Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1958

(Ailgyfeiriad o Gemau'r Gymanwlad 1958)

Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1958 oedd y chweched tro i'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Caerdydd, Cymru oedd cartref y Gemau rhwng 8–26 Gorffennaf ond cafodd cystadlaethau rhwyfo'r Gemau eu cynnal ar Lyn Padarn, Llanberis a chynhaliwyd y cystadlaethau codi pwysau yn Y Barri.

Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1958
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad aml-chwaraeon Edit this on Wikidata
Dyddiad1958 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd18 Gorffennaf 1958 Edit this on Wikidata
Daeth i ben26 Gorffennaf 1958 Edit this on Wikidata
CyfresGemau'r Gymanwlad Edit this on Wikidata
LleoliadCaerdydd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysrowing at the 1958 British Empire and Commonwealth Games Edit this on Wikidata
RhanbarthCaerdydd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
6ed Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad
Campau94
Seremoni agoriadol18 Gorffennaf
Seremoni cau26 Gorffennaf
V VII  >
Stamp 3d a gyhoeddwyd adeg y Gemau yn 1958

Gyda 1,358 o athletwyr a swyddogion o 35 o wledydd, dyma oedd y Gemau mwyaf hyd yma gyda 10 o wledydd yn ymddangos am y tro cyntaf. Hefyd cyflwynwyd Taith Gyfnewid Baton y Frenhines am y tro cyntaf, arferiad cyn pob un o'r Gemau ers 1958.

Dyma oedd ymddangosiad olaf De Affrica yn y Gemau hyd nes diwedd cyfnod apartheid wedi i'r wlad dynnu allan o'r Gymanwlad ym 1961.

Chwaraeon golygu

Timau yn cystadlu golygu

Cafwyd 35 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Ymerodraeth Brydeinig a'r Gymanwlad, 1958 gyda Brwnei, Dominica, Gibraltar, Gogledd Borneo, Jersey, Malta, Sarawak, St Vincent, Singapôr ac Ynys Manaw yn ymddangos am y tro cyntaf.

Tabl Medalau golygu

 Safle  Cenedl Aur Arian Efydd Cyfanswm
1   Lloegr 29 22 29 80
2   Awstralia 27 22 17 66
3   De Affrica 13 10 8 31
4   Yr Alban 5 5 3 13
5   Seland Newydd 4 6 9 19
6   Jamaica 4 2 1 7
7   Pacistan 1 5 2 10
8   India 2 1 0 3
9   Singapôr 2 0 0 2
10   Canada 1 10 16 27
11   Cymru 1 3 7 11
12   Gogledd Iwerddon 1 1 3 5
13   Bahamas 1 1 0 2
  Barbados 1 1 0 2
15   Malaya 0 2 0 2
16   Nigeria 0 1 1 2
17   Guiana Prydeinig 0 1 0 1
  Wganda 0 1 0 1
19   De Rhodesia 0 0 3 3
20   Cenia 0 0 2 2
21   Ghana 0 0 1 1
  Ynys Manaw 0 0 1 1
  Trinidad a Tobago 0 0 1 1
Cyfanswm 94 94 104 292

Medalau'r Cymry golygu

Roedd 123 aelod yn nhîm Cymru.

Medal Enw Cystadleuaeth
Aur Howard Winstone Bocsio Pwysau bantam
Arian Malcolm Collins Bocsio Pwysau plu
Arian Robert Higgins Bocsio Pwysau is-drwm
Arian John Merriman Athletau 6milltir
Efydd Don Skene Beicio 10milltir
Efydd Donald Braithwaite Bocsio Pwysau pry
Efydd Bill Brown Bocsio Pwysau is-ganol
Efydd Roger Pleace Bocsio Pwysau trwm
Efydd J Preston
M.V. Kerslake
J.J. Evans
J McCombe
a R.A. Maunder
Ffensio Ffoil i dimau
Efydd J Preston
R.A. Maunder
M.V. Kerslake
T.R. Lucas
a J Preston
Ffensio Sabre i dimau
Efydd David Edwards
John Fage
David Prichard
a John Edwards
Rhwyfo Pedwarawd heb cox

Dolenni allanol golygu

Rhagflaenydd:
Vancouver
Gemau'r Gymanwlad
Lleoliad y Gemau
Olynydd:
Perth