Gemau Ymerodraeth Prydain 1950
Gemau Ymerodraeth Prydain 1950 oedd y pedwerydd tro i'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Oherwydd yr Ail Ryfel Byd dyma'r tro cyntaf ers 12 mlynedd i'r Gemau gael eu cynnal. Auckland, Seland Newydd oedd cartref y Gemau rhwng 4-11 Chwefror.
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad aml-chwaraeon |
---|---|
Dyddiad | 1950 |
Dechreuwyd | 4 Chwefror 1950 |
Daeth i ben | 11 Chwefror 1950 |
Cyfres | Gemau'r Gymanwlad |
Lleoliad | Auckland |
Yn cynnwys | rowing at the 1950 British Empire Games |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
4ydd Gemau Ymerodraeth Prydain | |||
---|---|---|---|
Campau | 87 | ||
Seremoni agoriadol | 4 Chwefror | ||
Seremoni cau | 11 Chwefror | ||
|
Oherwydd y dirwasgiad a chost teithio i Awstralia, ni chafwyd cymaint o athletwyr ag a gafwyd yng Ngemau Llundain, 1934 ac er na chafwyd unrhyw gynrychiolaeth o Hong Cong, Jamaica a Newfoundland cafwyd athletwyr o Ceylon a Ffiji am y tro cyntaf. Ymunodd Malaya a Nigeria â'r Gemau am y tro cyntaf a chyflwynwyd cystadlaethau ffensio a chodi pwysau i'r Gemau.
Chwaraeon
golyguTimau yn cystadlu
golyguCafwyd 12 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Ymerodraeth Brydeinig, 1950 gyda Malaya a Nigeria yn ymddangos am y tro cyntaf.
Tabl Medalau
golyguSafle | Cenedl | Aur | Arian | Efydd | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|---|
1 | Awstralia | 34 | 27 | 19 | 80 |
2 | Lloegr | 19 | 16 | 13 | 48 |
3 | Seland Newydd | 10 | 22 | 22 | 54 |
4 | Canada | 8 | 9 | 13 | 31 |
5 | De Affrica | 8 | 4 | 8 | 20 |
6 | Yr Alban | 5 | 3 | 2 | 10 |
7 | Malaya | 2 | 1 | 1 | 4 |
8 | Ffiji | 1 | 2 | 2 | 5 |
9 | Ceylon | 1 | 2 | 0 | 3 |
10 | Nigeria | 0 | 1 | 0 | 1 |
11 | Cymru | 0 | 1 | 0 | 1 |
12 | De Rhodesia | 0 | 1 | 0 | 1 |
Cyfanswm | 88 | 89 | 80 | 257 |
Medalau'r Cymry
golyguRoedd 3 aelod yn nhîm Cymru.
Medal | Enw | Cystadleuaeth | |
---|---|---|---|
Arian | John Brockway | Nofio | 110llath ar ei gefn |
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol Gemau'r Gymanwlad Archifwyd 2008-07-23 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Cyngor Gemau Gymanwlad Cymru
Rhagflaenydd: Sydney |
Gemau'r Gymanwlad Lleoliad y Gemau |
Olynydd: Vancouver |