd 2021-07-28.
- ↑ "Liverpool stripped of Unesco World Heritage status". BBC News (yn Saesneg). 2021-07-21. Cyrchwyd 2021-07-28.
Dolennau allanol
golygu- (Saesneg) Safle UNESCO