Rhwyfo yng Ngemau'r Gymanwlad

digwyddiadau rhwyfo

Mae rhwyfo wedi bod yn rhan o Gemau'r Gymanwlad ers y Gemau cyntaf yn Hamilton, Canada, ym 1930. Ers 2010 mae rhwyfo wedi ei dynodi fel un o'r campau opsiynol[1] nid yw wedi bod yn rhan o'r Gemau ers 1986 yng Nghaeredin, Yr Alban.

Gemau golygu

Gemau Blwyddyn Dinas Gwlad Gwlad mwyaf llwyddiannus
I 1930 Hamilton   Canada   Lloegr
III 1938 Sydney   Awstralia   Awstralia
IV 1950 Auckland   Seland Newydd   Awstralia
V 1954 Vancouver   Canada   Seland Newydd
VI 1958 Caerdydd   Cymru   Lloegr
VII 1962 Perth   Awstralia   Lloegr
XIII 1986 Caeredin   Yr Alban   Lloegr

Tabl medalau golygu

Safle Gwlad Aur Arian Efydd Cyfanswm
1   Awstralia 16 10 8 34
2   Lloegr 13 12 14 39
3   Seland Newydd 9 14 7 30
4   Canada 7 7 9 23
5   Cymru 0 1 1 2
6   Gaiana 0 0 1 1
  Yr Alban 0 0 1 1
  De Affrica 0 0 1 1
Cyfanswm 45 44 42 131

Medalau'r Cymry golygu

Dau fedal yn unig mae Cymru wedi ennill yng nghystadlaethau rhwyfo Gemau'r Gymanwlad[2] gyda'r brodyr David a John Edwards yn rhan o'r ddau griw[3].

Medal Enw Pwysau Gemau
Efydd David Edwards, John Fage, David Prichard a John Edwards Pedwarawd heb lywiwr VI
Arian David Edwards, Jeremy Luke, Richard Luke a John Edwards Pedwarawd heb lywiwr VII

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rowing reinstated to Commonwealth Games". Sydney Morning Herald. 2010-06-16.
  2. "Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad: Rhwyfo". BBC Cymru.
  3. "London 2012: Tom James follows Welsh Olympic rowing greats". BBC Sport. 2012-07-12.