Sgwrs:Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011
Mae'r erthygl hon yn rhan o WiciBrosiect Cymru, prosiect cydweithredol ar Gymru. Os ydych am gyfrannu, ewch i hafan y prosect, ymunwch â'r drafodaeth a chewch restr o bethau sydd angen eu gwneud. Ychwanegwch y nodyn hwn i unrhyw dudalen sy'n ymwneud â Chymru neu Gymry. |
Untitled
golyguMae angen gwiro hwn: "Bu cwymp o 9% yng nghanran y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg (o 20.7% i 19.0%, sef 1.7 pwynt canran)." Llywelyn2000 (sgwrs) 09:32, 14 Rhagfyr 2012 (UTC)
- Dw i'n cael y gwahaniaeth yn 8.21%. Cynnig bod ni'n rowndio i lawr i 8% wyt ti yn hytrach na rowndio i fyny i 9%?--Ben Bore (sgwrs) 11:18, 14 Rhagfyr 2012 (UTC)
- Mae'n rhaid fod angen batris newydd ar fy nghyfrinianell i! Ydy'r linell nesa'n gywir, " Ond 3.5% oedd y cwymp yn nifer y siaradwyr"? Felly prun sy'n gywir: 9% neu 3.5%? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:18, 15 Rhagfyr 2012 (UTC)
- Na, gormod o niferoedd sy'n cael eu trafod - tra mai mond 1.7% o newid a fu fel canran o'r boblogaeth gyfan, mae'n gyfystyr â cwymp o 8/9% yn y ganran o'r boblogaeth, ond bu cwymp o 3.5% yn niferoedd y siaradwyr.--Ben Bore (sgwrs) 21:17, 16 Rhagfyr 2012 (UTC)
- Mae angen symlhau hyn i'r darllenydd; dydy o ddim yn eglur. Llywelyn2000 (sgwrs) 02:06, 17 Rhagfyr 2012 (UTC)
- Na, gormod o niferoedd sy'n cael eu trafod - tra mai mond 1.7% o newid a fu fel canran o'r boblogaeth gyfan, mae'n gyfystyr â cwymp o 8/9% yn y ganran o'r boblogaeth, ond bu cwymp o 3.5% yn niferoedd y siaradwyr.--Ben Bore (sgwrs) 21:17, 16 Rhagfyr 2012 (UTC)
- Mae'n rhaid fod angen batris newydd ar fy nghyfrinianell i! Ydy'r linell nesa'n gywir, " Ond 3.5% oedd y cwymp yn nifer y siaradwyr"? Felly prun sy'n gywir: 9% neu 3.5%? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:18, 15 Rhagfyr 2012 (UTC)
Trafodaeth ar y defnydd o'r data (o'r Caffi)
golyguAngen diweddaru Cymru
golygu- Copiwyd y rhan hon o'r Caffi.
Mae'r ffigurau yn yr erthygl ar Gymru wedi'u fandaleiddio ac angen eu diweddaru:
- Canran y boblogaeth 3 blwydd oed neu hŷn:
- yn deall Cymraeg yn unig: 4.93%
- yn siarad Cymraeg, ond ddim yn ysgrifennu na darllen Cymraeg: 2.83%
- yn siarad a darllen Cymraeg, ond ddim yn ysgrifennu Cymraeg: 1.37%
- yn siarad, darllen, ac ysgrifennu Cymraeg: 16.32%
- gyda rhyw gyfuniad o'r sgiliau hyn : 2.98%
- [sy'n rhoi cyfanswm o 28.43%]
- heb wybodaeth o'r iaith Gymraeg: 71.57%
Efallai fod yr adran gyfan angen ei diweddaru; cofiwch hefyd mai hon ydy un o erthyglau mwyaf poblogaidd Wicipedia o ran y nifer sy'n ei darllen.
Fyddai hi'n syniad ei chloi, wedyn? Llywelyn2000 (sgwrs) 11:47, 4 Chwefror 2013 (UTC)
- Rwyf wedi ychwanegu cyfeiriad at ffynhonnell ffigurau'r adran uchod.Cloddiwr (sgwrs) 00:15, 26 Ebrill 2013 (UTC)
- Mae'n ddigon posib bod y ffigyrau yna'n gywir ar gyfer Cyfrifiad 2001, mond bod nhw'n edrych yn rhyfedd wedi eu rhannu fel yna, ond dyna sut gosodwyd y cwestiwn sgiliau. Wrth gwrs mae canlyniadau 2011 allan rwan, ac felly mae angen diweddaru ta beth. Dw i efo ambell syniad ar gyfer sut i gyfleu'r wybodaeth, ac wedi bod yn dechrau potsian yma. Mi ddof yn ôl gyda chynigion pendnat yn y man.--Ben Bore (sgwrs) 09:58, 20 Chwefror 2013 (UTC)
Rwyf wedi creu Nodyn: Poblogaeth 3 oed+ 2011 Cymuned i ddechrau ar y gwaith yma: {{Poblogaeth 3 oed+ 2011 Cymuned}}. Ar hyn o bryd, mae eisiau gwybod cod Cymuned i'w ddefnyddio ac mae'n rhoi'r boblogaeth 3+ oed, sef y boblogaeth sydd ei hangen i gyfrifo'r ganran o bawb 3 oed ac yn hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg. Rwy'n bwriadu creu Nodynnau eraill fel y bydd modd cael y ffigurau hynny hefyd. Y broblem gyda hyn i gyd ar hyn o bryd yw bod angen gwybod cod y Gymuned. Naill ai y byddaf yn addasu'r Nodyn fel y gellir defnyddio enw'r Gymuned, neu fe fyddaf yn ychwanegu ffordd o gyrraedd y codau.Cloddiwr (sgwrs) 00:15, 26 Ebrill 2013 (UTC)
- Bendigedig!!!! Mae hyn yn wych!!! Dw i wedi ei ychwangu i'r erthygl ar Aberffraw a mater bach rwan ydy cynnwys yr holl ddata i bob cymuned yng Nghymru! Dyma be dw i wedi ei ychwanegu ar "Aberffraw", ydy o'n addas ar gyfer pob cymuned arall:
- Yn ôl [[Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011|Cyfrifiad 2011]] roedd {{Poblogaeth 3 oed+ 2011 Cymuned|PAR11CD=W04000001 }} o'r boblogaeth dros dair oed yn siarad Cymraeg.<ref>{{cite web|url=http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html|title=Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru|publisher=Swyddfa Ystadegau Gwladol|accessdate=2012-12-12}}</ref>
- Yn ôl Cyfrifiad 2011 roedd o'r boblogaeth dros dair oed yn siarad Cymraeg.[1]
- Os ydy o, yna fe all Defnyddiwr:BOT-Twm Crys ei ychwanegu at bob cymuned drwy Gymru benbaladr! Be ti'n feddwl? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:13, 26 Ebrill 2013 (UTC)
- Yn anffodus, nac ydy, dydy hynny ddim yn gywir. Ar hyn o bryd mae'r Nodyn yn rhoi'r boblogaeth oed 3+, nid y boblogaeth oed 3+ sy'n gallu siarad Cymraeg. Mae eisiau'r ddwy elfen i gyfrifo'r ganran sy'n gallu siarad Cymraeg. Byddaf naill ai'n addasu'r Nodyn presennol, neu'n creu un neu ragor o Nodynnau eraill, fel bod modd cael nifer y siaradwyr a chanran y siaradwyr. Dydy'r cyfeiriad at y ffynhonnell ddim yn hollol gywir chwaith. Arwain at ganlyniadau'r awdurdodau cyfan y mae'r ddolen bresennol. Ceir data'r iaith ar lefel Cymunedau drwy ddilyn y ddolen ganlynol at dabl KS207WA neu KS208WA: http://www.nomisweb.co.uk/census/2011/key_statistics Cloddiwr (sgwrs) 21:06, 26 Ebrill 2013 (UTC)
- Wedi ychwanegu codau Cymuned i Godau SYG. Mae rhai o'r enwau Cymraeg sy'n cynnwys diacritig yn anghywir. Byddaf yn eu cywiro.Cloddiwr (sgwrs) 02:04, 27 Ebrill 2013 (UTC)
- Y chydig o waith sydd i'w wneud, mewn gwirionedd. Dw i wedi ychwanegu'r dair colofn ti eu hangen (ar dudalen Sgwrs Nodyn:Poblogaeth 3 oed+ 2011 Cymuned), gan gynnwys y canran sy'n siarad Cymraeg, os ydy hynny o unrhyw gymorth. Un peth arall: mae angen i ni gofio ydy mai cymunedau ydy'r rhain (yr hen blwyfi), ac nid pentrefi. Mae gen i fasdata o bedair mil arall o'r rheiny ee Abaty Cwm-hir, Aberarad, Aberfan, Aber-arth, Aberafan, Aberbargod, Aber-bîg ac Abercanaid. Ond bydde'n dal yn bosib cyfeirio at ganran y siaradwyr Cymraeg yn yr erthyglau hyn ee "Saif Abaty Cwm-hir yng nghymuned Llanidloes lle roedd xx% o'r boblogaeth dros 3 oed yn Siarad Cymraeg." Llywelyn2000 (sgwrs) 05:58, 27 Ebrill 2013 (UTC)
- Hoffwn weld y rhestr o 4,000. Beth yw eu ffynhonnell? Y broblem gyda 'phentrefi' yw nad oes diffiniad ohonynt. 'Cymuned' yw'r ardal leiaf sydd â diffiniad. Gyda gwybodaeth leol byddai modd dweud bod Pentref X o fewn Cymuned Y ond i wneud rhywbeth awtomatig byddai'n rhaid cael cyfeirnod daearyddol Pentref X, fel y gellid defnyddio GIS neu feddalwedd arall addas. Ond os caf y rhestr, gallwn ystyried y broblem. Cloddiwr (sgwrs) 23:03, 27 Ebrill 2013 (UTC)
- Wedi gorffen llunio'r 3 Nodyn: Nodyn:Poblogaeth 3 oed+ 2011 Cymuned,[[Nodyn:Siaradwyr Cymraeg 2011 Cymuned a Nodyn:Canran Siaradwyr Cymraeg 2011 Cymuned. Gobeithio y cânt ddefnydd.Cloddiwr (sgwrs) 22:44, 27 Ebrill 2013 (UTC)
- Mae'r data crai wedi'i roi fewn i grombil Bot-Tom Crys ac mae hwnnw wedi creu un neu ddwy o erthyglau, fel prawf. Gallaf gynhyrchu'r gweddill wedyn o fewn munudau. Dyma'r rhai sydd wedi'u gwneud fel Prawf: Bodffordd, Bodorgan a Bryngwran. Unrhyw sylwadau / newidiadau? Llywelyn2000 (sgwrs) 13:31, 28 Ebrill 2013 (UTC)
- Rwyt ti'n cymysgu sail y boblogaeth: 3+ oed yw'r rhai o dabl KS207, nid y boblogaeth gyfan. Rwyf newydd olygu Y_Barri i ddangos Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd 5,459 (11.1%) o boblogaeth (3 oed a hŷn) Cymuned y Barri yn gallu siarad Cymraeg.[1]. Dyna sy'n gywir a'r patrwm y byddwn yn ei argymell. Mae'n bwysig hefyd cael y ffynhonnell yn gywir. Eto, fel ag y mae ar gyfer y Barri: 'Tabl KS207WA Cyfrifiad 2011' h.y. mae'r URL yn fwy manwl ac rwy'n cynnwys manylion y tabl lle ceir y data. Wn i ddim o ble gest nifer y diwaith - am nad wyt wedi cofnodi'r ffynhonnell yn fanwl - felly ni allaf gynnig barn a yw'n gywir. Da iawn dy fod yn gwneud hyn, heblaw fy mod wedi gwastraffu f'amser yn creu'r Nodynnau rwy'n cymryd? Ble allaf weld cod y bot? Hoffwn wybod sut wyt ti'n delio â'r broblem o wahaniaethu rhwng Cymuned/pentref. A beth am fy ngwestiwn blaenorol: ble mae'r rhestr o 4 mil pentref?Cloddiwr (sgwrs) 21:52, 28 Ebrill 2013 (UTC)
- Na, does dim cymysgu - ychwanegu poblogaeth gyfan y gymuned dw i wedi wneud. Does bron yr un o'n herthyglau'n cynnwys gwybodaeth am boblogaeth ein cymunedau yn seiliedig ar ddata 2011 ac mae angen cynnwys hyn. Ble ges i'r wybodaeth yma? 2011 census ks101ew - usual resident population; Gweler yma. Ffynhonnell y data ar y nifer (a'r canran) diwaith ydy ks106ew.
- Efallai i ti feddwl i ti ddefnyddio'r boblogaeth gyfan o KS101 ond nid dyna sy'n ymddangos. Mae tudalen Bodorgan, e.e yn dweud 'roedd 904 o bobl yn byw yn y gymuned hon'. Y boblogaeth 3+ oed yw honno, o dabl KS207. Y boblogaeth lawn, o KS101 yw 921. [1].Cloddiwr (sgwrs) 20:29, 29 Ebrill 2013 (UTC)
- Na, does dim cymysgu - ychwanegu poblogaeth gyfan y gymuned dw i wedi wneud. Does bron yr un o'n herthyglau'n cynnwys gwybodaeth am boblogaeth ein cymunedau yn seiliedig ar ddata 2011 ac mae angen cynnwys hyn. Ble ges i'r wybodaeth yma? 2011 census ks101ew - usual resident population; Gweler yma. Ffynhonnell y data ar y nifer (a'r canran) diwaith ydy ks106ew.
- O ran cyfeiriadaeth, ni ellir rhoi cyfeiriadaeth gwbwl gywir-fanwl, gan fod y data'n cael ei greu "ar y fflei" yn y fan a'r lle. Dw i'n credu fy hun fod cyfeiriad i'r adran hon o'r wefan yn dangos y ffynhonnell i'r dim gan adael i'r darllenydd ddewis y maes "Cymuned" a'r "thema" (iaith, poblogaeth, diweithdra ayb). Mae un cyfeiriad fel hyn yn dderbyniol wedyn am bob data a ddaw ohoni. Ond os dymuni ffynhonnell i'r thema unigol, wel gwych, does dim gwahaniaeth gen i.
- Rwy'n credu bod yn sgwrs yn profi'r anhawster o wybod o ble mae'r ffugurau'n tarddu. Rwyf yn gryf o'r farn y dylid nodi'r union dabl. Rwyf dan anfantais am na wn sut mae'r bot yn gweithio (eto, ydy'r cod i'w weld rywle?) Unwaith i ti benderfynu ar gynnwys y paragraff safonol, e.e. y bydd y poblogaeth pob oed, nifer y siaradwyr, a'u canran, plws beth bynnag arall, mae'r union ffynhonnell wedi ei phenderfynu (h.y. tabl KS101, KS207 etc. Byddai 'Tablau KS101EW, KS207WA, ... Cyfrifiad 2011' yn gwneud i'r dim.(Os am arbed ychydig o lythrennau gellid gollwng yr 'EW' a'r 'WA'. Mae enwau'r tablau'n unigryw hebddynt.)Cloddiwr (sgwrs) 20:29, 29 Ebrill 2013 (UTC)
- O ran cyfeiriadaeth, ni ellir rhoi cyfeiriadaeth gwbwl gywir-fanwl, gan fod y data'n cael ei greu "ar y fflei" yn y fan a'r lle. Dw i'n credu fy hun fod cyfeiriad i'r adran hon o'r wefan yn dangos y ffynhonnell i'r dim gan adael i'r darllenydd ddewis y maes "Cymuned" a'r "thema" (iaith, poblogaeth, diweithdra ayb). Mae un cyfeiriad fel hyn yn dderbyniol wedyn am bob data a ddaw ohoni. Ond os dymuni ffynhonnell i'r thema unigol, wel gwych, does dim gwahaniaeth gen i.
- Dydw i ddim wedi defnyddio'r Nodion a wnest ti gan nad ydyn nhw'n gymathadwy efo'r Bot. Does na ddim yn dy atal rhag eu gosod fesul un, wrth gwrs. Yr opsiwn arall ydy eu gosod gyda'r data crai.
- Does dim ots gen i a ydyn nhw'n cael eu defnyddio. Profiad dysgu gwerthfawr i mi ddysgu sut i'w creu ond mae'n debyg na fyddwn wedi trafferthu pe gwyddwn fod modd i'r bot wneud hebddynt.Cloddiwr (sgwrs) 20:29, 29 Ebrill 2013 (UTC)
- Dydw i ddim wedi defnyddio'r Nodion a wnest ti gan nad ydyn nhw'n gymathadwy efo'r Bot. Does na ddim yn dy atal rhag eu gosod fesul un, wrth gwrs. Yr opsiwn arall ydy eu gosod gyda'r data crai.
- Mi ddechreuais i'r penawd yma yn y Caffi er mwyn ceisio ehangu'r wybodaeth ar ddata'r Cyfrifiad a dw i'n falch dy fod wedi ymateb a chychwyn ar hynny; cymuned o bobl sy'n cydweithio ydy Wicipedia, dyna ei chryfder. Dw i hefyd yn croesawu defnyddio un set o ddata sy'n bwydo i fewn i erthyglau unigol, er enghraifft drwy Nodion, neu'n ddata crai. Felly dw i wedi rhoi'r holl ddata sy'n berthnasol i hyn
yn famaar Google doc / Drive. Y gwendid yn dy ddull di o gyflwyno'r data (fel rwyt wedi'i wneud hyd yma) ydy eu bont mewn 4 gwahanol le, ac mae'n rhaid iddyn nhw fod mewn un lle er mwyn i'r Bot fedru ei ddarllen. O ffeil CSV mae'n darllen, felly byddai'n rhaid i mi wedyn dynnu'r wybodaeth o'r un lle canolog ar Wicipedia i fewn i ffeil CSV, ond mater bach ydy hynny os yw'r wybodaeth wedi'i osod yn daclus mewn colofnau safonol. Y dull hawddaf i wneud hyn fyddai rhoi ffeil Excel neu Open Office ar Google Drive. Be ti'n feddwl?- Dydy'r ddolen uchod ddim yn arwain at ddim - does dim tudalen ar gyfer Cyfrifiad 2013 (yn ffodus!), na 2011 (dy fwriad gobeithio) ar hyn o bryd. Dydw i ddim yn gweld llawer o blaid cynnwys tablau data o fewn wicipedia. Does dim angen cyn belled â bod y ffynonellau'n cael eu cofnodi'n ddigon manwl. Gallem gydweithio drwy rannu ffeil ar Google Drive. (Gyda llaw, mae eisiau gofal gydag Excel pan yn defnyddio'r wyddor Gymraeg: mae'n hawdd iawn colli'r acenion wrth drosglwyddo o ffeil Excel i csv. Mae ffeiliau fformat Google Drive'n llawer mwy dibynadwy gydag encodio UTF-8.)Cloddiwr (sgwrs) 20:29, 29 Ebrill 2013 (UTC)
- Mi ddechreuais i'r penawd yma yn y Caffi er mwyn ceisio ehangu'r wybodaeth ar ddata'r Cyfrifiad a dw i'n falch dy fod wedi ymateb a chychwyn ar hynny; cymuned o bobl sy'n cydweithio ydy Wicipedia, dyna ei chryfder. Dw i hefyd yn croesawu defnyddio un set o ddata sy'n bwydo i fewn i erthyglau unigol, er enghraifft drwy Nodion, neu'n ddata crai. Felly dw i wedi rhoi'r holl ddata sy'n berthnasol i hyn
- Hyd y gwela i, a chywira fi os ydw i'n anghywir, yr opsiynau sy gennym ydy hyn: naill ai cydweithio a chreu a gwiro un Ffynhonell Ddata neu fynd ati ar wahan yn copio a phastio data iaith ac yna niferoedd diwaith ac yna niferoedd a anwyd yng Nghymru ac yna.... A gan bod dros 860 cymuned mi gymerith hi ioncs! Ond o grynhoi dy Nodion di gyda'r data crai a datblygu'r Ffynhonnell Ddata (a dyna ydy'r gwaith anodd!) mi allwn wedyn yrru'r data i'r erthyglau unigol mewn dau gach.
- Fel dywedais uchod, paid â phoeni am y Nodion, a chydweithio drwy rannu ffeil Google Drive amdani.Cloddiwr (sgwrs) 20:29, 29 Ebrill 2013 (UTC)
- Hyd y gwela i, a chywira fi os ydw i'n anghywir, yr opsiynau sy gennym ydy hyn: naill ai cydweithio a chreu a gwiro un Ffynhonell Ddata neu fynd ati ar wahan yn copio a phastio data iaith ac yna niferoedd diwaith ac yna niferoedd a anwyd yng Nghymru ac yna.... A gan bod dros 860 cymuned mi gymerith hi ioncs! Ond o grynhoi dy Nodion di gyda'r data crai a datblygu'r Ffynhonnell Ddata (a dyna ydy'r gwaith anodd!) mi allwn wedyn yrru'r data i'r erthyglau unigol mewn dau gach.
- Mae'r canran y boblogaeth a anwyd yng Nghymru hefyd yn ddiddorol ac yn addas ar gyfer y Wici, felly dw i wedi ychwanegu hynny yn y Ffynhonnell Ddata, hefyd.
- Rwyt ti'n holi am y data Trefi a Phentrefi sydd gen i. Mae rheiny wedi eu casglu o Wici a mannau eraill dros y blynyddoedd (ee GeogData); 5060 i fod yn fanwl gywir gyda'r maesydd yn cynnwys: Enw Saesneg, enw Cymraeg, enw amgen, Cyfesurynnau OS, Cyfesurynnau daearyddol, enw'r Sir ac enw'r Sir Draddodiadol. Yr hyn sydd ddim gen i ydy enwau'r pentrefi / trefi sydd ym mhob Cymuned. O wneud hyn gallem roi gwybodaeth data'r Cyfrifiad ym mhwb pentref a thref, yn hytrach na dim ond 860 ohonyn nhw. Rwyt ti'n holi sut mae gwahaniaethu rhwng cymuned a phentrefi ayb. Os edrychi ar [[Categori:Trefi a phentrefi Gwynedd]] a gweddill y siroedd fe weli bod na filoedd mwy nag o gymunedau. Fel dw i'n dweud ma dros 5,000 o bentrefi a threfi a nifer ohonyn nhw'n gwneud un Cuymuned. Ti'n dweud Y broblem gyda 'phentrefi' yw nad oes diffiniad ohonynt. - anghytunaf. Mae nhw wedi'u diffinio gennym ni ar Wicipedia mewn erthygl am y lleoliad. Mae hynny'n cael ei gadarnhau mewn ieithoedd eraill. Yn fyr felly, mae'n rhaid derbyn 1. y gall un pentref neu dref fod hefyd yn Gymuned a 2. gall nifer o bentrefi gael eu cyfri fel clwstwr yn Gymuned. Ar wefan Ystadegau'r Alban mae nhw'n rhestru'r pentrefi hyn o dan y Gymuned (neu Blwyf); ac fe allwn ni ddarganfod y wybodaeth gyfatebol er mwyn cynyddu nifer yr erthyglau o 860 i 5060.
- Gaf i weld y data sy gyda thi am y trefi/pentrefi?Cloddiwr (sgwrs) 22:39, 9 Mai 2013 (UTC)
- Beth rwy'n ei olygu wrth ddiffiniad yw bod ffin (ddigidol) wedi ei phennu. Fodd bynnag, gwelaf fod cyfeirnod OS ar gael ac fe allai hynny wneud y tro. Gyda'r rheini, gan ddefnyddio GIS, byddai modd creu rhestr yn dangos pob tref/pentref o fewn Cymuned. Wn i ddim a oes gen i amser i wneud hynny, ond os wnei di rannu'r data drwy ffeil Google Drive gallwn edrych ar y posibiliadau. Ar hyn bryd beth wyt ti'n wneud? Cysylltu'r data â thudalen o'r un enw rwy'n cymryd. Mae hynny'n rhesymol, cyn belled bod y testun yn egluro beth sy'n cael ei ddangos yn gywir. e.e. 'Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd xxx o bobl yn byw yng Nghymuned XXX a...', h.y. enwi'r Gymuned yn benodol bob tro, fel rwyf wedi ei wneud ar dud. Y Barri: 'Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd 5,459 (11.1%) o boblogaeth (3 oed a hŷn) Cymuned y Barri yn gallu siarad Cymraeg.'Cloddiwr (sgwrs) 20:48, 29 Ebrill 2013 (UTC)
- Gobeithio nad ydy'r druth yma ddim wedi dy flino'n ormodol! Roedd hi'n amhosib ateb dy ymholiadau heb hyn! Gobeithio y cytuni i ddatblygu'r gwaith ymhellach. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:28, 29 Ebrill 2013 (UTC)
- Rwyt ti'n holi am y data Trefi a Phentrefi sydd gen i. Mae rheiny wedi eu casglu o Wici a mannau eraill dros y blynyddoedd (ee GeogData); 5060 i fod yn fanwl gywir gyda'r maesydd yn cynnwys: Enw Saesneg, enw Cymraeg, enw amgen, Cyfesurynnau OS, Cyfesurynnau daearyddol, enw'r Sir ac enw'r Sir Draddodiadol. Yr hyn sydd ddim gen i ydy enwau'r pentrefi / trefi sydd ym mhob Cymuned. O wneud hyn gallem roi gwybodaeth data'r Cyfrifiad ym mhwb pentref a thref, yn hytrach na dim ond 860 ohonyn nhw. Rwyt ti'n holi sut mae gwahaniaethu rhwng cymuned a phentrefi ayb. Os edrychi ar [[Categori:Trefi a phentrefi Gwynedd]] a gweddill y siroedd fe weli bod na filoedd mwy nag o gymunedau. Fel dw i'n dweud ma dros 5,000 o bentrefi a threfi a nifer ohonyn nhw'n gwneud un Cuymuned. Ti'n dweud Y broblem gyda 'phentrefi' yw nad oes diffiniad ohonynt. - anghytunaf. Mae nhw wedi'u diffinio gennym ni ar Wicipedia mewn erthygl am y lleoliad. Mae hynny'n cael ei gadarnhau mewn ieithoedd eraill. Yn fyr felly, mae'n rhaid derbyn 1. y gall un pentref neu dref fod hefyd yn Gymuned a 2. gall nifer o bentrefi gael eu cyfri fel clwstwr yn Gymuned. Ar wefan Ystadegau'r Alban mae nhw'n rhestru'r pentrefi hyn o dan y Gymuned (neu Blwyf); ac fe allwn ni ddarganfod y wybodaeth gyfatebol er mwyn cynyddu nifer yr erthyglau o 860 i 5060.
Felly ymlaen i gydweithio ar Google docs a ni! Bril! Mae fy ebost ar ochr chwith fy Nhudalen Defnyddiwr. Mi ddanfona i ddolen i'r ddogfen, ar droad yr ebost! Llywelyn2000 (sgwrs) 04:45, 30 Ebrill 2013 (UTC)
- Er bod risg i unrhyw un ei addasu, dw i'n meddwl i gyd-fynd gydag ysbyryd agored y Wicipedia y dylai gosodiadau'r ddogfen Google fod ar agor i bawb eu gweld o leiaf, hyd yn oed os ddim i bawb ei addasu. Fel wiki, mae modd gweld hen fersiynnua hefyd dw i'n meddwl.--Ben Bore (sgwrs) 08:38, 30 Ebrill 2013 (UTC)
- Syniad da, Rhys. Dyma'r ddolen: Ffynhonnell Data Cyfrifiad 2011. Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:18, 30 Ebrill 2013 (UTC)
- Ti'n iawn ynglyn a thabl KS207: niferoedd sy'n siarad Cymraeg ydy honno. Diolch; gad i ni wiro'r ddogfen Google Doc i sicrhau fod popeth yn gywir cyn cychwyn! Fe weli mod i wedi nodi mewn coch yr erthyglau nad oes gennym ar Wici; mi af ati i'w creu yfory er mwyn ychwanegu data'r Cyfrifiad at y rhain. Beth am y geiriad canlynol: Yn ôl Cyfrifiad 2011 roedd poblogaeth Cymuned (TEITL YR ERTHYGL) yn (data ks101ew). Roedd (data ks207wa) ( ks207wa%) o'r boblogaeth) yn gallu siarad Cymraeg a (data ks204ew%) wedi'u geni yng Nghymru (o'i gymharu â chanran cenedlaethol o XX%). Roedd y nifer di-waith yn y gymuned yn (data ks106ew) (data ks106ew%) o'i gymharu â XX% drwy Gymru). Awgrymaf ein bod (ar ol ei orffen) yn copio'r ffynhonnell o Google i Wici; mae'n gwbwl gywir i ni wneud hyn gan na fydd yr wybodaeth yma i'w gweld mewn erthygl ond yn hytrach mewn Nodyn.
- Rwy'n amau gwerth cynnwys nifer y diwaith o'r cyfrifiad, o leiaf yn yr un paragraff â data am yr iaith. Does 'na fawr o gysylltiad.Cloddiwr (sgwrs) 21:35, 8 Mai 2013 (UTC)
- Mmmm. Dw i'n siwr dy fod yn iawn. Beth am canran y mewnlifiad? Llywelyn2000 (sgwrs) 13:18, 9 Mai 2013 (UTC)
- Rwy'n amau gwerth cynnwys nifer y diwaith o'r cyfrifiad, o leiaf yn yr un paragraff â data am yr iaith. Does 'na fawr o gysylltiad.Cloddiwr (sgwrs) 21:35, 8 Mai 2013 (UTC)
- Diolch Cloddiwr am ddatblygu'r syniadau hyn. Mi fydd ychwanegu'r data (cywir!) yma'n gaffaeliad mawr i Wici. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:30, 1 Mai 2013 (UTC)
- Graffiau
Un posibilrwydd (angen yhwanegu'r cyfeiriadau ayb); gellid hefyd ychwanegu eitem arall ee Nifer sy'n galw eu hunain yn Gristnogion:
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]
- Dydy'r ganran sy'n siarad Cymraeg ym Modffordd - gan ei bod yn cyfeirio at bobl oed 3+ - ddim yn cael ei chyfrifo gan ddefnyddio poblogaeth (pob oed) Bodffordd, fel y gwyddost yn iawn erbyn hyn. Mae'r cyflwyniad hwn braidd yn rhyfedd felly yn anffodus.Cloddiwr (sgwrs) 22:34, 9 Mai 2013 (UTC)
- Mae'r ganran yma'n dod o ystadegau'r Cyfrifiad (Colfn I yn y tabl ar Google, sef ks207wa). Os mai cyfeirio at y ganran o'r holl boblogaeth y mae yna mi rwyt ti'n iawn mae'n gamarweiniol, oni bai fod y boblogaeth hefyd dros 3 oed. Wyt ti'n gwybod? Mi weli o dabl Google ffynhonnell y data, oes angen colofn arall? Mae croeso i ti ei ychwanegu. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:36, 10 Mai 2013 (UTC)
- Unwaith eto! Mae'r ganran sy'n gallu siarad Cymraeg yn gywir, ac wedi ei seilio ar y boblogaeth oed 3+ (fel erioed), nid yr holl boblogaeth, h.y. pawb, pob oed.Cloddiwr (sgwrs) 23:15, 11 Mai 2013 (UTC)
- Mae'r ganran yma'n dod o ystadegau'r Cyfrifiad (Colfn I yn y tabl ar Google, sef ks207wa). Os mai cyfeirio at y ganran o'r holl boblogaeth y mae yna mi rwyt ti'n iawn mae'n gamarweiniol, oni bai fod y boblogaeth hefyd dros 3 oed. Wyt ti'n gwybod? Mi weli o dabl Google ffynhonnell y data, oes angen colofn arall? Mae croeso i ti ei ychwanegu. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:36, 10 Mai 2013 (UTC)
- Mae'r nifer / canran y rhai sydd wedi'u geni yng Nghymru'n ddiystyr heb ei gymharu efo'r cyfartaledd cenedlaethol, byddai ychwanegu hwnnw (fel da ni wedi'i wneud efo'r nifer sy'n siarad Cymraeg) hefyd yn ychwanegiad gwerthfawr. Efallai codio lliw i ddangos hynny hefyd. Mi wna i hynny rwan, i weld oes na ormod o wybodaeth ynddo, dyna'r peryg efallai. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:36, 10 Mai 2013 (UTC)
- Byddai graff arall ar nifer y siaradwyr Cymraeg dros yr hanner can mlynedd diwethaf hefyd yn wych. Ond a ydy'r data ar gael? Llywelyn2000 (sgwrs) 06:48, 10 Mai 2013 (UTC)
- Dim fesul Cymuned, nac ydy.Cloddiwr (sgwrs) 23:15, 11 Mai 2013 (UTC)
- Byddai graff arall ar nifer y siaradwyr Cymraeg dros yr hanner can mlynedd diwethaf hefyd yn wych. Ond a ydy'r data ar gael? Llywelyn2000 (sgwrs) 06:48, 10 Mai 2013 (UTC)
- Cloddiwr annwyl! Dy sylw Unwaith eto!: 11 Mai. Ti'n dweud fod y canran siardwyr Cymraeg yn y tabl yn gywir? Dydy hi ddim yn eglur be ydy'r broblem, os oes problem. Wnei di newid y data yma os nad ydy'r data'n gywir, os gweli di'n dda?
- Data hanesyddol: gallem ddefnyddio data cymunedau am y blynyddoedd 2011, 2001, 1991, 1981. Efallai fod hynny'n ddigon, neu greu colofn arall o blwyfi sifil, cyfatebol, gan eu bont yn eitha tebyg. Gellid diweddaru hwn bob 10 mlynedd yn hawdd gyda bot. Be ti'n feddwl? Llywelyn2000 (sgwrs) 06:34, 14 Mai 2013 (UTC)
- Enwau lleoedd (Canolfan Bedwyr): dw i ddim yn meddwl y bydden nhw'n rhyddhau'r basdata a does dim cyfeiriad at ba bentrefi sydd o fewn Cymuned beth bynnag, hyd y gwela i.
- Wyt ti'n hapus efo gweddill y graff? Ble mae ffigyrau Canrannau drwy Gymru ar gael? Diolch am dy help.
- Llywelyn2000 (sgwrs) 06:34, 14 Mai 2013 (UTC)
- Diolch am ymateb drwy ebost. Dw i wedi ceisio egluro fod y canran sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd dros 3 oed ac nid yr holl boblogaeth. Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:24, 19 Mai 2013 (UTC)
Canran y diwaith
golyguDw i'n meddwl bod y tabl yma'n edrych yn dda iawn, ond dw i'n meddwl bod gwall ar y manylion am y di-waith. Yn erthygl Llansannan, mae'r ffigyrau canlynol:
- Poblogaeth cymuned Llansannan (pob oed) (1,335) 100%
- Y nifer dros 16 sy'n ddiwaith (Llansannan) (157) 28.8%
Os ydy fy mathamateg i'n iawn, golyga hyn mai 545 (157/28.8 x 100) yw'r boblogaeth 16+ oed, sef dim ond 40% (545/1,335) o'r holl boblogaeth? Mae unai canran y diwaith yn anhywir, neu mae'r ffigwr am boblogaeth 16+ yn anghywir.--Ben Bore (sgwrs) 08:51, 24 Mai 2013 (UTC)
Y cwbwl sydd angen ei wneud i weithio allan y canran diwaith ydy dilyn y ddolen yn y cyfeiriadau a roddir i wefan nomis a chwilio am ddata ks106ew; 2011 census ks106ew - adults not in employment a'r ffigurau'n dilyn, mewn colofnau. Mae'r canran yn dilyn, ond canran y rhai mewn gwaith yw hwn, nid y diwaith! Mae hyn yn gamarweiniol iawn ganddyn. Diolch am sbotio hyn. Cofia, mi roddais y ffigurau i fyny ar Google docs dair wythnos cyn eu cyhoeddi i bawb eu gwiro. Ond mater bach fydd i BOT-Twm Crys newid y graff. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:01, 25 Mai 2013 (UTC)
- Mae'r newidiadau yn eu lle. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:08, 26 Mai 2013 (UTC)
Cwbwlhawyd y graffiau
golygu- Rhoddwyd graff iaith / gwaith / poblogaeth ar bob Cymuned (dros 900). Addaswyd enwau'r cymunedau hefyd yn unol a'r enwau safonol. Diolch i Cloddiwr a Ben / Rhys am gadw llygad ar bethau. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:46, 29 Gorffennaf 2013 (UTC)
Cwestiynnu ffigyrau
golyguCafwyd sylw ar dudalen sgwrs Ciliau Aeron ynnglŷn â'r ystadegau ac o edrych ar y ddolen fyfnhonell mae'n gynnig, mae yna amrwyiaeth sylweddol yn y ffigyrau poblogaeth. Dwi wedi cymharu ffigyrau erthygl Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch a gwefan ONS ac mae gahaniaeth. Dallt bod lot o waith wedi mynd i mewn i hyn, ond oes angen ailedrych ar y ffigyrau i gyd?--Rhyswynne (sgwrs) 14:52, 19 Chwefror 2014 (UTC)
- Fel y gweli yn fy ateb i ti ar dudalen Sgwrs:Ciliau Aeron - mae dy ffigurau di'n berthnasol i wardiau etholiadol ac nid i ffiniau cynghorau cymuned. Fedrwn ni gadw'r drafodaeth i un lle, nei mi eith hi ar chwâl. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:55, 19 Chwefror 2014 (UTC)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.